Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uchafbwynt

uchafbwynt

Roedd buddugoliaeth Caerdydd oddi cartre yn erbyn y Saracens yn uchafbwynt y penwythnos diwetha.

Uchafbwynt arall yn natblygiad yr Antur oedd agor eu siop - Siop Bryn Pistyll - ym mis Medi eleni.

Yn syml iawn mae hon yn fendigedig, ac yn uchafbwynt wefreiddiol i'r EP.

Balchder oedd un o'r rhesyme am yr agwedd, oherwydd bydde ennill y cwpan yn uchafbwynt teilwng i flwyddyn y canmlwyddiant.

Camp raenus oedd ei gwrs addysg trwodd a thro, a chyrraedd ei uchafbwynt trwy gipio'r prif wobrwyon yn Rhydychen a'i ethol yn Gymrawd o Goleg Lincoln, a dyfod yn un o ddarlithwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol.

Mae yna le arbennig ym mhen arall yr Ynys hefyd yn 'd oes Angharad, ac uchafbwynt hudolus...

Pa un ai ydynt yn rhai arbenigol neu'n rhai cyffredinol, heb os nac onibai, sioeau cŵn yw uchafbwynt byd y sioeau yng Nghymru.

Uchafbwynt y llys godidog hwn oedd cyfieithu'r Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg.

Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.

Yna daeth uchafbwynt y rali .

Mae'r diweddglo rhethregol yn cwblhau'r broses o dderbyn y farwolaeth trwy ffarwelio'n ffurfiol â'r gyfathrach a fu rhwng y bardd a'i fab, gan gyrraedd uchafbwynt hynod effeithiol gyda'r cyfarchiad syml a thyner, 'Siôn fy mab'.

Hwn oedd uchafbwynt y dinistr a'r hoelen farwol yn arch yr hen gymdeithas gynefin gymdogol.

'Roedd yno radio,flynyddoedd cyn i ni gael un yn Nhy Capel, fy nghartref erbyn hynny, ac uchafbwynt y pnawn fyddai'r darllediad a ddechreuai tua dau o'r gloch - Llundain yn galw pellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.

Yr uchafbwynt i mi, mae'n debyg, oedd y cyfnod rai wythnosau ar ôl y rhyfel pan gefais groesi Twrci i Ogledd Irac i ddilyn tynged y Cwrdiaid.

Uchafbwynt yr EP o bosib ydi gwaith Steven ar y gitâr flaen.

Mae'n pontio hanes y Cread - a mwy - oherwydd mae'n agor gyda'r paratoi ar gyfer y creu ac yn olrhain gweithgarwch Crist hyd at yr uchafbwynt pan fydd yn rhoddi'r Deyrnas i Dduw'r Tad.

Mae yma duedd i fewnoli Siôn fel gweddau ar bersonoliaeth ei dad, ei galon, ei fryd, ei nerth, ac yn uchafbwynt ar y cwbl, ei fabolaeth.

Uchafbwynt lluniaeth yr wythnos (sylwch ar y clefyd o'r ymadrodd ffasiynol newydd i olygu pethau ar y teledu!) wrth gwrs oedd y telynathon o'r HêndyGwyn-ar-Dâf.

Uchafbwynt yr EP – a hynny heb unrhyw amheuaeth – ydi Y Mudiad – yr unig gan Gymraeg.

Er i drefnwyr yr wyl orfod newid ychydig ar drefn y diwrnod wrth i grwpiau dynnu nôl, ni amharodd hynny o gwbl ar uchafbwynt Gwyl Pendrawr Byd.

Cynhyrchwyd darllediadau amlwg hefyd o'r Sioe Frenhinol Amaethyddol yn Llanelwedd, sef uchafbwynt y calendr gwledig.

Cyrhaeddodd ei fywyd o ufudd-dod ei uchafbwynt yn yr hunanymroddiad llwyr a wnaed ar bren er mwyn diddymu anufudd-dod Adda mewn cyswllt â phren.

Bydd tymor Coventry yn cyrraedd ei uchafbwynt yn Aston Villa ddydd Sadwrn ac yn ei gêm yn erbyn Bradford ar y diwrnod ola.

Mewn marchnata y mae'r gyfundrefn amaethyddol wedi newid, a rhywfodd neu'i gilydd deuir i'r casgliad nad oes dim o waith llaw dyn yn byw nac yn aros byth; mae'n tyfu ar ôl ei eni nes cyrraedd ei uchafbwynt as yna mae'n gwywo a marw.

Uchafbwynt yr ymweliad yma oedd gweld y Brifysgol wedi ei hagor a chyrsiau yn cael eu cynnig mewn coedwigaeth a bioleg y môr.

Sicrhaodd fod ei rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda'i chyflwyniad o gân allan o Sappho gan Gounod.

Helpwch ni i gario baner Cymru at uchafbwynt Morocco.

Y gri i ddiwygio'r Eisteddfod yn uchel drwy'r cyfnod ( gan gyfateb i'r gri i ddiwygio Cymru ei hun ), nes cyrraedd uchafbwynt yn Eisteddfod Machynlleth pan unwyd y ddwy elfen elyniaethus, Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd, yn swyddogol, a ffurfio corff newydd, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a gosod yr Eisteddfod ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol.

Ar derfyn dydd y daw uchafbwynt prysurdeb y rhaglenni newyddion.

Yna'r uchafbwynt - nos Sadwrn.

ch) y traddodiad offeiriadol aberthol yn dod i'w uchafbwynt a'i gyflawniad yng ngwaith Duw yn aberthu'r aberth eithaf ar ran dyn.

Gofynir hefyd os mai dechrau gyrfa barddonol tag uchafbwynt ydi ennill Coron neu Gadair.

Penodwyd uwch gynhyrchydd newydd, Terry Dyddgen-Jones, gynt o Coronation Street, i'r BBC a darlledwyd dwy bennod arbennig fel uchafbwynt i Noson y Mileniwm ar S4C.

Ar ôl Cwpan Lloegr yfory bydd Cwpan Rygbi'r Principality'n cyrraedd ei uchafbwynt ddydd Sul.

Uchafbwynt!

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.