Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unedol

unedol

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Gyrrwyd crynodeb o Ddeddf Eiddo at bob awdurdod unedol gan alw arnynt i bwyso ar y llywodraeth ganol am fwy o rym gweithredol yn eu hardaloedd ac i ystyried anghenion cymunedau wrth lunio polisïau tai.

Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.

Gyda chyrhaeddiad oes newydd mewn llywodraeth leol, bachwyd ar y cyfle i ddwyn pwysau ar yr awdurdodau unedol i fabwysiadu egwyddorion Deddf Eiddo ac i'w cynnwys yn eu polisïau tai a chynllunio.

Mi roedd cynnig bore yma ynglyn â chyfrifoldebau yr awdurdodau unedol newydd yn bwysig am ei fod yn gosod y cyfrifoldeb reit ar y gwaelod.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Lunio dogfen gyda galwadau ar i'r Awdurdodau Unedol newydd dderbyn yr egwyddor uchod a gweithredu polisïau cynllunio economaidd sy'n rhoi llai a gobaith i gymunedau ynghylch eu dyfodol.

Yn gynnar yn y flwyddyn newydd anfonwyd llythyr i bob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn datgan disgwyliadau'r Gymdeithas o'u polisïau iaith.

Dylai awdurdodau unedol, yn arbennig, ynghyd â'r Bwrdd ac asiantaethau perthnasol eraill fod yn barod i ateb y galw am sefydlu mentrau newydd; rhaid bod yn barod ar yr un pryd i ddatblygu'r mentrau sy'n gweithredu eisoes.

Mae hyn hefyd yn golygu edrych ar gyfrifoldebau yr Awdurdodau Unedol newydd a gwaith y Quangos, a cheisio creu strwythur sydd yn datganoli grym, yn atebol ac yn dod a grym yn nes at y cymunedau.

Hawliodd y Gymdeithas fuddugoliaeth yn ei hymgyrch o blaid Deddf Eiddo ym mis Rhagfyr pan gyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) ar `Yr Iaith Gymraeg -Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Drafftiwyd y canllawiau newydd yn sgil pwysau oddi wrth y Gymdeithas a nifer o awdurdodau cynllunio lleol am ddiwygio'r canllawiau cyfredol a gyhoeddwyd fel `Cylchlythyr 53/88' ym 1988.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

Erbyn hyn mae CBAC wedi sefydlu fel cwmni a gyfyngir trwy warant, ym mherchnogaeth ac yn cael ei reoli gan y 22 cyngor unedol yng Nghymru.