Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tymor

tymor

Mae wythwr Pontypridd, Dale McIntosh, wedi torri ei fraich a nid yw'n debyg o chwarae eto y tymor hwn.

Mewn brawddeg, felly, gellir disgrifio'r model a bortreadir yn Ffigur I fel model cydbwysedd rhannol, tymor byr, dau sector.

Mae Croesoswallt, y clwb o Loegr, wedi sicrhau tymor arall yn y Cynghrair Cenedlaethol.

I ymosodwr Wrecsam, Lee Trundle, ddaeth yn seren dros nos ers ymuno â Wrecsam o'r Rhyl, mae'r tymor wedi gorffen yn siomedig.

'Mae Jimmy Maher yn dod heddi - mae e wedi ca'l cyfartaledd o 70 dros y tymor yn Awstralia.

Dechrau y tymor byddai yn "llogi% un o'r

* Helpu unigolion i ddatblygu a chynnal rhwydwaith eang o gysylltiadau cymdeithasol a pherthnasau personol - o gysylltiadau a chyfeillgarwch anffurfiol ac achlysurol i berthnasau tymor-hir.

Daeth tymor Cymdeithas y Chwiorydd i ben gyda gwibdaith ar nos Wener lawog ym mis Mai.

'Collon ni gwpwl o geme dyle ni fod wedi ennill ddechre'r tymor.

Cywaith tymor hir fyddai casglu baw adar a rhoi'r samplau mewn potiau i weld pa blanhigion sy'n tyfu ohonyn nhw.

Roedd Tymor Cyngherddau'r Mileniwm yn cynnwys 20/20 - A Vision of Our Time lle arweiniodd Mark Wigglesworth, y cyfarwyddwr cerdd, weithiau gan 20 o gyfansoddwyr gorau'r 20fed ganrif mewn chwe chyngerdd.

Abertawe a Wrecsam fydd yn cystadlu am y Cwpan Cenedlaethol y tymor hwn, ar ôl i'r ddau ennill eu gemau rownd gyn-derfynol yn eitha cyffyrddus neithiwr.

Cynhelir ymchwiliad i'r ddamwain yn Râs Fformiwla 1 gynta'r tymor yn Melbourne.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Mae ysgrifennydd Bangor, Alun Griffiths, wedi dweud bod y clwb am ddechrau edrych am reolwr newydd - gyda'r rheolwr presennol, Meirion Appleton, yn cymryd swydd fel swyddog datblygu ieuenctid ddiwedd y tymor.

Bydd gan Ferthyr - sy'n yr un adran - reolwr newydd y tymor nesaf.

Cysurwn fy hun er mor ddiweddar y tymor fod y blodau yn araf yn dod ar y drain duon.

Mae hyfforddwr Caerdydd, Lyn Howells, wedi cyhoeddi y bydd e'n gadael y clwb ar ddiwedd y tymor, ar ôl dwy flynedd wrth y llyw ar Barc yr Arfau.

Mae swyddogion Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia am weld cyfyngu'r tymor rygbi rhyngwladol i gyfnod o chwe mis.

Nes i mi, oedd yn dod o gwm diwydiannol yn y de sylweddoli fod tymor wyn bach yn galw am ofal a bugeilio ymroddedig, ac wedi'r wyna, oedden, roedden nhw nôl yn eu seddau.

Fe'u huriai i ymwelwyr yn yr haf, ond ni yr hogiau lleol fynddai'n mynd a nhw ar y dwr ddechrau'r tymor ermwyn i'w coed chwyddo - eu 'stanshio' nhw ys dywedem.

Yn rhagarweiniad i'w gynllun ymunodd a dosbarth nos, er ei bod yn hwyr yn y tymor.

'Y tymor nesa, y nod fydd gwneud yn well yn Ewrop.

Wel yn y tymor byr y briodwedd fwyaf deniadol yw'r un electronig.

i mewn, daw mike hall yn lle scott gibbs sy'n debyg o fod allan o'r tîm cenedlaethol am y tymor oherwydd yr anaf a gafodd yn erbyn canada a nigel davies am fod neil jenkins yn symud i safle'r maswr.

