Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tybio

tybio

Ni allwn ond gobeithio na fydd yr hen Nessie yn tybio mai abwyd sydd yn y dwr ac yn neidio amdano.

Gellid tybio bod cangen silicon mewn cemeg sydd yr un mor amrywiaethol a'r gangen garbon.

Mae'r manylion am y cymdogion hyn yn troi i ffyrdd mor wrthgyferbyniol yn gorfodi haneswyr i holi a yw hi'n iawn tybio fod y Diwygiad Methodistaidd yn codi o achosion cymdeithasol?

Erbyn hyn y mae'r tybio hwn yn peri i mi ymwaradwyddo, ond, o'i drin yn fanylach fe welid gormod o'm diffygion i.

Er nad ydw i'n ddoctor rwyn credu ei bod yr un mor rhesymol tybio y gallair dewis anghywir o lyfr wneud dirfawr ddrwg i rywun hefyd.

Hawdd fyddai tybio y byddai'r fath ddôs yn dryllio nerfau'r cryfaf!

Camgymeriad hefyd fuasai tybio mai alltud dieithr i Gymru oedd Elfed.

Ni fodlonodd Daniel a Bebb ar annog: rwy'n tybio i'r ddau ymladd am seddau ar gyngor Dinas Bangor, ac aeth Bebb, beth bynnag am Daniel, yn aelod ar ôl cynnig neu ddau.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Anllythrennog hollol, fel y buasid yn tybio, yn eu mamiaith ac yn Lladin, oedd mwyafrif llethol lleygwyr y cyfnod.

Wrth gwrs fy mod in cydymdeimlo ar pedair mil o blant syn dioddef ond mewn oes pan ydym yn ymddiried cymaint o bethau i gyfrifiaduron y mae rhywbeth yn llesol mewn gweld nad yw y rheini mor anffaeledig ag y mae rhai ou gweision yn tybio.

Hynny yw, mae'n rhesymol tybio y byddai llenor yn meddu ar dreiddgarwch Danied Owen yn datguddio mwy ohono ei hun yn ei waith.

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Os ydy hi am fy ngweld i, mi fyddai hi'n dweud ei bod hi'n marw er mwyn i mi ddod ati, am y byddai hi'n tybio na fyddwn i'n dod am unrhyw reswm arall.'

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Pan gyrhaeddson nhw, buan y gwelodd Sandra nad oedd pethau mor syml ag yr oedd wedi tybio.

Mae'n syndod pa mor niferus yw'r rhai sy'n tybio y gallant berthyn i eglwys ar eu telerau eu hunain a chredu beth a fynnont, heb ystyried beth yw gofynion Iesu Grist.

Yn ôl ymchwil newydd gan ysgolheigion yng Nghaer-lyr a Sheffield, gellir tybio mai Chaucer ei hun oruchwyliodd beth o waith copïo a golygu y llawysgrif cyn ei farwolaeth ar Hydref 25, 1400.

Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.

Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

"Felly roeddwn i'n tybio." Cyn iddi fedru'i osgoi, tynnodd hi i'w freichiau a'i gwasgu ate i fron.

Rwy'n tybio fod dau reswm pam yr esgeuluswyd campwaith theatrig R.

Fe'm trawyd yn rhyfedd ar fy ymweliad cyntaf ag Ysgol Haf o'r Blaid fod pobl yn tybio mai plaid wleidyddol oedd y cyfrwng priodol ar gyfer gweithredu uniongyrchiol, pa un a oedd y weithred honno yn un y gellid ei chyfiawnhau ai peidio.

Yr oedd yno dy yn cael gwerthu diodydd meddwol am dair awr bob dydd; meddwais innau yno, ac euthum gyda dynes ddu o Hottentot, ond nid ar feddwl da, fel y gellid tybio.

Mae'n nhw'n ddiogel yng nghanol y tabl ac fe ellid tybio na fyddan nhw'n cymryd y gêm ormod o ddifri.

Mi fyddwn i'n tybio felly y byddai apêl yr Harry Potter diweddaraf yn fawr iawn pe byddai yn llyfr Cymraeg ac yntau dros chwe chan tudalen i gyd.

O'r hyn lleiaf, gellir tybio hynny, os teg yw casglu mai efe oedd awdurdod y Parch.