Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uchelgais

uchelgais

"Mynd i'r Môr" oedd uchelgais bechgyn ei oes.

Gwelodd y Dirprwywyr fod uchelgais draddodiadol ysgolion yr Eglwys o wasanaethu plwyfi unigol nid yn unig heb ei chyflawni ond na ellid ei chyflawni byth, gan fod y drefn blwyfol ei hun wedi ymddatod.

Dywedid ei fod yn cynllwynio'r olyniaeth yn ei fab Dafydd, ond pan fo symudiadau'r amseroedd ac uchelgais dynion fel olwynion yn troi, ni all neb warantu'r un ufudd-dod yn ei farwolaeth.

Ac yntau'n ddi-nod ei uchelgais, nid yw o bwys iddo ef fod yn 'fodern' nac yn ffasiynol nac yn 'safonol': ychydig o fyfiaeth sydd ynddo.

Dymar actor a ddaeth i enwogrwydd cyffredinol yn sgîl y gyfres deledu Saesneg, Hornblower, ac a ddywedodd mai ei ddau uchelgais yw chwarae Romeo yn nrama Shakespeare a bod yn arwr mewn ffilm gowbois.

Pan ro'n i tua wyth oed, oedd gen i ryw uchelgais i gyhoeddi llyfr.

Nid yw uchelgais plentyn yn cymryd dawn i ystyriaeth.

Darlunia afon Gymreig - afon bywyd os mynnwch - yn dolennu'n araf drwy diroedd bras i gyfeiriad gwawr uchelgais: ac i ble y mae'n dirwyn?

Ac eto, mae ganddo ei uchelgais.

(heb werth rhech crachen ludw o uchelgais)...

Er hynny, yr oedd yr ysgol Sul yn gosod sylfaen da ac yn deffro uchelgais pobl i ysgrifennu.

Ein prif uchelgais yn ddiamau fydd darparu rhaglenni syn diwallu gofynion ein cynulleidfa ac yn rhoi gwerth am arian iddyn nhw, talwyr y drwydded.

Ond y mae'r penodiadu'n adlewyrchu uchelgais y Methodistiaid Calfinaidd i ymrestru gyda Phresbyteriaid, ac yn arbennig Presbyteriaid yr Alban.

Ein prif uchelgais yn ddiamau fydd darparu rhaglenni sy'n diwallu gofynion ein cynulleidfa ac yn rhoi gwerth am arian iddyn nhw, talwyr y drwydded.

Wel, i dyrau a phontydd Llundain lle mae'r strydoedd wedi'u palmantu ag aur a phyrth uchelgais yn wynebu tua'r byd.

Protestiodd Syr John Wynn mai ei brif uchelgais fel Swyddog lleol oedd cadw trefn a llywodraethu'n gytbwys a theg yn ei sir er iddo fethu â chyflawni hynny bob amser.

Uchelgais y clybiau hyn yw ennill dyrchafiad i Bedwaredd Adran Cynghrair Lloegr yn y pen draw.

Nid oes ganddo'r uchelgais i dorri cyt fel meddyliwr neu athronydd, er y gall fod ganddo feddwl chwim ac athroniaeth dreiddgar; a thybiaf finnau nad oedd mewn rhai cyfeiriadau neb llymach ei ddeall yng Nghymru yn ei genhedlaeth na Waldo Williams.

Sail y ddadl yw y gellir disgwyl gwell cyfraniad y tu ôl i'r llenni gan berson a fydd yn barod i lafurio'n dawel a diflino heb uchelgais i fod yn geffyl blaen.

Nid oes ganddo uchelgais hunan-chwyddedig i fod yn fardd cenedlaethol.

Rhan o uchelgais pob un o'r llywodraethwyr hyn oedd ymestyn ei awdurdod, hyd y gallai, dros yr Eglwys o fewn ffiniau'i diroedd.