Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

urmyc

urmyc

Dim ond un o bobl Urmyc sydd erioed wedi cyrraedd yno.

Urmyc yn y Niwl Gwlad fechan ddinod iawn ydi Urmyc.

GLWAD WYLLT Dywed yr awdurdodau gorau mai'r mynyddoedd gwlyb hyn a'r tir sobr o sal sydd yn Urmyc gan mwyaf, sydd wedi cadw'r iaith yn fyw.

ATHREITUS Am athreitus y mae Urmyc fwyaf enwog - y glaw eto, ac mae rhai o'r bobl stiff sy'n byw yno yn cadw math o wyliau od iawn.

Y SECT FACH Rhyw ddwy genhedlaeth yn ol fe gododd yna ryw sect ymysg pobl Urmyc oedd eisio medru torri'r penrhyn bychan o wlad oddi wrth gwlad fawr y Noseas.

Mi ddaw gwlad fach Urmyc yn fwy clir ar y map yn y diwedd - wel, mae hi'n bownd o ddod yndydi, os can nhw wared ar yr holl niwl yna sydd wedi bod yn llesteirio eu datblygiad a'u gwelediad?

Mae ambell berson sydd wedi gweld Urmyc ar ddiwrnod pan mae'r haul yn digwydd bod allan am ychydig, yn honni ei bod yn eithaf hardd a'i bod yn mynd yn fwy gwyrdd yn ddiwedddar!

MELINAU GWYNT Mae'n bosibl y bydd gwlad fach Urmyc yn neisiach lle i fyw ynddi cyn hir oherwydd maen nhw wedi dechrau cael lot o felinau gwynt i chwythu'r cymylau a'r niwl a'r glaw i ffwrdd.

Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.

Mae'r bobl yng ngwlad Urmyc yn hynach na'r Romans, medda nhw.