Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

waeth

waeth

Gwadu popeth y mae o, ond waeth iddo heb.

Waeth beth, am y byddai'r Lotments yn cael eu dinistrio am byth.

Ni fydde gwleidyddion ond yn gwneud pethau'n waeth, yn ei dyb ef, a'u lle nhw oedd cadw'r gem gydwladol i fynd ymhell oddi wrth lefel gwir anghenion y bobl.

Roedd Marged wedi gweithio yn yr Eglwys Newydd efo'r sâl eu meddwl am gyfnod, wrth gael ei hyfforddi, ac roedd hynny'n waeth ganddi hi.

Yn amlwg, mae angen chwilio am dolciau a chrafiadau a all fod yn arwyddion o amarch neu'n waeth fydd a all awgrymu i'r garafan fod mewn damwain.

Gofalai Francis felly bod y ffrynt yn tyfu rhyw gymaint bob dydd, ond prin y codai'r cefn o gwbl oherwydd bob bore bron dywedai Francis wrth ei gynorthwywyr, 'Mi ro'wn ni 'frontal attack' arno fo heddiw, John,--waeth befo'r cefn'.

Nid oedd trydan wedi ein cyrraedd a chlywem oddi ar y newyddion chwech o'r gloch ar y radio ei bod yn waeth mewn llawer man nag a oedd arnom ni.

Yn y pen draw, waeth faint o waith manwl fydd wedi ei wneud yn ddistaw bach gan swyddogion ac aelodau'r Bwrdd, maen nhw'n gwybod fod llawer yn dibynnu yn y pen draw ar ewyllys gwleidyddol.

'Waeth i mi gyfaddef ddim, yr wyf i'n trysori'r galwadau ffôn yna lawn cymaint ag y trysoraf ei llythyron, achos yr oeddynt yn arddangos angerdd.

'Balchder aristocrataidd' awdur Gwaed yr Uchelwyr yw gwir wrthrych sylw Gruffydd, ni waeth pa mor amhersonol y cais fod.

Ac yn waeth na'r cwbl, roedd y bobl o'r farn eu bod yn ysbrydion drwg!

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Fe alle fod yn waeth! Mi gollodd tîm pêl-droed Guam 16 - 0 yn Tajikistan yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ddoe.

Roedd pobl y wlad wedi cael eu siomi o sylweddoli bod trethi'r Seneddwyr yr un mor drwm a rhai'r Brenin - ond yn waeth na hynny, roedd y Senedd wedi newid cymaint ar ddeddfau'r wlad, yn enwedig ynglyn a'r Eglwys.

Ond mae'n nodwedd ar ymrysonfeydd geiriol y nofelau bod y ddwy ochr, ni waeth lle yr oedd cydymdeimlad yr awdur, yn cael llinellau cryfion er mwyn cynnal.

"Yn ôl fy hen athro mae brân yn medru canu yn well." "Ta waeth," gwenodd Henri .

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.

Yr oedd yma weithgarwch heno, 'waeth pa mor amrwd a blêr, nad oedd yn ddiamcan.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

"Mae 'na lawer o bobol sy'n waeth eu byd na chi.

Mae hi'n fyd sobor." "'Dydw i ddim yn cofio byd cyn sobred, er y bydd mam yn deud i bod hi'n waeth pan oedd hi'n ifanc." "Felly y bydd mam yn deud hefyd.

Yn waeth byth, fel arfer gorfodid y dyfarniadau hyn ar y gweithwyr am bedair blynedd ar y tro.

Fe'n rhybuddid yn aml nad oedd gennym hawl i gyffwrdd llaw â phlentyn, waeth pa mor ddrwg oeddynt.

Ta waeth, 'roedd yn amlwg erbyn hyn bod y Pwyllgor Streic yn cael gafael ar y sefyllfa.

A waeth i chi heb â cheisio meddwl amdanoch eich hun fel un ohonyn nhw,meddai, gan amneidio tuag at brif adeilad y ffatri.

Weithiau byddai'n darllen o Lyfr Del neu Lyfr Nest, neu weithiau o gyfrol dreuliedig o Chwedlau Grimm, a'n llygaid ninnau'n grwn dan arswyd 'waeth faint mor aml roeddem ni wedi clywed y stori o'r blaen.

Ta waeth am hynny.

A gaf i apelio am newyddion oddiwrth gymdeithasau ac unigolion; dyna'r unig ffordd i wneud papur bro diddorol, waeth heb a grwgnach os nad yw pawb yn gwneud ei ran.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Fel arfer mae modd troi rhai o'r gwartheg allan o ganol Mawrth ymlaen ond eleni nid oedd dim iddynt i'w bori ac yn waeth na hynny yr oedd yn llawer rhy leidiog.

Nid gweddus felly difri%o saint Duw, ni waeth i ba enwad y maent yn perthyn.

Yn waeth byth, roedd y Cymry yn barod i dderbyn hynny.

