Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tynnodd

tynnodd

"Ein dyfodol ni'n sicr, a Maes y Carneddau'n ddiogel - darn o Gymru wedi ei achub." Tynnodd ei llaw yn dyner dros y clais ar ei dalcen, clais oedd yn dechrau diflannu erbyn hyn.

Tynnodd Elystan ei fantell oddi ar yr hoel a thaflodd hi dros ei ysgwyddau.

Ar yr un pryd tynnodd ef sylw y ddirprwyaeth at ddyletswydd y Llywodraeth i sicrhau cludo bwyd a phobl, ac i ddiogelu'r cyhoedd ac eiddo.

Yna tynnodd ddystar a guddiwyd ganddi o dan ei chlustog, a dechreuodd rwbio'r darnau'n gariadus.

Ar un ochr, tynnodd lun powlen pysgodyn aur, ar yr ochr arall, bysgodyn.

Yn y set ol, tynnodd Willie ei het a'i gosod ar ei lin; tynnodd ei law'n ofalus dros y gwallt tenau uwch ei glustiau.

Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.

Tynnodd Gwen y caead cardbord am y degfed tro.

Tynnodd ei lun a cheisio canfod oedd gan y bachgen deulu yn dal i fyw yn lleol.

Siaradodd Mrs Thatcher yn wych, tynnodd y tocynnau raffl a hebryngais hi drwy'r dyrfa gan ysgwyd llaw gyda chyn gymaint âg oedd yn bosib tuag

Tynnodd cyfaill fy sylw at lun yn y Rhondda Leader o ddarpar ymgeisydd seneddol Llafur y Rhondda gydag asyn.

Tynnodd Jabas lun arall cyn clymu'r cwch wrth hen fodrwy haearn rydlyd.

Tynnodd Aun ddarn o bren un deg wyth centimedr o hyd o'i fag a cheisio mesur y pysgodyn aflonydd o faen ei drwyn i fforch ei gynffon.

Tynnodd Alun ei gyllell o'i boced a thorri'r lein.

Tynnodd fol afal a phwt o gortyn o boced ei drwsus a'u cyflwyno fel tystiolaeth.

`Hwyrach mai ti yw'r hynaf, ond nid ti yw'r cryfaf.' meddai'r grŵp Tynnodd Paul y drws eto â'i holl nerth.

Tynnodd neb ei llygaid oddi arni tra'n ei gwylio'n cynhyrchu tri threfniant gwahanol, pob un yn brydferth.

Tynnodd y ddau grys ohono'n ofalus a'u cadw yn y cwpwrdd dillad i gael gwared a'r plygion.

Tynnodd ei gôt, bwyta'r bwyd a rhedeg allan heb dalu.

Tynnodd Gruffydd ei Nodiadau cyntaf i ben gan broffwydo y byddai'r mater yn cael sylw llawnach maes o law a chyfeiriodd y darllenydd at erthygl R.

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Darn bach.' Fel y proffwydasai Ap Menai, tynnodd wyneb - ond wyneb o fwynhad digymysg.

Tynnodd un o'r bechgyn ffilm gyfan o luniau, ond yr un a ddewiswyd ar gyfer yr album oedd yr un o'r blodau wedi eu gosod ar ffurf THANKSGIVING.

Drws troi oedd o a chafodd drafferth i wthio trwyddo, ond wedi llwyddo, yn reddfol, tynnodd ei het fel pe bai wedi cyrraedd y capel.

`Nawr amdani ...' Tynnodd linyn y bwa gwydr ffibr yn ôl a saethodd saeth fry uwchben y wal.

hynny yw, mi ddylai rhywun dynnu cynffon Anti Meg fel y tynnodd hi gynffon y gath slawer dydd.'

Tynnodd y milwr ei fapiau allan ac egluro'r cynllun arfaethedig i'r dynion o'i amgylch.

Tynnodd allan barsel taclus o bapur newydd.

Tynnodd y Doctor ei bapurau swyddogol o'i boced a'u dangos.

"Felly roeddwn i'n tybio." Cyn iddi fedru'i osgoi, tynnodd hi i'w freichiau a'i gwasgu ate i fron.

Tynnodd y pibydd ei bib o'i boced a dechrau ei chanu eto.

Wedi dewis man da ar lan yr afon tynnodd Alun ei focs pryfaid genwair o'i fag.

Tynnodd y llysiau o'r fasged a'u gosod yn chwaethus o flaen yr allor ac ar sil y ffenestri.

Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.

Tynnodd yr allwedd o'i phoced ond cyn ei rhoi yn nhwll y clo canodd y gloch fel y gwnâi bob tro ym mhob tŷ i ddangos ei bod wedi cyrraedd.

Brysiodd yn ffrwcslyd tua'r sêt fawr, agor y llyfr emynau, ledio pennill a dweud wrth y gynulleidfa, 'Gellwch chi canu hwn ar eich tina.' Ar ganol ei bregeth un pnawn trymaidd, tynnodd o boced ei wasgod ffiol fechan o wydr.

tynnodd a thynnodd, ond methai â'i chael yn rhydd.

Tynnodd Graham Henry ei grys coch a cherdded mâs chwarter awr cyn y diwedd.

Tynnodd un allan.

Gallai estyn y blodyn yn hawdd, a heb oedi rhagor, tynnodd Idris y petalau siocled a'u llarpio'n awchus.

Tynnodd pawb eu ffonau clust ar unwaith, a disgwyl.

Tynnodd ambell lun wrth gerdded ar y planciau rhwng y cychod.

Tynnodd y bechgyn eu papurau o'u pocedi a'u dangos iddo.

Tynnodd ef o'i logell a gweiddi ar y lleill, 'Fe ddaeth yr amser i brofi anrheg y ddraig.' Cymerodd ychydig o'r llwch ohono a'i daflu drosto'i hun a'i ferlyn.

Lleisiau'r bechgyn a'i tynnodd yn ôl i dir rheswm.

Tynnodd Del eu hoglau'n ddwfn i'w hysgyfaint.

Ar ganol dadlwytho'r geriach, tynnodd modur Americanaidd anferth i mewn.

Tynnodd David lun Eluned a minnau yn dal y troffi yn y man a'r lle â'i fflach-gamera, er na luyddodd ond i dynnu arlliw o ddwy ddrychiolaeth annelwig, heb sôn am hynodbeth y ddwy gaib.

Tynnodd hi â'i holl nerth, ond roedd y gadwyn yn rhy gryf.

Tynnodd ei gap yn is am ei ben, gan dynhau ei sgarff i gadw ei hun yn weddol gynnes.

Cododd pan ddaethant drwy'r drws, ac wedi eu cofleidio a gwneud yn siwr fod y drws ar glo, tynnodd fap enfawr o'r dref o ddrôr y cwpwrdd.

"Mi fyddwn yn siwr o besgi yn dda." Yna tynnodd bistol bychan o'i phoced a dechreuodd ei lanhau yn ofalus.

Tynnodd gerdyn o boced ei siaced siarcol a'i roi i mi.

"Whiw!" Tynnodd y car i ochr y ffordd ac edrych ar y llaw fu'n anwesu ei bronnau fel petai honno'n ffynhonell pob drygioni.

Gan fod ei sgidie fe'n frwnt fe'u tynnodd nhw cyn mynd lan y staer, a wir i chi fe ddalodd ei wraig yn y gwely gyda'r cowmon.

Tynnodd ei hun i fyny a chlywed ei fantell yn rhwygo ond roedd gweld golau dydd o'i flaen yn rhoi hwb newydd iddo.