Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undodwr

undodwr

Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Dyma'r unig sefydliad Undodaidd y gwyddai ambell Undodwr anghysbell amdano.

Gweithredai'r cymdeithasau Cymreigyddol fel man cyfarfod i wahanol ffrydiau'r deffroad cenedlaethol, ac ynddynt gellid gweld archddiacon Anglicanaidd ysgwydd wrth ysgwydd ag argraffydd o Fedyddiwr a saer o Undodwr yn yr ymdrech i goleddu'r Gymraeg a'i diwylliant.

Fe wyddai Iolo Morganwg, ac yntau'n undodwr ac yn ei dro yn ddiweddarach yn llywydd gweithgareddau'r enwad, gystal â neb am y prinder hwn.