Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unben

unben

Mussolini yn dod yn unben.

Bydd y Grwp Addysg nawr yn dechrau ymgyrch gref yn erbyn Unben Addysg Cymru a'r Quangos, a thros Gyngor Addysg i Gymru.

Mi fyddai'n eli i galon unrhyw ddarpar unben.' 'Ond 'dydi o ddim yn stwff i'w ganfasio.

'Dos i'w lys', meddai Rhisiart Phylip am Siôn Salbri o Lyweni ac yno, meddai ymhellach, y ceir 'gweled unben' sydd gystal â 'gweled nerth ein gwlad'.

Mae'n amlwg mai hollalluog ac anfeidrol fyddai'r unben hwnnw a allai gyflawni'r holl oruchwylion ar ei ben ei hun, gan lwyddo i wneud hynny'n ddidragwydd ddydd ar ôl dydd drwy gydol y flwyddyn.

Aeth i fyw i'r mynyddoedd gan ymuno â'r cyrch- filwyr a drigai yno ac a oedd yn gwneud eu gorau glas i herio'r unben.

Dyma gameo ohono gan ein hawdurdod pennaf arno, Mrs Ann Rhian Hughes: Unben styfnig a phenderfynol oedd Elphin.

Ond nid yw'r ffaith ei fod yn actio rhan yr unben beirniadol yn gwneud ei ddehongliadau yn rhai cywir o bell ffordd.

Ac iddyn nhw, dydi bod yn atebol ddim hanner mor secsi â bod yn unben.

Ond dull unben o lefaru yw hwn mewn gwirionedd.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Wedi'r achos llys, aeth Branwen a Sioned, a'r cefnogwyr oedd yn y llys, draw unwaith eto i swyddfa Rod Richards ym Mae Colwyn, a meddiannu'r adeilad am rai oriau, gan lansio posteri newydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith — ROD RICHARDS: UNBEN ADDYSG CYMRU.

Does arna i ddim isio bod yn unben a 'does arna i ddim isio gweld neb arall yn un chwaith, felly mi gadwa i hynny o wleidyddiaeth sy' gen i i fi fy hun.

Roedd Siad Barre eisoes wedi difa'r hen drefn o lywodraeth yn Somalia, drwy danseilio grym yr hynafgwyr ymhob llwyth - a phan ddiflannodd yr unben, fe adawodd ar ei ôl wlad ar chwâl.

Pwysau canolog ar Rod Richards; Crynhoi cefnogaeth dros Gyngor Addysg i Gymru. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd poster 'Rod Richards - Unben Addysg Cymru' angen eu codi'n ehangach.