Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uned

uned

Cyfrifid bod yr Eglwys, y wladwriaeth a'r uned deuluol yn undod patriarchaidd a sylfaenesid ar ufudd-dod ac awdurdod.

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

Dyfarniad dwy uned.

Lluniwyd holiaduron gwahanol gan Yr Uned Iaith Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Cymraeg ac Ysgolion Cymraeg Ail Iaith, cynradd ac uwchradd.

Wedi'r ymweliad yma, mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn cael ei ddangos gan Gymru yn Nicaragua, ac mae cynlluniau ar droed i gael uned yn yr Eisteddfod.

(a) Adroddiad y Prif Weithredwr mai un o amodau sefydlu'r uned oedd trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y storfa o'r Adran Dechnegol i'r Uned Gwasanaethau Uniongyrchol.

Maent yn amserol am iddynt ystyried y cwricwlwm fel uned gyfan sy'n cynllunio fod rhaglen waith unigol pob plentyn yn broses o brofiadau gweithredol.

Yn anffodus cafwyd peth trafferthion mewn perthynas â'r trosglwyddiad a gwaethygwyd y sefyllfa oherwydd fod yr Uned ar fin symud i adeilad o'r newydd yng Nglandon.

Edrychent ar y Deyrnas Gyfunol fel uned gyda'r Saesneg yn iaith yr uned honno.

Credir mai un newid fydd yn yr uned oedd i fod i ddechrau'r gêm yn erbyn Iwerddon wythnos yn ôl.

Yn y lle cyntaf, mae'r uned bellach tua dwbl yr hyd y byddwch wedi arfer ag ef.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Mewn ymdrech ar y cyd rhwng staff ymgynghorol AALl Dyfed, Albion Concrete, Pwyllgor Tywysog Cymru, yr ysgolion ac Uned o'r Fyddin Diriogaethol, mae nifer o ysgolion yn Nyfed wedi derbyn pibellau draenio enfawr.

(c) Dewiswch un uned neu bennod o'r cynllun a'i harchwilio'n fwy manwl.

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

Fel recordydd sain mewn rhan o uned, mi roedd yna sawl person rhyngof fi a'r eitem.

Bu gan Fangor ei gyfraniad i'r maes hwn hefyd o'r dechrau bron, gydag uned ffilmiau yn anfon eitemau cyson i Gaerdydd neu Fanceinion ar gyfer 'Heddiw' yn y chwedegau cynnar.

Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.

Cafwyd cyfle i hysbysebu gwaith y pwyllgor ac i arddangos adnoddau a gyllidwyd gan y Swyddfa Gymreig ac a gynhyrchwyd gan yr Uned Iaith Genedlaethol, Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth, Canolfan Astudiaethau Iaith Bangor, NERIS a MEU (Uned Feicroelectroneg Cymru).

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i Gynllun Darllen Graddedig yn yr ail iaith; dd) bod angen goresgyn yr anhaster o ledu cynllun darllen o un sir i'r llall; e) bod yr Uned Iaith yn gwneud cais i'r Swyddfa Gymreig am Swyddog Cynradd a fyddai'n ymwneud â mamiaith ac ail iaith.

Nid oes a wnelo'r darlun o Israel fel pobl Dduw ddim o angenrheidrwydd â'r syniad o genedl fel uned gymdeithasol a pholiticaidd.

Datblygodd gwyr rygbi Lloegr yn uned rymus tu hwnt gydau blaenwyr aruthrol o bwerus.

Os yw'r iaith i oroesi rhaid iddi feddu ar nifer helaeth o sefydliadau o bob math i'w chynnal, sefydliadau a fydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd ac sy'n creu rhwydweithiau cymdeithasol heb ddibynnu ar yr uned bentrefol.

Dylid tynnu allan mewn da bryd a sicrhau fod yr uned mewn llinell syth wrth basio.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn uned o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn rhan o Awdurdod Iechyd Arbennig, sy'n atebol i'r Swyddfa Gymreig.

Llwyddwyd i gael cynrychiolaeth wirfoddol ar yr Uned Archwilio Annibynnol.

Ond methodd Terry, druan, a dysgu nes mynd i dreulio mwy a mwy o'i fywyd yn Uned Gaeth Ysbyty'r Eglwys Newydd - llai erbyn hyn yn y twll 'ma.

Yn ystod y prynhawn cynhaliwyd arwerthiant, yr elw tuag at gronfa'r Uned.

