Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tystio

tystio

Mae cofnod ar gael sydd yn tystio i ffyddlondeb arbennig Hugh Evans, Ty'n y Gilfach, yn y capel hwn, pan nad oedd neb ond ef am gyfnod i gyflawni swydd blaenor.

Byddai'r cetris gweigion niferus ar ochrau ffordd y Cob yn tystio i'r gyflafan.

Profiad oes yn tystio i minnau werth ei gyngor.

Er hynny, mae'r cread yn tystio i fawredd Duw.

Ar ei dystiolaeth ei hun bywyd digon ofer a fu ei hanes am ran helaeth o'i oes, ond daeth i brofiad trwy droedigaeth o'r Crist yn gwaredu, a threuliodd y rhan olaf o'i oes yn tystio i ddawn yr efengyl yn achub hyd yr eithaf.

Y mae'r gyfrol ragorol hon yn tystio i'w allu a'i wybodaeth ac yr wyf siwr ei bod hi hefyd yn ernes o gynhaeaf bras i ddyfod.

Y mae dadansoddiad o nodau uchder ar fapiau AO, fel yr enwau Glan-yr-afon a Rhyd Lydan, yn tystio ymhellach i'r ffaith mai i'r gorllewin o'r llwybr presennol y gorweddai llwybr gwreiddiol Afon Cefni o ad-drefnu'r rhwydwaith traenio crewyd sianelau dwr hollol newydd, sianelau y rhoddwyd enwau penodol iddynt.

Mae mwy nag un cyhoeddiad o'i eiddo yn tystio fod Peter Williams yn hoœ o gymhleth-bethau'r dychymyg, yn fwy hoœohonynt na neb arall o'r prif Fethodistiaid.

Cwblhaodd Ieuan Gwynedd ei gerdd olaf - a'i orau - dridiau cyn ei farwolaeth ac anodd peidio â chredu nad yw 'Cân y Glo%wr' yn tystio'n groywach i realiti bywyd yng Nghymru na 'Bythod Cymru'.

Mae batiwr Morgannwg a De Affrica, Jacques Kallis, wedi tystio bod y capten Hansi Cronje wedi dod ato fo a dau chwaraewr arall - Lance Klusener a Mark Boucher - cyn y gêm yn erbyn India ym Mis Mawrth a dweud ei fod wedi cael cynnig i gollir gêm yn fwriadol.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i gymryd camau i derfynu gwasanaeth os bydd archwiliad meddygol yn tystio nad yw swyddog yn atebol ar gyfer y swydd ar ôl sicrhau na all ymgymryd â swydd ysgafnach os bydd un ar gael.

Fel y gwelir oddi wrth y Salmau, y mae byd natur yn tystio i ogoniant Duw ac felly yr oedd yn gwbl briodol gweu cyfeiriadau at fyd natur â chyfeiriadau at drugaredd a ffyddlondeb Duw wrth addoli.