Stori gyfarwydd oedd hi yn gêm arall y Cwpan Cenedlaethol - Caerdydd yn curo Llanelli, sy'n cael tymor anodd yn y Cynghrair Cenedlaethol, ar Barc Ninian.

Cyhoeddwyd y grwpiau ar gyfer Cwpan Heineken y tymor nesa ddoe.

Yn ystod y tymor fodd bynnag fe aeth amryw o'r clybiau ati i drefnu cystadlaethau ymhlith ei gilydd a thrwy hynny cafodd nifer o'r aelodau gyfle i ymarfer gyda'r gwaith dan anogaeth arbenigwyr fel HR Jones a Twynog Davies i enwi ond dau a fu'n hyfforddi aelodau yn dawel bach.

'Roedd angen ennill y cwpan arnon ni i gael rhywbeth o'r tymor ond wnaeth hynny ddim digwydd.

Fodd bynnag mae un adran o'n garddio all fod yn fwy trafferthus nag arfer inni eleni yn ystod y tymor tyfu, pryfetach gelyniaethus a chlefydau.

Dwi ddim yn awgrymu fod yr holl enwi, cardiau melyn a choch ar cwynion a glywson ni yn ystod y tymor yn anghyfiawn.

WS Mae yna werth aruthrol mewn cynllunio tymor hir, fel ein bod yn cael gwybodaeth ymlaen llaw am natur dramau.

Mae'n bosib na chaiff chwarae eto cyn diwedd y tymor oherwydd yr anaf.

Ond mae cytundebau nifer o chwaraewyr yn dod i ben ddiwedd y tymor a mi fyddan nhw'n awyddus i greu argraff.

'Mae wedi bod yn dymor siomedig - mae'r haf i ffwrdd gynnon ni a rhaid i ni weithio'n galed ac edrych ymlaen i'r tymor nesa.

Nid dyma'r tro cyntaf iddo fo gael helynt efo dyfarnwr y tymor hwn.

Mae'n dychwelyd i Brydain yr wythnos yma wedi tymor llwyddiannus yn Nhŷ Opera Efrog Newydd ac yn mynd ar daith i Glasgow, Birmingham, Llundain a Manceinion.

Maent yn ffurfio oriel y tu allan i'r llawr cyntaf lle ceir pedwar cerflun yn cynrychioli'r pedwar tymor.

Mae Robert Howley yn ôl yn y tîm ar ôl colli ei le yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad y tymor diwetha.

Ond un tymor arall yn unig a gafodd ei dreulio yn yr ysgol honno.

Mae'n edrych yn annhebygol nawr y bydd Lee Trundle yn chwarae eto i Wrecsam y tymor hwn.

Mae'n cymryd y pnawn yma'n rhyd, fydd e ddim yn cael llawer o amser rhydd yn ystod tymor yr ymelwyr, ac felly fe ofynnodd i mi fynd i nofio gydag e.

Caerdydd, pencampwyr y tymor diwetha, yw'r ffefrynnau i ennill y Cynghrair unwaith eto.

Ar hyn o bryd nifer afrwydd o glybiau fydd yn y cystadlaethau hynny y tymor nesa - ond fe allai hynny newid ddechrau tymor 2002.

Yn y rownd derfynol y tymor cynt, roedd blaenwyr Castell Nedd wedi llwyddo i roi crasfa go iawn i ni, ac wrth gwrs, roedd

Roedd Tymor Cyngherddaur Mileniwm yn cynnwys 20/20 - A Vision of Our Time lle arweiniodd Mark Wigglesworth, y cyfarwyddwr cerdd, weithiau gan 20 o gyfansoddwyr goraur 20fed ganrif mewn chwe chyngerdd.

Mae hyfforddwr Clwb Rygbi Penybont-ar-Ogwr, Dennis John, wedi dweud mai dehongliadau o'r rheolau yn ymwneud â'r ryc sy'n gyfrifol am ddiffyg llwyddiant clybiau Cymru yn Yr Alban y tymor hwn.

