Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twrn

twrn

Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.

Mem yma ddeg o'r gloch ac yn dweud bod rhaid i mi ffonio Elsie a dweud wrthi am newid ein twrn ac yn ychwanegu ei bod hi wedi syrffedu ar y ddwy Saesnes cyn i ni anghydweld ynglŷn â rhyfel y Falklands; gofyn iddi geisio bod yn rhesymol.

Ar ôl twrn o waith hynod o galed gydag archeb drom, barn John Williams - un o'r gweithwyr tun mwyaf profiadol oedd mai Phil, yn ddiamheuol, oedd y dyn cryfaf yn y gwaith, ac yr oedd yn hawdd cytuno gydag ef.

Mi ddudodd hi y basa'n rhaid i ni gyd gymryd twrn ar ei chario hi - un bob ochr, am ei bod hi'n drwm, a Defi John a Jim fuo raid neud gynta.

Eto, ni chofiaf weld Daniel yn ildio i'r gwres o gwbl, eithr yr oedd digon o ruddin ynddo i ddal ati hyd ddiwedd y twrn.

Ac yn ail, os na fedrai Elsie newid y rhestr i gynnwys Hannah, gwraig Huw, a Rubi capel ni i ymuno â ni ar bob twrn, yna, 'doedd hi, bellach, ddim yn awyddus i barhau yn aelod o gangen y League of Friends A'i bod yn edifarhau am ei bod wedi ymuno am oes.