Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wag

wag

Gan mai dydd Gwener oedd hi roedd yn rhaid iddo roi stop ar bopeth am wyth o'r gloch (hynny yw peidio â syllu'n wag ar y bocs tra sticiai ei ddychymyg binnau i ddelw gŵyr o Bethan) a mynd ar draws y comin i nôl Catrin o'i dosbarth bale.

ac mae Proffesor Dalton wedi awgrymu y gallech chi a'ch teulu gael y tŷ 'ma nawr - gan fod tai'n brin iawn yn y pentre 'ma, ac fe fydd rhaid i chi gael rhywle ..." "Fe fyddwn i'n falch iawn o gael y tŷ os yw e'n wag, Cyrnol Grant.

Fe'm trawyd heno, wrth edrych o gwmpas y clos, mor wag ac mor ddistaw oedd y sgubor.

Ond wedi cyrraedd, nid oedd neb yn y golwg a'r bwthyn hefyd yn wag.

daeth ei ddawn yn y cyfeiriad yma i sylw awdurdodau'r coleg, ac felly, pan aeth y swydd honno yn wag, fe'i penodwyd hefyd yn athro athroniaeth naturiol ", neu ffiseg, fel yr adwaenwn ni y pwnc.

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Ffeil wag a dderbyniwyd gan un ysgol ail iaith uwchradd!

Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.

Wedi cnocio'r drws eto, dyma fo'n ei agor ac yn gweld bod bync Douglas yn wag.

Gwaith cynnal a chadw mewn gwlad wag, ond yn waith hanfodol.

Ond daeth neb i'r Hafod yn ei le, felly dyna ichwi'r nawfed lle i fynd yn wag mewn cyfnod o bymtheng mlynedd.

Roedd y lle bron yn wag fel ghost town fel petai.

Roedd llawer o'r cownteri yn gwbwl wag - ac eithrio ambell ddarn o gig neu damaid o gaws.

O'r diwedd, yr oedd y car yn wag a'r bwthyn yn edrych fel petaent yn byw ynddo - yn wahanol iawn i'r olwg oer, rhy daclus a oedd arno pan gyraeddasant.

Mae ei wersyll yn wag.

Roedd ei phwcad ddŵr yn wag.

Yn yr un modd mae'r polisi ariannu cyhoeddus presennol yn rhwystro'r Gymdeithas rhag gweithredu rhaglen sylweddol o brynu ac adnewyddu nifer fawr o dai yn yr ardal sydd yn wag neu heb eu defnyddio llawer.

Yr oedd y fywoliaeth yn wag oherwydd diswyddo David Evans.

Gyda'r Deri yn wag a busnes yn brin, maen rhaid i Diane feddwl am gynllun yn reit sydyn i roi syched ar bobol a'u denu i'r dafarn.

Daeth yr argraffwyr i ben eu defnydd hanner ffordd trwy dudalen chwech, a gadawyd y gweddill yn wag, yn lle'i defnyddio i roi hysbyseb rhad ac am ddim i'r blaid.

"Taflwyd hotel wag at yr Arlywydd Nixon," meddai darllenydd un tro, gan hau'r amheuaeth yn syth ei fod yn taro'r botel ei hun !

Eisteddai hwnnw'n ddistaw yn y gornel â'i wydryn byth yn wag.

Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.

Fel pe nad oedd yn disgwyl gweld neuadd fawr heb ynddi yr un sedd wâg.

Mi fyddwn i'n codi'r gwydrau ac edrych ar rhyw dyddyn yn y pellter, a meddwl, "dyna le braf i fyw," ond wedi edrych ro'n i'n gweld fod y lle'n wag, wedi mynd a'i ben iddo.

Ond roedd yr ardd yn wag.

Edrychasom hefyd ar y broblem ynglyn â Thy'r Ysgol a oedd yn wag ers blynyddoedd.

Gadawyd yr eglwys lle roedd cynifer ohonyn nhw wedi cael eu bedyddio, wedi canu, ac wedi cyfarfod â'i gilydd yn wag.

Darllenwn eto hanes y gwragedd ar fore'r Atgyfodiad yn mentro allan i wersyll y gelyn, a darganfod fod y gwersyll yn wag.

Fe ges i fraw pan welais eich gwely chi'n wag..." Hyd hynny, roedd hi wedi meddwl mai ei gweld hi ar y traeth a wnaeth, ar ôl mynd i'r feranda o'r ystafell fyw.

Yr oedd yr hen gadair yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiwethaf bedwar diwrnod cyn y noswaith honno.

