Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tymer

tymer

Bu mewn tymer ddrwg am yn agos i saith mlynedd!

Ac wrth estyn croeso nôl yn oedfa gyntaf Medi, Gwilym Haydn yn dweud fod e'n gobeithio fy mod i'n hoffi'r lliw, lliw meddai oedd yn adlewyrchu tymer y gweinidog yng nghwrdd eglwys mis Gorffennaf!

Erbyn hyn roedd tymer y dorf yn eirias.

Mawr fu y tynnu coes ar lawer amgylchiad, ond ni welais ef erioed yn colli tymer er i'r tynnu coes fod bron yn greulon weithiau.

Fel rheol chi yw'r arwydd cynta i ddweud eich meddwl, ond rydych chi'n rhyfedd o dawedog yr wythnos hon, yn fyr eich tymer ac yn byw ar eich nerfau.

Beth bynnag fo tymer yr haul, y gwynt a'r glaw, gellir derbyn fod y rhew wedi cilio o'r tir am gyfnod.

Y mae tystiolaeth naws, tymer ac arddull y Seren Ogleddol, yr un mor bwysig.

Roedd hi mewn tymer mor wyllt ar y dechrau fel mai prin y sylwai ar yr hyn oedd yn digwydd yn y sedd gefn nac yn y byd oddi allan i'r car bach coch, ac fe'i cafodd ei hun rai milltiroedd o'i chartref, yn teithio ar gyrion Llundain, cyn i'w thymer ostegu digon iddi sylwi ar ddim.