Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uncorn

uncorn

Telyneg yw disgrifiad y lilith o'r fferm sydd ganddo i'w gwerthu, ond lle y buasai bardd yn sôn am fwthyn uncorn, gwyngalchog, y mae'r lilith yn fwy modern ei awen ac yn sôn am garthffosydd a mod.

Pe baech chi neu fi, neu'r Archdderwydd a Gorsedd y Beirdd gyda'i gilydd, yn gweld bwthyn uncorn a chwt mochyn ynghlwm wrth ei dalcen, ni chaem fyth mo'r fath Niagara o ysbrydiaeth a'n galluogai i'w ddisgrifio'n charming cottage with scope for a sideline in productive enterprise readily accessible outbuildings.

Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.