Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undodiaid

undodiaid

Honnai mai'r Ymofynnydd oedd achos cryfaf yr Undodiaid yng Nghymru, ac os y collid ef na welid atgyfodiad mwy.

Ar y llaw arall, gellid honni bod Yr Ymofynnydd yn ystod golygyddiaeth Jacob wedi adlewyrchu sefyllfa a safbwynt y mudiad yng Nghymru, ynghyd â bod yn llefarydd swyddogol yr Undodiaid Cymraeg.

Cyfraniad pwysig oedd hwn o gofio mai golygydd oedd i bapur yr henoed a chylchgrawn yr Undodiaid, dau ddosbarth o bobl a dueddai 'gael eu damsgen dan draed', chwedl ef.

Wrth ddweud yn negyddol fod y mudiad yng Nghymru yn 'ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo' heb Yr Ymofynnydd, gellid casglu bod y cylchgrawn, yn ôl ei olygydd, yn gefn a chanllaw sicr i'r Undodiaid, a hynny drwy un o'r cyfnodau mwyaf anodd yn hanes y traddodiad rhyddfrydol, a chrefydda yn gyffredinol.