Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

waetha

waetha

Ar waetha'r penawdau, nid `Ethiopia newydd' oedd Somalia.

Wrth edrych ar ei byd masnachol, mae rhywun yn gallu cael darlun o natur cymdeithas LA Awgryma clefyd y 'coupons' di-ri am rhyw sentan neu ddwy i ffwrdd oddi ar fwyd, nad yw bywyd yr Americanwr cyffredin yn fêl i gyd, er waetha' delwedd y teulu bach llewyrchus.

Felly, mi aethon ni i fyny i ardal yr Alhambra - Oxford Street Beirut - ac, ar waetha'r gymhariaeth, mi roedd yna dlodi aruthrol yna.

Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.

Ar ei orau, mae'n gallu rhoi blas mwy real o ddigwyddiadau nag y gall yr un gohebydd tramor proffesiynol ei roi; ar ei waetha', mae'n golygu fod pobl gyffredin yn cael eu trin fel arbenigwyr.

Roedd y gymuned ryngwladol yn dawel ar waetha'r ffaith fod Ethiopia wedi gorchfygu gwladwriaeth arall, meddai.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.

Mae hyn er waetha'r ffaith y bydd yr arian cyhoeddus a dderbynnir oddi wrth DCMS, yn newid yn unol â graddfa chwyddiant yn unig.