Yng Nghaerdydd neithiwr, 'roedd Undeb Rygbi Cymru'n cyfarfod i drafod, ymysg pethau eraill, strwythur cystadlaethau'r tymor nesa, nifer y clybiau fydd yn y cystadleuthau hynny, a'r cwestiwn o glybiau'n esgyn a disgyn i'r Prif Gynghreiriau y tymor ar ôl nesa.

A gwneud hynny yn y fath fodd fel nad oedd gan y Saeson y galon i fynd i nôl eu gwobr am ddod yn bencampwyr y tymor.

Mae sibrydion bod chwaraewr canol-cae Cymru, Craig Bellamy, am symud o Coventry - tasai'r clwb yn disgyn o'r Uwch-gynghrair ddiwedd y tymor.

* a ydyw eich ysgol wedi cytuno i'ch rhyddhau yn ystod y tymor ac a gadarnhawyd trefniadau llanw?

Bydd John Toshack yn newid ei swydd efo Real Sociedad ar ddiwedd y tymor.

Bydd Huddersfield yn yr Ail Adran efo Wrecsam a Chaerdydd y tymor nesa.

Hon fydd gêm ola'r tymor yng Nghynghrair Cymru a'r Alban, gêm ola y cefnwr Mike Rayer a gêm ola Lyn Howells fel hyfforddwr y clwb.

Cymerodd Corws Cenedlaethol Cymru hefyd ran mewn dau o gyngherddau mwyaf y tymor yn Neuadd Dewi Sant, gan lwyfannu eu cyngerdd eu hunain yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Cafwyd llawer o awgrymiadau am gyfarfodydd ar gyfer y tymor nesaf fydd yn dechreu yn gynnar ym mis Hydref

Yn sgil y cawdel a ddigwyddodd ynglŷn â phenodi Cyfarwyddwr Addysg dros-dro yn Sir Gâr, sylweddolodd Rhanbarth Caerfyrddin fod angen symud ymlaen o'r ddadl ynglŷn â'r penodiad unigol hwnnw at faes polisi sylfaenol a fyddai'n creu newid tymor hir yn natur y Cyngor Sir.

'Fe gollodd ei le yn nhîm Cymru y tymor dwetha ond fe ddaeth 'nôl a dangosodd e fod cymeriad cryf gydag e.

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

'Mae o wedi dangos y tymor yma bod o'n fodlon rhoi ei arian lle mae ei geg o.

"Yn sicr mae hyn yn newyddion da iawn i'r ardal yn y tymor byr a hir."

Gan nad beth, creadur y gwanwyn yw'r oen, ac arferais gredu, yn gam neu'n gymwys, bod a fynno tarddiad enw'r tymor cyntaf â ffurf lluosog y term 'oen'.

Enillodd Abertawe, pencampwyr Cynghrair Rygbi Cymru a'r Alban am y tymor, ei gêm olaf yn erbyn Penybont neithiwr 35 - 20.

Ac yna, tua diwedd y tymor hwnnw, dyma hi'n codi yn storm anferth.

Efallai bod y dryswch ynglyn â phatrwm prif gynghrair Cymru y tymor nesa ar fin cael ei ddatrys.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Y gobaith y tymor nesaf yw cyfarfod â swyddogion Cyngor Gwynedd a rhoi ein gofynion am Ddeddf Eiddo yn glir iddynt.

PIGION Eisteddfodau lleol: Aeth tymor yr eisteddfodau lleol heibio bellach am eleni, ac yn ardal y Plu cafwyd dwy wyl yn y dosbarth yma, sef eisteddfod Seilo a'r Foel.

Llewellyn fydd capten Castell Nedd y tymor nesaf.

Roedd Castell Nedd yn gobeithio gwneud iawn am golli i Gaerdydd ym munud ola ei gêm ddechrau'r tymor.

Hon yw gêm ola'r tymor i'r ddau glwb, a gallwn ddisgwyl tipyn o barti.

Ddechreuon ni ddim yn rhy dda ond ni wedi gwella fel mae'r tymor yn mynd yn ei flaen.

Mae capten Clwb Criced Morgannwg, Steve James, wedi cadarnhau mai Adrian Dale fydd ei is-gapten y tymor nesaf.

