Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

waethaf

waethaf

Ar ei orau, try ei bregethu'n berfformiad esthetig ac ar ei waethaf yn ddiflastod amherthnasol.

Ar waethaf holl ddoniolwch y 'Dad's Army' y gwir yw mai milwyr rhan amser oeddem (di-dâl wrth gwrs).

Agwedd haerllug y Ffrancod ar ei waethaf.

Ar ei waethaf y mae'n amharch ac yn gabledd.

Y noson waethaf imi ei threulio 'rioed !" Dywedodd wrthyf am fynd i chwilio am y morwr ar unwaith iddo gael gair ag ef, ac wedi imi ddod o hyd iddo dychwelodd gyda mi.

`Dyma'r storm waethaf rydw i'n ei chofio ers imi ddechrau gweithio ar y rheilffyrdd,' meddai Thomas Barclay.

Felly pan ddaeth y dirwasgiad enbyd ar ôl y rhyfel byd, Cymru a ddioddefodd gyntaf a Chymru a ddioddefodd waethaf.

Erys y côf amdano yn felys ar waethaf yr hiraeth.

Dywed mai'r rhan waethaf o'i gwaith yw dod o hyd i blentyn sydd wedi marw.

(Myfyrdod ar y gwcw lwydlas neu'r aderyn prengoch glas (o wyn elltydd Dover draw), neu'r hudol Dr Red(efallai)waed o Gaint - o waldiwch fy mhen hefo potel sôs coch (neu salad crîm), yr wyf ar ganol hynllef gyda'r waethaf...

Ar waethaf protestiadau'r wraig, llwyddaf, ar bob gwyliau, i ymweld â'r ffermydd lleol.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

gang@bbc.co.uk neu pleidleisiwch am y gân waethaf o'r rhestr uchod.

a'r funud y rhoddodd Carol y ffôn i lawr, fe aeth hi'n ffrae, y ffrae waethaf a gafwyd rhyngddynt erioed.

Cymru Ymneilltuol yw'r pwnc ac eto y mae islais o genedlaetholdeb gwrthSeisnig trwy'r ddrama: Saeson, er enghraifft, sydd yn rheoli popeth yng Nghymru ac ar waethaf hynny, pobl heddychlon yw'r Cymry (t.

Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Ar waethaf anlladrwydd y trigolion - yr oeddynt yn ddigon wynebagored yn ei gylch fel y prawf y lluniau yn nhai'r puteiniaid ac yng nghartref y brodyr Vitti, yr oedd y trefwyr yn gosod pwys mawr ar lendid corff ac ar iechyd.

Er hynny, nid dyna'r unig demtasiwn i'r llenor Cymraeg, na'r waethaf.

Lisa a'i cafodd hi waethaf.