Gwasanaeth Gwaed Cymru - Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn uned o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae uned Aml-gyfrwng/Rhyngweithiol wedi ei sefydlu o fewn ein Hadran Dylunio Graffeg ac mae nifer o CD-Roms a Safleoedd ar y We wedi eu creu yma ar gyfer y BBC yn ogystal â chwsmeriaid corfforaethol.

Mae'r uned hon ar y llaw arall wedi'i chyfeirio'n benodol atoch chi'r cydgysylltwyr (neu unrhyw un arall mewn ysgolion y tu allan i Wynedd sydd yn gyfrifol am arwain, cyflwyno syniadau, monitro ac yyb ym maes dysgu yn y sefyllfa ddwyieithog.

cardiau magnetig i agor drysau'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod.

yn cael dwy uned gyfochrog ar y Maes- fel arfer mor agos ac y gellir at Theatr y Maes.

Bydd sawl sy' gosod y socedi i chi hefyd yn gosod uned fflachio newydd ar gyfer y goleuadau troi gan nad yw'r un gwreiddiol mewn car yn ddigon pwerus i ymdopi a'r garafan yn ogystal.

Mae mwyafrif y ceisiadau am gyhoeddi deunyddiau yr Uned Iaith Genedlaethol wedi eu prisio ar sail dosbarthu drwy warant h.y.

ù Sylweddolwn fod y gymdeithas yr wyf wedi'i disgrifio uchod yn uned ~iach' yn gymdeithasegol, ond er hynny yn dirywio o ran poblogaeth.

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

Mae'r pwyslais trwy'r Pecyn HMS ar yr adran fel uned weithredol gan y teimlir fod deialog ddenamig yn bosibl yn y sefyllfa hon gyda phob aelod yn llwyr ymwybodol o'r hyn a ddysgir, o'r cyfyngiadau a allai fod yn yr ysgol o safbwynt lle ac adnoddau, o'r polisi iaith ac unrhyw ystyriaeth arall.

Mewn achosion o'r fath, gall "Adennill" cyfeiliornus beri niwed di-ben-draw, a bydd yr Uned yn derbyn cyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad ynglŷn â gwerth safleoedd i'r amgylchedd.

Yn y tymor byr, byddai pwyslais gwaith y swyddog ar blant a oedd a phroblemau caffael iaith, am amrywiol resymau; f) bod yr Uned Iaith yn casglu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, er mwyn canfod sut yr oedd awgrymiadau'r Gweithgor Cynradd yn cydlynu â chynlluniau'r Uned Iaith; ff) bod angen datblygu gwaith yr Athrawon Bro yn y maes dysgu ail iaith; Pwysleisiwyd rôl yr Athrawon Bro droeon.

Sylfaen y gymdeithas sefydlog oedd yr uned boliticaidd gyda'i rhaniadau a'i dosbarthiadau trefniadol.

Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uned Defnyddwyr i grynhoi gwybodaeth berthnasol i'r Cynllun Gofal.

Trwy gyd-gysylltu a Chyngor Henoed Gwynedd a'r Uned Hybu Iechyd llwyddwyd gyda'r cais wnaed i'r Swyddfa Gymreig i sefydlu swydd hybu iechyd yr henoed.

Cofiwch ofyn i'r sawl fydd yn gosod y bachyn tynnu osod Uned Gyfnewid Gwefr (Split Charge Relay) ar gyfer y batri.

Newidiodd y chwaraewr o Gastell-nedd ei safle a mynd yn brop a buom yn uned effeithiol am dair blynedd nes iddo raddio.

Yr Awstraliaid yw'r uned rymusaf yn y byd o bell ffordd ond mae nhw'n canolbwyntio ar ymosod yn hytrach nag amddiffyn.

Ni welaf fod rhestr gweithgareddau'r Uned Rhaglenni Cyffredinol heddiw yn cyffwrdd ag unrhyw faes nad oedd yn cael sylw llawn chwarter canrif yn ôl Y mae yna un neu ddau o ddatblygiadau sy'n gwneud bywyd yn haws i'r cynhyrchydd efallai.

Mae'r Weithwraig Plant genedlaethol hefyd yn aelod o'r grŵp cynghorol ar gyfer Uned Dan Bump Biwro'r Plant yng Nghymru.CYFARCHION Y TYMOR

Mae'n rhaid creu 'siop' o fewn yr uned yn arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

(b) Adroddiad y Prif Swyddog Technegol yn cadarnhau na ellid gweithredu'r trosglwyddiad hyd nes y byddai'r Uned wedi symud i'r adeilad newydd a gwasanaethau ffôn a chyfrifiadurol wedi eu cysylltu.

