Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unfrydol

unfrydol

Daeth pobl yr ardal i wybod am yr helynt, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus lle y pasiwyd yn unfrydol gan lywodraethwyr a rhieni'r ysgol i bwyso fod Waldo'n cael cadw ei le.

Gyda golwg ar sicrhau rheolaeth effeithiol ar y treuliau pasiwyd yn unfrydol nad oedd neb i ymgymryd ag unrhyw agwedd ar y gwaith ariannol heb ganiatâd y Pwyllgor Cyllid.

'R oedd penderfyniad y cyfarfod yn unfrydol.

Barn unfrydol y beirniaid oedd mai Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ac Ysgol Gynradd Llanrug oedd y goreuon.

Wrth reswm mae pawb bron yn unfrydol ynglyn â chydnabod y cyfraniad Meic Stevens i'r byd roc dros y blynyddoedd ac yr oedd yn hen bryd i Les Morrisson dderbyn gwobr am ei waith fel cynhyrchydd gorau ac i ddangos fod Les yn dal i fod mor weithgar - ef sydd wedi cynhyrchu albym newydd Maharishi - Merry Go Round fydd allan ddiwedd y mis ‘ma.

Wrth gadarnhau'r penodiad teimlad unfrydol y Pwyllgor Gwaith oedd fod swyddog rhagorol wedi cael ei benodi ar delerau rhesymol dros ben.