Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uchelwrol

uchelwrol

Ceisid sicrhau'r cytundebau mwyaf proffidiol er mwyn gallu ehangu dylanwad dau gyff uchelwrol ac unioni cwrs datblygiad dau wehelyth o'r rhyw breintiedig.

Golygai ddiwedd y gwareiddiad uchelwrol mewn ardal neu gyndogaeth a thrychineb i drefn a sefydlogrwydd mewn cymdeithas.

Addas yw gofid Enid fel y buasai i ferch am ei chariad mewn twrnameint uchelwrol.

Yr oedd yn bigog iawn rhyngddo a'r Deon Edmund Griffith ac y mae'r berthynas honno'n enghreifftio nodwedd amlwg iawn ym mherthynas yr Eglwys a theuluoedd uchelwrol sir Gaernarfon.

O safbwynt tuth y stori mae deallusrwydd cyflym ac ymwarediad uchelwrol y cymeriadau yn ennill anfesuradwy am ein bod yn cael gwared a'r pwysigogrwydd' trymaidd a hirwyntog sydd mor aml yn cymylu'n delwedd ni o'r cyfnod.

Gwr o dras uchelwrol oedd Henry Rowland ac y mae'r ewyllys yn ein helpu i werthfawrogi sawl agwedd ar fywyd ac ymwybod cymdeithasol gwr o'r fath.

Yr oedd ei dad a'i fam yn hanfod o deuluoedd uchelwrol Cymreig, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oeddynt yn dal eu tir gan y Goron fel is- denantiaid i deulu pwerus Wyniaid Gwedir, ger Llanrwst, tirfeddianwyr mwyaf yr ardal o ddigon.