Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tywod

tywod

Roedd fel gwylio rhywun ar draeth yn ceisio codi castell tywod wrth i'r tonnau olchi trosto.

Twyni tywod artiffisial

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.

Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.

Prin iawn yw'r gwylwyr a allai wahaniaethu rhwng milwyr Irac a milwyr Syria pan fyddan nhw yn llechu yn y tywod.

I ganol tywod â haid o gamelod wrth ein tina ni.

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Does dim yn y ddinas, dim ond tywod - dim blodau, dim glaswellt na dim byd arall.

Ni welodd erioed o'r blaen draethau mor lân, y tywod melyn heb ôl troed yn unman.

Safodd pawb ar y tywod.

Chwiliwch am yr amryw o blanhigion arfoor a ddaw i'r amlwg yma, wedi addasu eu hunain i wrthsefyll drycinoedd y glannau ac i sugno as chadw lleithder cyn iddo diflannu i'r tywod.

Ond ar Santorini tywod du, folcanig, sydd dan eich traed ar y traethau - ond wrth ichi blymio dan wyneb y dwr, a'ch snorcel a'ch masg am eich pen, mae'r pysgod amryliw i'w gweld yn eglur mewn dwr glân a'i lesni eang yn ymestyn ymhell o'ch blaen.

Tŷ ar y tywod

Mae'r un ddelfrydiaeth yng ngwyrdd y gwellt ac yn oren y tywod, ac yn hwn eto ceir afon yn rhedeg ar y tywod a dau blentyn yn chwarae wrth ei hymyl gyda phwced a rhaw - y ddau mewn trywsus cwta.

Sylwch fel y mae'r holl graig noeth a welwch wedi ei llyfnhau a'i gwneud yn grwn fe pe tai wedi cael ei rwbio â phapur tywod.

Ar ôl treulio cymaint o amser yn y tywod yn y rownd olaf dywedodd ei fod yn teimlo fel petaen chwaraen yr anialwch! Roedd 73 yn y rownd olaf ddim digon i sicrhau dim gwell na thrydydd safle.

Dechreuais ymesgusodu eto - ond ymlaen yr aeth Emli, fel llanw'r mor ymhlith cestyll tywod y plant ar y traeth.

Porthcawl, Langland, Oxwich a'r Mwnt padlo, pysgota efo rhwyd ac adeiladu cestyll ar y tywod yn ogystal ag yn yr awyr.

Aeth ar hyd y tywod melyn tuag atynt.

A chofiais am Ramon, brawd Fidel, yn disgrifio sut y byddai'r awdurdodau'n dod o hyd i ddillad nofwyr tanddwr wedi eu claddu yn y tywod.

Sail nifer o greigiau gwyrdd a phiws, creithiog fel cestyll adfeiliedig, yng nghanol y tywod sydd ymysg creigiau hynaf Cymru, yn dyddio o'r cyfnod cyn Gambriaidd.

Lledodd ei thywel ar y tywod a gorwedd arno.

Mae'r arwyddion cynnar yn argoeli'n dda i'r Clwb diweddara yma yng ngwlad yr haul a'r tywod.

Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.

Roedd ansicrwydd Woosnam yn amlwg, y tywod ar lawntiaun ddirgelwch llwyr iddo.

Mae yn Tros Gymru JE Jones ychydig gyfeiriadau cynnil dros ben at y barnau gwahanol hyn; ac mae'n sicr, wrth edrych yn ôl, fod yr awgrym sydd ganddo, mai crychni bach ar y tywod yn unig a adawyd ganddynt, yn weddol gywir.

Brechdan yn llawn o Dywod: mae'r pumed rhifyn o'r ffansin Brechdan Tywod newydd ei gyhoeddi ar tro yma fe gawn gyfweliadau gyda Gruff Rhys, Zabrinsky, Llwybr Llaethog a llawer mwy.

Cadwai ddarlun yn ei stydi o'r gofeb fawreddog i goffa/ u'r Diwygwyr yng Ngenefa a mynegodd y farn mewn llythyr y byddai'n rheitiach peth i bobl ifainc Cymru fynd i weld y gofeb honno ar eu gwyliau haf yn hytrach na gwagsymera ar draethau Sbaen - "lle nad oes dim byd ond tywod".

Roedd y tywod yn dal yn gynnes ar ôl gwres y dydd.

Daw'r calch o weddillion cregyn creaduriaid y môr yn y tywod a chwythwyd i'r tir gan y gwynt o'r de-orllewin.

Os ydach chi eisiau cop mae posib ei gael o siop Recordiau Spillers, Caerdydd neu drwy ei archebu am £1.50 a s.a.e. gan Brechdan Tywod, 8 Stryd Leopold, Caerdydd CF24 OHT - sieciau yn daladwy i Brechdan Tywod.

Aeth Rhys â hi draw at y pwll tywod ac aros yno gyda hi tra codai hi dwmpathau bach o dywod.

Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.

Un o ddisgynyddion gwŷr y traethau, y tywod gwyn, yr awyr a'r palmwydd glas oedd Joe Erskine ac wrth eistedd felny o flaen y tân, roedd ei wedi dechrau chwysu a gwamalu wrth y lleill ei fod e am wneud 'come back' a threchu Frank Bruno am ffortiwn yn ei ffeit gyntaf.