Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tybiai

tybiai

Ond oherwydd ei bod hi'n dywyll, bu'n rhaid craffu i weld golau'r llong ar y môr yn y pellter, ond tybiai sawl un ei bod yno.

Tybiai y byddai ci mwy cyffredin yn fwy addas iddo fo; ci y gallai chwarae gydag o, un a fyddai'n ffrind iddo a heb fod yn rhy ddrud i'w brynu.

Mae'n wybyddus i lawer sut y bu i William ymadael â'r Methodistiaid yn Llansannan yn sgil penderfyniad yr henaduriaid i ddiarddel ei gyfaill Joseph Davies am ei fod wedi cerdded adref ar fore Sul i ymweld â'i wraig ar ei gwely angau, fel y tybiai ef ar y pryd.

Tybiai fod cynnwrf ydiwrnod wedi bod yn ormod iddi.

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Roedd y gwynt yn llenwi ei ffrag hi ac oni bai am y boen yn ei glustiau tybiai y gallasai fod yn hapus yno.

Yn ôl pob golwg, yr hyn a wnaeth oedd bwrw golwg dros waith William Morgan gan gywiro neu awgrymu gwelliannau lle y tybiai fod hynny'n angenrheidiol.

Tybiai fod y gyrrwr wedi mynd i gadw'r modur yn un o'r siediau.

Tybiai Merêd y gallai fod yn hwyl - ond nid efo Dilys.

O'r herwydd, tybiai Saunders Lewis a Maurras, fel y gwna deallusion y Dde yn gyffredinol, mai gelynion Ffrainc a'r gwareiddiad Ewropeaidd oedd Voltaire, Rousseau a Diderot, yr hanesydd rhyddfrydig, Jules Michelet, a llenorion fel Victor Hugo, Emile Zola ac Anatole France; pob un, yn wir, o'r llu ardderchog o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac athronwyr a gytunai â Gruffydd mai 'trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod'.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Nid bod pethau erioed wedi bod fel y tybiai rhai o'r di-Gymraeg, wrth gwrs, ac eto, mae'n hawdd deall pam fod rhai'n teimlo eu bod yn cael eu hesgymuno.

Tybiai y byddai'r weithred olaf hon yn dod â heddwch o'r diwedd iddi hi a'i thri phlentyn.