Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tynnai

tynnai

Tynnai am chwarter i saith.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

Mynegais hynny wrth Arthur, a gofyn iddo prun o'r ffyrdd hynny a'm tynnai tua Bangor.

Tynnai'r rhain oll nerth a swcwr at eu hamcanion o'r cynnydd mewn masnach, addysg, celfyddyd, diwylliant a balchter gwladol a lleol y buwyd yn cyfeirio atynt eisoes.

Tynnai at derfyn ei daith; yr oedd yn nosi drachefn.