Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undebau

undebau

'Roedd mwy o amser i hamddena ar ôl i'r undebau ymladd am lai o oriau gwaith ac ar ôl cyllideb chwyldroadol Lloyd George.

Noddwyd y Rali gan Gangen Mon o Undebau Amaethwyr Cymru a chwmni RMC, Bangor.

Cafodd y prif ddiwydiannau eu gwladoli, roedd perthynas glØs rhwng y wladwriaeth a'r undebau llafur, a chrewyd gwladwriaeth les enfawr.

'Roedd yn rhaid sefydlu plaid wleidyddol newydd i amddiffyn yr Undebau.

Yn wyneb y sefyllfa hon penderfynodd Awdurdod Addysg Dyfed ymateb i'r gwasgu a fu arnynt of du undebau a mudiadau tebyg i UCAC a Chymdeithas yr iaith.

Roedd yr undebau, fu'n chwarae rhan mor allweddol yn hanes Ariannin, yn rhag-weld dadfeiliad y wlad wrth i fwy a mwy o bobl suddo i dlodi ac anobaith.

Dyna oedd y waedd fel y rhedai rheilffyrddwyr yma a thraw gan ledaenu gorchymyn yr undebau.

Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.

Hoffwn weld Cyngor Wrecsam yn galw pobl y Rhos, Undeb y Glowyr, ac Undebau'r cylch at ei gilydd i fynd ati i achub y Stwit.

Ac eto, aeth y Llywodraeth Dorïaidd ati i gymryd i ffwrdd yr ychydig ryddid a oedd gan bobl Cymru gan danseilio Cynghorau Lleol Cymru, Undebau Llafur, Y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg -- pawb a allai eu gwrthwynebu.

Ni chafwyd penderfyniad ynglyn â Chwpan Rygbi Prydeinig yn dilyn cyfarfod o'r undebau neithiwr.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Pe bai'r cwmniau'n gwrthod, yna ni fyddai dewis gan yr undebau ond i 'ymateb i'r cais am streic gyffredinol ar y rheilffyrdd'.

Fe'i cefnogwyd gan gannoedd o gynghorau lleol a chan lu mawr o fudiadau, cyrff crefyddol, undebau llafur a chymdeithasau o bob math.

Addawyd £3.8 miliwn allweddol ar gyfer gwaith yr undebau credyd yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Fforwm Addysg i Gymru Ceredigion Paratowyd dogfen yn rhoi ein gofynion yng nghyd-destun y sir ar gyfer cynhadledd gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, undebau, llywodraethwyr etc.

TUC Cymru - Mae TUC Cymru yn rhan annatod o Gyngres Undebau Llafur y DU.

'Roedd y cwmniau eisoes wedi dangos eu hawydd am wrthdaro â'r undebau - ond cryfhawyd eu rhyfelgarwch yn fwy byth gan Buxton.

Ond mae'r math yma o anghyfiawnder yn digwydd yn ein bywydau ni i gyd a fedrith swyddogion Undebau Llafur na neb arall wneud dim i'w newid.

Bu'r eglwysi yn flaenllaw yng ngwaith yr undebau hyn.

Os bydd rhaid gwneud hynny, bydd rhaid cysylltu â chynrychiolwyr pob un o'r Chwe Gwlad, nid Undebau Cymru ac Iwerddon yn unig, i weld a ellir ail-drefnu'r gêm mewn tymor sy eisoes yn orlawn.

Daeth yn ffrind gwleidyddol i Saul Ubaldini, un o arweinwyr pwysica'r undebau llafur, a Mohammed Seinaldin, uchel swyddog yn y fyddin a oedd yn gyfrifol am un o'r ymdrechion milwrol i ddisodli Raul Alfonsin.

undebau o hyd.

Dyna'n union yw'r Undebau Credyd y mae'r holwr yn gofyn amdanyn nhw.

Gadawodd y dynion eu gorsafoedd a'u gweithdai yn llu, gan syfrdanu'r cyflogwyr, y Llywodraeth, y wasg, a'r undebau hyd yn oed, mor selog oedd eu hymateb i'r alwad.

Wedi i'r undebwyr nodi eu hatebion ar bapur, croesodd un o brif weision suful y Bwrdd yr heol i Downing Street, i hysbysu'r Prif Weinidog am safbwynt yr undebau.

Yn ogystal, gwaharddwyd pleidiau gwleidyddol, papurau newydd, undebau llafur, alcohol, a Saesneg ar arwyddion ffyrdd.

Ond parhawyd y streic gan undebau eraill a fynnai Gytundeb i Bawb', sef cydnabyddiaeth i bob undeb.

BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.

O BEN Y DALAR: Mae ymdrechion yr undebau amaeth i gael yr Ysgrifennydd Gwladol, John Redwood, a'r Gweinidog Amaeth, Gillian Shepard, i ailgyflwyno dipio gorfodol ar gyfer clafr ar ddefaid yn cael peth gwrandawiad.

Cyngres yr Undebau yn cynnal diwrnod gweithredol , y 'Day of Action'. 2 filiwn yn ddi-waith.

Am genedlaethau bu eu capeli ymreolus yn feithrinfa democratiaeth ac yn fagwrfa arweinwyr undebau llafur a'r Siartiaid a'r pleidiau gwleidyddol.

'Roedd gweithwyr diwydiannol y De a'r Gogledd wedi creu undebau i amddiffyn eu hawliau cyn troad y ganrif.

Ymhlith y pynciau a drafodid yn y pamffledi hyn yr oedd dyfodol y diwydiant alcam, Deiseb yr Iaith, trosglwyddo gweithwyr o Gymru i Loegr, status Sir Fynwy, cynllunio trydan, silicosis, Cyngor Undebau Llafur i Gymru ac ad-drefnu wedi'r rhyfel.

Cyngres yr Undebau yn cynnal diwrnod gweithredol, y 'Day of Action'.

Lloyd George yn apelio ar Gyngres yr Undebau Llafur i roi cefnogaeth i streicwyr y Penrhyn.

Wrth gwrs, mae yna reolau caeth ynglŷn â phwy sy'n cael rheoli'r arian, a pha gyfrifon sy'n rhaid eu cadw, ond mae digon o dystiolaeth fod yr Undebau hyn yn gweithredu'n effeithiol mewn dinasoedd mawrion gan gynnwys Caerdydd.

Cyfyngodd ar hawl yr undebau i fynd ar streic, collodd miloedd o weithwyr sifil eu swyddi wrth i fiwrocratiaeth gael ei chwtogi, a chafodd pob gwrthwynebiad i'r chwyldro newydd ei ateb gan fygythiad y rhoddid awdurdod llwyr yn nwylo Menem pe bai angen.