Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ucha

ucha

Craffwch ar y cerrig myllt o'ch cwmpas, yr ochr ucha'n llyfn ac olion plyciadau'r rhew ar yr ochr isaf.

aeth trwy ei feddwl y gallai gerdded i drillwyn ucha os na na, a chael tractor samuel preis i 'w symud i ochr y ffordd.

Mae Caerdydd yn yr wyth ucha ac os enillan nhw, a Brighton yn colli, efalle gwnan nhw godi i'r ail safle heno.

Y GARTH - CLEIFION: Roedd yn ddrwg gennym glywed for Mr Dyfnallt Morgan, Cilan, Garth Ucha yn yr ysbyty ers dros wythnos bellach.

Ond pa wendidau bynnag sydd i mi þ a rhinweddau, rai, yn ddiamau þ buont yn gyfrwng i droi Huwcyn, Ffridd Ucha, maes o law yn Sir (nid Syr) Hugh Evan Rowlands.

Hen blasdy gyda'r ucha o'r môr yng Nghymru - wedi ei adeiladu fel plas saethu i fyddigions troad y ganrif.

Tyddyn Ucha' amdani.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud mai gwaith dur Llanwern ger Casnewydd sy'n cynhyrchu'r gwastraff gwenwynig ucha yng Nghymru a Lloegr.

'Mae pawb yn gwybod be mae e'n gallu 'neud ar y lefel ucha.

Saif y pentref yng Nghwm Croesor sy'n ymestyn i ben ucha'r plwyf a'r ffin a phlwyf Ffestiniog.

...Pst!' Dadfachodd Dora y ffenestr a gollwng y darn ucha' i'r gwaelod nes bod ergyd.

Yna, agorwyd drws mawr derw a hyrddiwyd y ddau i mewn i ryw ystafell ym mhen ucha'r castell, a bolltio'r drws ar eu holau.

Fe fyddai Emyr wedi medru dweud wrth ei fam-yng-nghyfraith yn ddigon plaen, er yn gwrtais, eu bod nhw wedi ailystyried ac na fyddent wedi'r cwbl yn dod i dreulio'r Nadolig yn Nhyddyn Ucha' eleni.

trillwyn ucha oedd y lle agosaf ond ni wyddai 'r un o 'r tri a oedd yno deleffon.

Roedd rhediad ucha'r bencampwriaeth o fewn ei gyrraedd cyn iddo fethu coch.

Mae e'n moyn rhoi cyfle i'r bechgyn hyn i whare ar y safon ucha.

Mae 11 o ddisgyblion blwyddyn 12 YSGOL GYFUN LLANHARI wrthi'n trefnu alldaith i Forocco, lle y bwriadwn ddringo fynydd ucha'r wlad.

Dywedodd Graham Henry bod perfformiad Neil Jenkins a Robert Howley yn Ffrainc ddydd Sadwrn wedi profi eu bod nhw'n chwaraewyr o'r safon ucha.

Mae'n neis bod 'nôl ar y lefel ucha.

Ond, bellach, gyda gwasanaeth cwmnïau fel Easyjet - sydd gyda llaw yn derbyn dros 90% o'r trefniadau dros y we, sef yr ucha' yn y diwydiant - mae rhyddid gan y defnyddiwr i greu pecynnau unigol wedi'u teilwrio'n arbennig i ofynion y teithiwr.

Mae'r mawn yn raddol godi tu ucha i'r llyn ac ymhen amser fe allai lenwi'r llyn yn gyfangwbl.

Bu ond y dim imi benderfynu neithiwr fy mod am adael y Ffridd Ucha.

Y tymheredd ar ei ucha'n 17°C (63°F). Heno: Noson gymylog efo posibilrwydd o ambell gawod.

'Dan y cynllun newydd bydd sicrwydd bod wyth bob tro yn chwarae yn erbyn yr wyth ucha.

'Rwyn gobeithio medra i chwarae'n gyson, ac ar y safon ucha.

Pam y priododd Huwcyn, Ffridd Ucha, â Saesnes o dras?

Tyddyn pymtheg erw o dir gwael mynyddig oedd y Ffridd Ucha, tyddyn rhy fach i gynnal teulu, hyd yn oed yn nechrau'r ganrif.

'Dydw i'n hidio dim am ei flas o 'chwaith, er fy mod i'n barod i gyfaddef fod byd o wahaniaeth rhwng cegiad o ddþr tap a chegiad o dan y pistyll bach ym mhen ucha'r cae.

A dywed sylwebyddion y gallai'r mater gael ei setlo yn y llys ucha, Y Llys Goruchaf yn Washington.

Cafodd gobeithion Lerpwl o orffen yn nhri ucha'r Uwch Gynghrair - ac o chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa - hwb neithiwr.

Cofiaf fy mod i a'm chwaer yn rhedeg i ben ucha'r ardd i edrych am yr angladd, ac yn rhedeg yn ôl i'r tŷ i ddweud fod y dynion yn dechrau dod.

Williams yn weinidog yma - y cyntaf mae'n debyg - yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r blaenoriaid oedd: John Jones, Segrwyd Isa; Owen Jones, Y Foel; a John Ellis, Garnedd Ucha.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Nid pawb a all gael addysg Gymraeg a'r ucha'n y byd yr wyt ti'n dringo mynydd addysg mae'r Gymraeg, fel ocsigen, yn mynd yn fwy ac yn fwy prin.

Mae hynny'n golygu bod tîm Gerard Houlier wedi colli'r cyfle i godi i'r tri ucha yn y tabl.

Gall llwybrau ucha'r Wyddfa fod yn beryglus ganol gaeaf ac felly yn aml iawn cadw ar y llethrau is fyddaf wrth gerdded gyda'r plant bryd hynny.

Rwy i wedi whare am amser hir i Forgannwg a mae'n bwysig i fi bo fi'n trïo whare ar y lefel ucha.

Mae Pontypridd yn seithfed a Llanelli yn bumed a'r ddau dîm yn awyddus i orffen yn y pum ucha er mwyn cael chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.

Rhedeg i ben ucha'r ardd eto ac yn ôl i'r tŷ drachefn.