Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uniaethu

uniaethu

'Roedd elfennau dyhuddol a phuredigol yn yr aberth hwn, gyda Christ yn ei uniaethu ei hun â dyn er mwyn wynebu'r digofaint dwyfol yn ogystal â symud pechodau dynol (Gal.

Rhywbeth arall sy'n denu sylw'r darllenydd yw fod sefyllfa'r cymeriadau - a'r cymeriadau ynddynt eu hunain - yn ennyn cydymdeimlad ac fe ellir uniaethu â nhw yn aml.

Cyn-chwaraewr y mae'r to presennol yn mynd i fedru uniaethu ag e yn hytrach na phwyllgorddyn di-gefndir.

Allwn i ddim dyfalu sut y cyrhaeddodd rhai ohonynt eu ffau anghysbell, heb sôn am allu uniaethu gyda'r arswyd a oedd wedi eu cymell i fentro.

"Mae yna lot o bethe r'yn ni'n gallu uniaethu 'da," meddai un arall o'r cymeriadau canolog, Dafydd Huws, sy'n arwain eisteddfod yn arddull gemau teledu.

Awgrymodd Glyn Jones iddo droi i'r Saesneg fel adwaith yn erbyn crefydd; mae'n bosib bod y newid iaith hefyd yn ymgais i'w uniaethu ei hun a'r hyn a ystyriai ef yn symudiadau mawr y meddwl dynol, i ennill troedle ar lethrau niwlog arucheledd:

Er mwyn cael cydweithrediad ac ymateb gennym ni, y gynulleidfa, rhaid oedd i gari uniaethu â ni, ein gwneud yn gartrefol a'n cael i'w dderbyn fel cyfaill yn hytrach nag actor/comediwr y sgrîn.

Ni allai uniaethu â dyn a oedd yn darganfod ei ieuenctid yn ganol oed.

Y mae'n uniaethu Penri â Martin Marprelate ac ef hefyd yw'r cyntaf i ddweud mai o sir Frycheiniog y deuai Penri.

Mae Robert Graves yn dweud pa mor unig y gallwch chi fod os nad ydach chi'n deall yr iaith mewn gwlad dramor, ond, i griw newyddion teledu, mae'r unigrwydd yna'n gallu bod yn gyfforddus unig, achos dydych chi ddim yn uniaethu'ch hunan â'r sefyllfa.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i uniaethu ag unrhyw gymuned sy'n brwydro i gadw eu hysgolion ar agor a'u datblygu fel canolfannau dysg a chyfathrebu i'r gymuned.

Mae'n ddiddorol fod nifer o'r beirdd Cymraeg a farwnadodd eu plant eu hunain yn dweud eu bod yn methu canu bellach, fel petaent yn uniaethu'r plant â'u hawen (ac eto mae'u cerddi'n gwrthddweud eu honiadau!).

Roedd yr artistiaid hyn yn ochri, ac yn uniaethu, â phobl gyffredin Cymru yn eu dioddefaint.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.

Y mae'r duedd i uniaethu "Lloegr" â "Phrydain" yn hen iawn.