Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uniaith

uniaith

Dysgu effeithiol yn y sefyllfa uniaith.

Nid yn herwydd eu cariad ati y traethasant ynddi, ond am mai drwyddi hi yn unig y gellid achub eneidiau'r Cymry, a oedd gan mwyaf yn uniaith.

Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.

Ac y mae Haman yr ysbi%wr yn ymateb fel yr oedd Lingen wedi dweud am '...' y Cymro uniaith (t.

y dyn sydd byth a beunydd yn canmol ei wlad a'i iaith, ac yn aml yn dal swydd fras o'u herwydd, ond sydd er hynny yn magu ei blant yn Saeson uniaith.'

Gwahoddir pawb i fynd allan efo paent du i ychwanegu'r gair ILDIWCH i'r arwyddion uniaith Saesneg 'GIVE WAY' yn ystod y cyfnod gan fod y Swyddfa Gymreig mewn cyfnod o ymgynghori ynglyn ag arwyddion ffyrdd.

Doedd Wil ddim ymhell o fod yn uniaith chwaith, - yn uniaith Gymraeg.

Pan na fydd neb adref gwthir ffurflen uniaith Saesneg drwy'r drws.

ch) cywiro sefyllfa ble caniateir o fewn y sector gyhoeddus i weithredu yn uniaith Saesneg ond nid yn uniaith Gymraeg, er enghraifft wrth gofrestru babanod, lle gellir gwneud yn uniaith Saesneg neu yn ddwyieithog ond nid yn uniaith Gymraeg.

Hyd heddiw, nid oes bosib i rieni gofrestru baban yn uniaith Gymraeg.

Y mae tuedd ynom ni'r cyfreithwyr i ddefnyddio'r Saesneg ar bob achlysur posibl: wele Gyngor Tref Pwllheli, rai wythnosau'n ôl, yn cystwyo dau gwmni o gyfreithwyr o dref nid nepell (a'r partneriaid yn y ddau gwmni yn Gymry Cymraeg un o'u plith yn Brifardd Coronog!) am iddynt anfon llythyrau uniaith Saesneg at y Cyngor Cymraeg hwnnw.

Cyd- destun oedd Gwynedd i'r holl amrediad o sefyllfaoedd uniaith a dwyieithog (ymestynnol a gostyngol) a welir mewn addysg uwchradd yng Nghymru.

Atgoffwch yr aelodau nad yw presenoldeb pobl uniaith Saesneg i rwystro eraill rhag defnyddio'r Gymraeg.

Gwelwyd y dirywiad mwyaf yn yr ardaloeddgwledig Mewn aradloedd fel Trearddur, Moelfre, Llanfair-yn-neubwll, Brynteg a Llanbedr - goch yr oedd 40% o'r boblogaeth wedi ei geni y tu allan i Gymru a thros 40% o'r boblogaeth hynny yn uniaith Saesneg.

Ac y mae hyn yn creu gwahaniaeth trawiadol rhwng y Cymry Cymraeg eu hiaith a'u cymdogion uniaith.

Un o fwriadau'r Pecyn HMS felly, yw cynnig cyfle i athrawon: * adfyfyrio ar eu harferion dysgu presennol, mewn sefyllfaoedd uniaith yn ogystal a dwyieithog gan ofyn pam a sut y maent yn cyflwyno'r gwaith fel y gwnant, * gyd-drafod gydag aelodau eraill o'r un adran y dulliau dysgu hynny sy'n seiliedig ar y defnydd o iaith wrth gyfathrebu yn eu pwnc, * elwa oddi wrth brofiad aelodau eraill sydd yn yr un adran.

Nodwedd benodol yr haen hon yw mai ystyried y ffordd y mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith mewn cyfathrebu pynciol yn y cyd-destun uniaith a wneir, cyn symud i gymhlethdod y sefyllfa ddwyieithog.

theori addysgu a dysgu pynciol effeithiol mewn sefyllfaoedd uniaith Gymraeg a dwyieithog,

Dwyieithog ei harwyddion, ond uniaith ei pharabl yw Hong Kong yn ei strydoedd heddiw.