Waeth imi fod yn berffaith onest a chyfaddef fy mod i wedi methu perfformiad Hitchcock ar ddechrau'r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf ond yn sicr mi oeddwn i'n bresennol pan gamodd Chouchen i'r llwyfan.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Mae'r rhyfel yn erbyn yr Iseldiroedd yn mynd o ddrwg i waeth..." Roedd o'n ei phlagio hi.

'A ta waeth, aderyn yw boda dinwen,' ategodd Mini, 'nid madarch o unrhyw fath.'

Waeth befo eu bod yn torri'r gyfraith: oni welwyd ambell Seneddol yn ymlafnio'i orau rhy las wrth geisio chwarae'r gem yn ol rheolau hunangar ei feistres?

Os mai dyna be' s'gin y Sianal ddwy a dima' Gymraeg 'ma i'w chynnig, waeth inni fod hebddi ddim .

Ta waeth, ni allwn i ddychmygu beth oedd yn bod, a ffwrdd â ni ar y last lap.

Os oedd Ysbryd Crist yn amlwg mewn unrhyw ddyn, ni waeth beth fo'i waith beunyddiol, yr oedd yn gymwys i gyhoeddi'r Efengyl.

Ta waeth, doedd gan yr Arabiaid ddim amynedd a'r fath ffolineb - a phwy all eu beio nhw a hwythau'n byw tan haul tanbaid y Dwyrain Canol.

Erbyn canol y bore yr oedd yr haul yn ei anterth, ac aeth awyrgylch yr iard yn drymaidd a chysglyd eithriadol, a'r tawelwch hefyd yn gwneud pethau'n waeth.

'Mae hi'n waeth heno.

Yn waeth fyth, pan ddaeth yr ymladd i ben, llusgodd yr UNHCR ei draed unwaith eto.

Roedd hon yn waeth na'r un o'r lleill, ond doedd hynny ddim yn poeni'r dderwen hon ar lan yr afon.

Ymhen pedair blynedd ailafaelodd yr aflwydd yn waeth na chynt a bu gyda ni am ddwy flynedd arall yn wael ac yn ddall.

Gwynt teg ar ei ôl o ddeuda' i.' Doedd waeth beth wnâi Vatilan, byddai Nel yno'n gefn iddo bob gafael ac ni adawai i air yn ei erbyn fynd heibio'i thrwyn.

Ta' waeth, ymhen ychydig roeddwn yng Ngwyddelwern.

Nid wyf yn dweud fod hyn yn well nac yn waeth na dulliau'r llyfrau Saesneg; yn wir, credaf y gall y ddau fod yn dra effeithiol; nodi'r gwahaniaeth yw fy unig amcan yma.

Mae problemau fel yna'n waeth ac yn well ar yr un pryd wrth weithio mewn gwlad dramor.

Ni fyddai'r mesurau yn gwneud y sefyllfa'n waeth, meddai llefarydd.

Beth bynnag yw'r anferthwch yma, credaf ei fod yn deillio o'r fan honno.' 'Fe ddof, os na fydd Tad-cu'n waeth,' addawodd Seimon.

Rhus toxicodendron yw'r eiddew wenwynig - efo deilen fel meillion yn sgleinio o goch - ac os cyffyrddwch â nhw mae'r dolur yn waeth ac yn ffyrnicach na'n danadl poethion ni - ac yn cymeryd amser hir i leddfu.

Ond daeth trigolion Aberystwyth o dan ei lach yn waeth fyth.

'Megan i chwaer,' oedd sylw Alun, 'ac mae hynny'n waeth.'

"Waeth imi heb a gofyn i chi geisio'i argyhoeddi o." "'I argyhoeddi o i beth?" "Y dylai Aled fynd i Goleg Arlunio.

'Fysen i'n dweud fod yr ugain munud ola yn waeth i'r bobol adre oedd yn gwylio'r gêm ar y teledu.

Tae waeth.

Ta waeth am hynny, maen nhw'n bethau plagus tu hwnt.

Roedd hwnnw wedi mynd o ddrwg i waeth.

Felly mae hi'n well ac yn waeth na Kingston.

Wrth gwrs, mae yna feddwi a thrais ar y stryd gyda'r nos a sŵn miwsig rêf yn atseinio o glybiau nos yn oriau mân y bore - yn enwedig adeg gemau rygbi cartre' - ond, yn ôl pobol leol, mae pethau yn waeth yn Abertawe a Llanelli.

Mae'r didol yn waeth na'r aros.

A waeth i nhad heb ag achwyn oblegid llwyn y wermod lwyd chwwaith.

Mae'n hanfodol bod pob damwain sy'n digwydd yn y gwaith, waeth pa mor fach yw, yn cael ei chofnodi yn gywir.

Dydy ymddiheuriad, waeth pa mor swyddogol, fod y fersiwn Eidaleg ddim yn barod eto, ddim yn gwneud y tro; os nad ydy fersiwn pob iaith yn barod, dydy'r dasg o baratoi'r papurau ddim wedi ei chwblhau.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Ac fel y tystiodd Robat Robaits, Tanbryn, wrth rai oedd yn trio cynghori Ifan, 'Waeth i chi heb, deulu.

