Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uniongred

uniongred

'Y wleidyddiaeth ddim yn uniongred.'

Yr oedd yn rhaid credu i'r pen - naill ai mewn Cristnogaeth uniongred neu Farcsiaeth.

A rhaid cofio, wrth gwrs, fod y gred y gallai Ailddyfodiad Crist ddigwydd yn fuan yn beth hynod gyffredin ymhlith cyfoeswyr mwyaf uniongred Llwyd, ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn cofleidio syniadaeth Gwyr y Bumed Frenhiniaeth.

i) i bwysleisio parhad dysgeidiaeth uniongred a gynrychiolid gan yr esgobion;

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Ar y naill law yr oedd yn pleidio diffiniad a phendantrwydd, ond eto'n croesawu llenyddiaeth a seiliwyd ar Gristnogaeth uniongred neu anffyddiaeth filwriaethus.

Pobl gwbl uniongred oedd llawer o'r rhai a fynnai'u darllen.

Fel arfer, roedd y paratoadau at y Nadolig yn digwydd mewn llefydd fel eglwysi'r Eglwys Roegaidd Uniongred ac mi roedd yna un eglwys hardd iawn yn y ddinas.

Cymdeithasai'n gartrefol â'r tadau cynnar a gwyddai'n iawn beth oedd arwyddocâd y dadleuon astrus hynny yn y bedwaredd a'r bumed ganrif a luniodd yr athrawiaethau uniongred am berthynas Personau dwyfol y Drindod â'i gilydd.