Roedd hyd yn oed rhai capteiniaid hen longau hwyliau y Cei yn uniaith Gymraeg pan oeddwn yn llanc yn yr Ugeiniau.

I un Dirprwywr a ddaeth ar draws Sais uniaith yn dysgu Cymry bach uniaith, roedd y peth yn ddigri.

Gan mai prif nod y prosiect yn ei gyfanrwydd oedd canolbwyntio ar ddulliau dysgu yn y sefyllfa uwchradd uniaith Gymraeg a dwyieithog, bydd mwyafrif y casgliadau yn ymwneud a lledaenu ymarfer dda yn y dosbarth.

"Mater i'r Bwrdd Taith, i'r Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu, i'r awdurdodau addysg lleol ac i bob ysgol unigol yw pwyso am gael digon o arian i hwyluso'r symud o ddulliau gweithio uniaith Saesneg i ddulliau gweithio dwyieithog ym mhob ysgol.

Rhagfarn yn erbyn ieithoedd estronol ar ran cymaint o bersonau uniaith Saesneg yw'r prif reswm.

Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy.

Er, mae'n debyg, yn arferol, mae'r cofnodi i fod yn y ddwy iaith os yw'r siaradwr yn siarad Cymraeg ond yn uniaith Saesneg os yw'r siaradwr yn siarad Saesneg.

Anfonwyd fersiwn uniaith Saesneg yn rhad ac am ddim i bob cartref yn y chwe sir.

Yr oedd y cynllun yn chwalu cymdeithas Gymraeg uniaith yn un o ardaloedd gwledig hanesyddol Meirion.

Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.

Mae'r ymgyrch ILDIWCH I'R GYMRAEG yn parhau i dyfu ac ehangu, ond nid ydym wedi anghofio am yr arwyddion Give Way yna sydd o hyd yn uniaith Saesneg dros Gymru.

I ychwanegu sen at sen, derbyniodd Rhys ffurflenni uniaith Saesneg gan Lys Ynadon Caernarfon.

O fod wedi disgwyl adroddiad cytbwys, a chynrychiolaeth deg i'r Ymneilltuwyr, roedd sylweddoli mai tri Sais uniaith a apwyntiwyd a'u bod, ynghyd â'r mwyafrif o'u cynorthwywyr, yn Eglwyswyr, yn siom fawr i'r addysgwyr Ymneilltuol yn lleol.

Buasai Myrddin Tomos, cyn ei ddwyn i'r carchar, yn y tribiwnaliaid milwrol yn dadlau dros ei bentrefwyr, ac yno y gwelodd gam-drin ei bobl uniaith gan swyddogion Seisnig y Llywodraeth.

Mae bosibl hyd yn oed i'r Cadeirydd uniaith hyrwyddo dwyieithrwydd yn y cyfarfod.

Roedd Wil yn anfodlon iawn ar y pris yr oedd yn ei gael am ei lafur ef a'i anifeiliaid, ac aeth i ben y prif oruchwyliwr, - a oedd yn Sais uniaith, - i ddadlau am godiad yn y pris.

Mynegodd amryw o'r pwyllgor rhanbarth eu pryder ynglŷn â hyn oherwydd polisi uniaith Gymraeg y Mudiad.

Roedd y cyfaddefiad gan Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol ('y Grwp') eu bod yn cyfarfod yn uniaith Saesneg yn dipyn o gloc larwm.

Hynny yw, yr wyf fi o'r un farn â'r rhai eraill sy'n honni mai o genedl uniaith y daw y llenyddiaeth orau.

Daw Lucien Bouchard o Lac Saint-Jean, ardal lle mae mwyafrif llethol y boblogaeth yn uniaith Ffrangeg ac yn genedlaetholwyr o hil gerdd.

Mewn ardaloedd fel Trearddur, Moelfre, Llanfair-yn-neubwll, Brynteg a Llanbedr - goch yr oedd 40% o'r boblogaeth wedi ei geni y tu allan i Gymru a thros 40% o'r boblogaeth hynny yn uniaith Saesneg.