Maent yn croesawu'r datblygiad hwn a chredant na all hyn ond gwella yn sgîl y gwaith sydd ar y gweill erbyn hyn i ddatblygu cynlluniau tymor hir PDAG".

'Mae wedi bod yn dymor hir, tymor caled.

Gwelir y penderfyniad i leoli'r ffilmlo yn lleol fel hwb enfawr a fydd yn gwneud lles i economi'r ardal yn y tymor byr a hir.

Tŷ'r Cymry Agorwyd tymor newydd y Gymdeithas Gymraeg yn y Crypt Eglwys Mihangel Sant gyda rhaglen wedi ei threfnu gan yr ysgrifennydd.

Erbyn cyrraedd y Foryd roedd wedi cynefino â'r heli - ac am bedwar tymor bu'n pesgi ar larder fras yr Iwerydd.

Mae Gareth Jenkins, hyfforddwr Clwb Rygbi Llanelli, wedi bod yn cwyno am drefn gemau'r tymor.

Roedd yn rhaid cadw Matthew Bound ar ôl y tymor dwetha, roedd en chwaraewr allweddol yn ein hymdrech ni i ennill pencampwriaeth yr adran, meddai Jason.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Oherwydd bod y tri ohonom yn ffans i'r grŵp, roedden ni'n gweld Y Cyrff fel grŵp i gydweithio â nhw yn y tymor hir.'

Y mae hefyd yn her i'r Llywodraeth a holl aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu dros yr iaith Gymraeg yn ystod y tymor cyntaf hwn.

Ac ar ôl cyfarfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a chynrychiolwyr y clybiau neithiwr mae gobaith bod y broblem ynglyn â strwythur y tymor nesa yng Nghymru wedi'i ddatrys.

Mae prif glybiau Cymru'n cyfarfod a'r Undeb eto heno i gytuno ar amserlen gemau'r tymor nesa.

'Roedd ychydig bach o siarad falla bydda fo'n mynd i adael - ond y tymor dwetha pan gawson nhw ddyrchafiad roedd pawb yn hapus yn Abertawe.

Mae e allan am weddill y tymor gydag anaf i'w bigwrn.

Nid maestref oedd Penrhosgarnedd ei ieuenctid, ond cymuned wledig, amaethyddol gan fwyaf, a'i bywyd yn troi o gwmpas gwaith y tymor, addoldy, ffair, a phlas Y Faenol.

Bydd Scott Mitchell, ail faswr Casnewydd, yn chwarae i Lyn Ebwy y tymor nesaf.

Am ei bod yn wlad Farcsaidd, roedd Ethiopia'n derbyn llai o lawer o arian ar gyfer cynlluniau datblygu tymor hir na'r un wlad arall yn Affrica.

Yr oedd yn ddiweddglo rhyfeddol gyda hyn yn digwydd am yr eilwaith i Forgannwg y tymor hwn.

Ysywaeth yn ystod y tymor hwn o'r flwyddyn, byddaf wrth fy modd yn croesi Clawdd Offa i chwilio am rai ohonynt.

Ond maen rhaid gwneud pethau fel hyn i gadwn ffit ar gyfer y tymor nesaf.

Unwaith eto y tymor hwn fe dalodd Bangor yn ddrud am eu diffygion amddiffynnol.

Mae tymor trychinebus cricedwyr Morgannwg yn parhau.

Ar derfyn y tymor hoffen ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y cyfarfodydd, ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf.

Bydd on chwarae i Lyn Ebwy y tymor nesaf ar ôl cyfnod digon anhapus yng Nghaerfaddon.

Hyd troad y ganrif hon ystyrid Dydd Calan fel diwrnod pwysicaf y tymor yng Nghymru, ond yn ystod y ganrif hon fe'i disodlwyd gan y Nadolig.

Tymor o ewyllys da oedd hwn ond ar wahân i'r bobl a oedd yn gwneud arian trwy werthu pethau at y Nadolig, doedd neb yn edrych yn llawn o ysbryd y Nadolig o gwbl, a doedd e ddim yn gallu deall pam.

Mae'n dod i'r pen yn y frwydr am y pumed safle yng Nghwpan Heineken y tymor nesa.