Mae'r sefyllfa'n waeth byth pan mae ambell sianel yn cael cwmni%au i noddi ffilm neu raglen.

"Mae pethau'n waeth nag oedden nhw flwyddyn yn ôl," meddai.

'Waeth i mi fynd i Ddenmarc mwy na Llaneilian ddim." Gallasai ddweud hynny am iddo fod yn athro mor ffyddlon i Laneilian hefyd - i bob Llaneilian, i Laneilian pawb.

Nid ei bod hi'n fyddar iawn, ond fe allai fynd yn waeth gyda'r blynyddoedd.

Ond ta waeth am hynny, roedd gwen ei chroeso i mi yn jam a fyddai'n werth ei fotlio.A Gres Owan, Tyddyn Waun fyddai'n arfer dweud, 'Nid yw ein gweithredoedd da yn ddim ond yr hyn y mae'n cydwybod yn ei orfodi arnom i guddio'n gweithredoedd drwg.

Byddai'n waeth gyda Robinson Crusoe.

Bid a fo am hynny, ni waeth pa ran o'r byd a wel rai ohonynt, digon yw le spectacle: si ordinaire qu'il soit: qu'on a sous les yeux.

Wyddai Bigw ddim beth i'w wneud â'i harian, felly doedd waeth iddi ei roi i'r plant ddim.

Nid oedd dim yn ei frifo'n waeth na chlywed rhywun yn dweud ei fod yn methu deall rhyw gerdd o'i eiddo.

Mi fyddai hynny, os rhywbeth, yn waeth na chael ei throi'n ganeri.

Fe ges fenthyg cyllell gan Nedi Pen-dre Hi naddiff fel nedde o chwith ac o dde Rhaid gwasgu'n bur gethin cyn torro bren crin Ni waeth iddi lawer y cefen na'r min.

Rhaid i ymwelwyr ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y rheolwyr neu staff waeth ym mha ffurf y cânt eu rhoi.

Roedd y dorf o 4,786 yn siomedig, a'r dyfarnwr yn waeth.

Nid oedd waeth ganddi hi beth a ddigwyddai yn yr harbwr.

Pryderwn fod y Pwyllgorau Rhanbarthol a argymhellir ym Mhapur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol, waeth beth fo eu ffiniau, yn debygol o fod yn ddim mwy na siopau siarad.

Yn ôl Moseley, roedd plant yn cael eu hesgeuluso'n waeth yn swydd Stafford nag yn unrhyw fro weithfaol arall.

Wedi i Hywel symud i ddysgu i Ysgol y Mynach aeth pethau o ddrwg i waeth wrth iddo ddechrau gweld Stacey Jones - 'roedd Stacey yn paratoi i wneud ei harholiadau TGAU ar y pryd.

"Waeth iti garreg na thwll" - S.

'Gyda'ch caniatâd caredig chi, eich mawrhydi,' meddai, 'mae un cyhuddiad yn erbyn Anti Meg sy'n waeth na'r un o gam-drin y caneri...'

Mae rhywbeth yn wyrdroedig yn y peth: nid perfert fel yr hen ddyn budr, ond merch gall yn ei hoed a'i hamser yn prynu papur 'Dolig ym mis Medi neu'n waeth byth, yn rhuthro am sêls ddechrau ionawr i brynu anrhegion at y 'Dolig nesa'.

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng Teg a Cassie a bu bron i Cassie golli'r babi pan wnaeth Teg ei tharo.

Ond ni waeth gennyf i; mae'n braf cael enwi Gwyn a dod ag ef i'r sgwrs mor naturiol â phe bai'n dal gyda mi.

"Wel," meddai Jane Gruffydd, "waeth imi heb na phendympain.

Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.

Waeth beth am ei lle yn y byd yr oedd y Gymraeg i fyw byth yng nghalonnau'r Cymry.

Waeth beth sy'n cael ei wneud iddo, mae 'na bob amser un lle, o fewn pedair awr ar hugain, fydd yn sor oherwydd y pwysau.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn ystod yr wythnos honno.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Waeth pa mor elyniaethus ac anodd yw'r amgylchedd allanol, cyn belled a bod gennych reolaeth a dewis dros eich systemau

I wneud ei thaith yn waeth y bore hwnnw, roedd haenen drwchus o rew wedi troi strydoedd y dref yn feysydd sglefrio peryglus.

'Rwyt ti'n gwybod yn iawn y gna i beintio ond waeth heb â gofyn i'r plant.

Waeth beth arall ddigwyddith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yr wythnos nesaf, fe ellir dweud i sicrwydd y bydd hi'n Eisteddfod hanesyddol, oherwydd fe fydd gan S4C Digidol y ddarpariaeth deledu fwyaf cynhwysfawr a fu erioed o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol.