Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tyner

tyner

Dim ond wedi mynd i'r ysbyty mae, mynd yno i wella i gad dod 'nôl at Robin bach.' A gwasgodd wyneb tyner y plentyn rhwng ei dwylo.

Ceisiodd Hector groesawu brwdfrydedd y gwynt llym, gan obeithio magu lliw haul, neu, o leiaf, liw tywydd ar ei groen tyner.

Agorodd y ffenest a phwyso ar y rhan isaf i lenwi ei hysgyfaint ag awyr iach a dotio ar lesni tyner yr awyr.

Cafodd ofal tyner gan ei chwaer Edith a chymorth gan ei chwaer Peggy.

Llais soprano swynol a thlws iawn, yn arbennig lle'r oedd galw am berfformiad tyner.

dan ei thraed gwichiai a chleciai'r brigynnau coed, ac o rywle deuai siffrwd tyner annirnad i dorri ar y distawrwydd.

Os byddai'r adeilad yn wych a phobl bwysig yn byw ynddo pwysig yn ein barn ni cofiwch, nid o reidrwydd yn marn pobl eraill fe fyddem yn canu'r emyn a ganlyn: 'Odlau tyner engyl O'r ffurfafen glir Mwyn furmuron cariad Hidlant dros y tir' hyd ddiwedd y pennill cynta'.

Yn wir, ar ôl ambell i gêm yr ydw i fy hun wedi bod yn disgwyl clywed tyner lais y gwaredwr mawr yn galw arnaf innau hefyd.

Hydref oer, Ionawr tyner.