Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undyn

undyn

Daeth Robin draw i'r garej unwaith i chwilio am waith, ac erbyn hyn bws undyn oedd hi; 'roedd yr hen drefn o fod yn ofalydd i gychwyn ac yna mynd ymlaen i ddreifio wedi gorffen.

Pan edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd a chofio fel yr oedd hi yn y Rhondda pan oeddwn i'n mynychu Ysgol Ramadeg y Merched yn y Porth (y pryd hwnnw y 'Conty School for Girls' na feddyliodd undyn byw am ei galw wrth ei henw Cymraeg) y mae'r sefyllfa wedi newid yn fawr ac er daioni.

Roedd yn ffordd unig ac ni welodd Idris undyn byw yn cerdded o un pen iddi i'r llall.

Wrth gwrs, y mae rhai unigolion dawnus sydd â'r wybodaeth a'r cefndir angenrheidiol i ddod â gwlad yn hollol ryw i'r myfyrwyr - fel y gall Alex McCowen neu Emlyn Williams lenwi theatr yn y West End a llwyddo, heb gymorth undyn arall, a chall ddibynnu ar eu personoliaeth eu hunain a safon eu deunydd, i hudo cynulleidfa wrth ddarllen o'r Efengyl neu o waith Dickens neu Dylan Thomas.

Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.