Roedd y llenni ar gau a'r ystafell yn wag a'r un mor ddigroeso â'r cyntedd.

Ac yn olaf, daeth rhyw wag ysgwyd llaw â thad ei blant, dileu 'Hilberson' ac ychwanegu 'Hilda'.

Meddai ar wybodaeth eang ac ni fyddai byth yn amddifad o ddeunydd i lenwi ambell dudalen wag neu, os byddai angen, ambell rifyn cyfan.

'A finnau hefyd,' meddai Carol, 'ond mae'r botel yn wag a fedr Mam ddim stopio'r car ar y ffordd brysur yma.

Ymestynnai'r ffordd dros y rhostir at ben y clogwyn yn unig ac yn wag yn nhywyllwch y nos.

On'd oedd y tŷ'n wag?

Ydi'r Sul olaf o Fai'n digwydd bod yn wag?' 'Ydi.

Gorweddai yno'n syfrdan, ei grys am 'i ganol a'i din a'i geillie briw yn destun gwawd hiliol i ambell wag a eisteddai gerllaw yn y coridor.

Y mae llawer o'r fflatiau yn awr yn wag ac wedi eu bordio ac y mae'r gweddill o bobl sydd yn dal i fyw ynddynt eisiau symud i ffwrdd.

Cymer drugaredd ar y rheini ymhlith ein pobl ifainc sydd ar ddisberod ac mewn ing ysbryd, rhai yn gaeth i gyffuriau, rhai yng nghrafanc alcoholiaeth, rhai'n distrywio eu bywyd trwy drachwant, rhai'n anobeithio am na allant gael gwaith a rhai'n teimlo fod bywyd yn wag a diystyr am eu bod yn gwrthod goleuni'r Efengyl.

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

A Begw wrth ei weld yn wag yn dweud, 'Rhaid iti wario llai, Rondol' 'Hmmmm', meddai Rondol, 'tinddu meddai'r fran wrth y wylan'.

Y ffordd o wneud hynny oedd edrych am Sul oedd yn wag gan yr eglwys a chan y pregethwr.

Funud neu ddau yn ddiweddarach, pan ddaeth gweision Medrawd heibio i gymryd golwg ar y carcharorion, cawsant fod y ddwy gell yn wag.

Mae'r ystafell gyntaf yn wag er bod yna gryn lanast yno, gyda'r dodrefn ac eiddo gweision Eiryl wedi eu gwasgaru i bob cyfeiriad.

iv) Ni ddylid gadael gwresogyddion cludadwy 'ymlaen' mewn swyddfa wag na'u gadael yn ymyl deunyddiau hylosg.

'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol ac yn llawn bywyd, mor wag.

Mewn geiriau eraill, petai pawb yn yn y plwyf yn mynd i oedfeuon yr un pryd ac yn eu dosbarthiu eu hunain rhwng y gwahanol addoldai, byddai pedair sêt o bob deg yn wag.

Mentro wnaeth y pedwar i'r gwersyll, a chael fod y gwersyll yn wag, gan weld fod holl bryder a dioddefaint y ddinas yn ddi-alw-amdano.

Erbyn hyn mae rhai ohonyn nhw yn wag.

Y cypyrddau'n hollol wag.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?

At hynny, am bob Sais a edy ei swyddfa i ddod i ffermio yng Nghymru, y mae'n bosibl y gall Cymro gael y stôl a adawodd yn wag yn Lloegr.

Ar wahân i'w phwrs a'r anrheg fechan, roedd bag yn wag, ac fe chwythai hwnnw wrth ei hochr fel baner wrthryfelgar.

(Yn ôl un stori ddi-chwaeth gan un o'n plith nad oedd yn or-hoff o ymweld â Moscow, roedd Mr Gorbachev wedi llwyddo o'r diwedd i gael gwared ar y ciwiau hynny drwy sicrhau fod y siopau bwyd yn wag!) Go brin fod parch newyddiadurwyr estron tuag ato, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, wedi gwneud llawer o les iddo ymhlith ei bobl ei hun.

O'r diwedd dyma gyrraedd pen stryd y ferch, ac ar ôl stopio, dyma'r gyrrwr yn troi i ddymuno noswaith dda iddi - ond, roedd y sedd yn wag!

Dyma'r sylwadau a wnaeth y rhai llai na bodlon: Do, ond dim cymaint ar ail iaith ag ar yr iaith gyntaf (Powys); Roedd y ffeil yn wag pan y'i derbyniwyd ac mae'n para'n wag (Dyfed); A bod yn onest ni ches lawer o fudd o'r deunyddiau.

Mor wag yw.