Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tymhestlog

tymhestlog

Mae'r awyrgylch sydd yma'n nes at ysgafalwch canu Dafydd ap Gwilym nac at nwydau tymhestlog Pantycelyn.

Yr oedd yn ddull newydd, tymhestlog, rhy frochus hyd yn oed i Thomas Charles o'r Bala, y gwr y byddai clywed John Elias yn bwrw drwyddi'n codi croen gwydd arno.

Mae'n amlwg bod y tyfiant tymhestlog yma wedi bod yn rhy gyflym i ni addasu'n syniadau i dderbyn y newydd.

Pwy wyr nad yw'r nofel fawr a'r gerdd f`awr am y glowr Cymraeg nid i godi o faes glo tymhestlog y De, ond o faes glo llai trystfawr y gogledd-ddwyrain.