Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uzbekistan

uzbekistan

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

Mewn rhan o Asia lle roedd y Moslemiaid yn fwyafrif llethol hyd nes dyfod cyfnod Stalin, mae crefydd yn blodeuo eto a'r grefydd honno yn ei thro yn erfyn y gellir ei ddefnyddio i ledu'r bwlch rhwng Uzbekistan a Rwsia.