'Roedd y perchennog erbyn hyn wedi paratoi costau a oedd yn dangos grant yr uned llawer mwy rhesymol ac y gellid ei gefnogi drwy gais i'r Swyddfa Gymreig.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

'Cronfa gyhoeddi', sef cymorth tuag at gostau argraffu a gwerthu holl gynnyrch yr Uned ar y sail bod yr adnoddau yn cael eu gwerthu i'r ysgolion, nid yn cael eu dosbarthu am ddim.

Y rhain oedd yr Uned Defnyddwyr a'r Cynllun Gofalwyr a dderbyniodd gyllid hefyd trwy Ymddiriedolaeth y PRINCES ROYAL i Ofalwyr.

O fewn y cyllid a glustnodir, yr Uned fydd yn gyfrifol am y gwariant, am unrhyw gytundebau â chyhoeddwyr masnachol, ac am y dewis rhwng cyhoeddi yn fewnol neu'n allanol.

Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.

Roedd yn gydnabyddiaeth o genedligrwydd Cymreig, neu o leiaf o'r angen am drafod Cymru yn uned genedlaethol ar gyfer rhai gwasanaethau.

Oddi mewn i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru mae Uned Iaith Genedlaethol Cymru CBAC yn cynhyrchu a chyhoeddi cyflenwad helaeth o adnoddau dysgu ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau ac ar gyfer pob Cyfnod Allweddol.

Os yw busnes yn cynhyrchu un math o beth yn unig, gellir cael y wybodaeth i benderfynu Costau Uned o'r cyfrifon ariannol gan nad oes angen dadansoddi'r gwariant mor fanwl ag mewn ffurfiau eraill.

Dosbarthwyd gwybodaeth am ddarpariaeth dysgu Cymraeg trwy Gymru a chafwyd cyfle i roi cyngor i'r nifer fawr o bobl a ddaeth i mewn i'r uned.

O'r herwydd, er imi weld paratoadau'r milwyr yn anialwch gogledd Saudi - chefais i mo fy nethol i dreulio cyfnod y rhyfel ei hun gydag unrhyw uned.

Y mae'r broses o gynhyrchu deunyddiau dysgu cenedlaethol yn Gymraeg yn digwydd yn bennaf yn y canolfannau adnoddau (CAA, CAI, Adran Gymraeg CBAC, Yr Uned Iaith Genedlaethol, MEU Cymru, CGAG), ond digwydd hefyd mewn rhai colegau ac awdurdodau unigol.

Gellir rhannu'r nodweddion gorau rhwng y rhai cyffredinol a berthyn i'r uned neu'r ysgol feithrin a'r rhai mwy penodol yn y dosbarth.

O ganlyniad, mae penderfynu a ellir targedu cynlluniau sy'n sensitif i'r amgylchedd, i raddau helaeth, y tu allan i ddwylo'r Uned.

Ac y mae yr adwaith o hyd yn newid, y berthynas rhwng un uned a'r llall yn cael ei lleihau neu agosa/ u, ac mae'r finiau rhwng unedau yn aml yn aneglur ac yn symudol.

Os oes uned gysylltiol, a yw hon yn cael ei rheoli a'i hariannu'n effeithlon?

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

Fyddai neb yn ystyried blwyddyn fel uned.

Hefyd mae angen iddyn nhw finiogir sgiliau fel uned syn diogelu gofod i redwyr syn ymosod o bellter.

CBAC(UI): Uned Iaith Genedlaethol Cymru, Treforest

Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.

Byddai angen sefydlu Uned Derminoleg yn y Cynulliad i wneud hyn yn effeithiol.

(Yn yr uned YSGRIFENNU III cyflwynir ffrwyth ymchwil athrawon Awdurdod Avon a oedd yn gysylltiedig a'r Prosiect Ysgrifennu Cenedlaethol.

Mae'r ddau Gyngor yn gorff annibynnol gyda'i gadeirydd ei hun, ond gwasanaethir y Cynghorau gan un uned weithredol.

Gweler yr adran Trafod (olaf) yr uned YSGRIFENNU III lle'r awgrymir fod aelodau'r adran bellach mewn sefyllfa i fabwysiadu rhai o'r elfennau a dreialwyd yn rhan o'u polisi adrannol.