Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tybiaethau

tybiaethau

Y mae'n weddol amlwg fod llawer o'r tybiaethau y seilir y model uchod arnynt yn rhai afrealistig.

Y mae cysylltiad agos rhwng y tybiaethau sy'n ymwneud â buddsoddiant (iv) ac â phrisiau (v) a'r dybiaeth olaf (viii).

Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.

O ollwng tybiaeth (viii) felly, gellir hepgor tybiaethau (iv) a (v) yn ogystal.

Yn unol â'r dull hwn, tybiaethau dechreuol dros dro yw llawer o'r tybiaethau y mae Ffigur I yn seiliedig arnynt.

Cyn inni symud ymlaen i archwilio pa ddiffygion sy'n perthyn i'r theori uchod, buddiol yn gyntaf fydd rhestru'r tybiaethau y mae'r model a ddisgrifir yn Ffigur I yn seiliedig arnynt:

Gadewch inni droi felly i ystyried pa wahaniaeth y byddai gollwng rhai o'r tybiaethau hyn yn ei wneud i gasgliadau'r model dechreuol.