Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wahan

wahan

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Ar wahân i ddeugain munud yn y canol pan yw Pearl Harbour yn cael ei fomio'n ddarnau mân y mae gwylio Pearl Harbour, y ffilm, fel gwylio parodi o'r hyn oedd y ffilm i fod.

Ar ol gweithio'n galed i fagu'r giang, ni chafodd Tomos Huws a'i wraig ddim am eu llafur ar wahan i'r hawl i lywodraethu'r ty.

Doedd gen i ddim iot o ddiddordeb ynddi hi na'i chydnabod - ar wahân i'w mam-gu.

Does yna ddim hyd yn oed air Cymraeg am hynny ychwaith yng Ngeiriadur yr Academi ar wahan i camweithredol sydd ddim yn cyfleu'r un peth o gwbwl.

Yn y sefyllfa honno yr oedd Rondol yn yr hanes gan Pitar Wilias, ar wahan mai enwau dychmygol a ddefnyddiodd o yn ei ddarlith oherwydd i 'nhaid wrthod rhoi caniatad iddo ddefnyddio ei enw fo a Nain, ac am y tro cynta dyma gyfle i chi gael y stori fel yr oedd.

Rhyw ddyrnaid o'r ffrindiau pennaf a wyddai mai ef hefyd oedd perchennog yr unig gwmni Polion Galwp yn y wlad, a'r wythnosau twrnament oedd ei dymor gorau ar wahan i amser etholiadau.

Beth mae goleuni'r haul yn ei wneud, ar wahan i'n cynorthwyo ni i weld ac i deimlo'n gynnes?

Y mae rhannau helaeth o'r wlad heb na thrydan na dwr tap o hyd; ar wahân i'r aelwydydd cefnog, mae'r gweddill yn defnyddio glo i goginio, mangl wrth wneud y golch, a'r ciosg ar fin y ffordd os am wneud galwad ffôn.

Ar wahan i'r adar cyfarwydd fel y gog a'r wennol fydd yn cyrraedd yma yn y Gwanwyn, mae miliynau o adar eraill yn cyrraedd yr un pryd, e.e.

Yn ffodus cyhoeddwyd Cyflwyniad Byr ar wahan i'r ddogfen ac amgaeaf gopi o'r cyfryw i'ch sylw.

Ar wahan i orfod ad-dalu'r swm ei hun, mae'n rhaid talu'r llogau, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn amrywio'n ddirfawr o le i le.

Carem fel Cymdeithas nodi i ni fynd i Hendygwyn gan wybod yr amgylchiadau a sicrhau, trwy ddefnyddio adnoddau technegol, y byddai lle i'r holl gystadleuwyr a'r gynulleidfa i weld y cystadlu mewn neuaddau ar wahan i'r brif neuadd, a oedd, gyda llaw yn dal nid deucant ond tri chant a hanner.

Ar wahân i Pobol y Cwm a Newyddion, mae BBC Cymru amlycaf ar S4C mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol (eleni, er enghraifft, cynhyrchodd bron i 30 awr o Fro Ogwr), a'r Sioe Frenhinol lle rydym hefyd yn cynhyrchu rhaglenni dyddiol, o dan y teitl Y Sioe Fawr, a rhaglen uchafbwyntiau y penwythnos canlynol.

Ar wahan i glamp o raswraig unig gyda phen ôl fel caseg a bol fel tarw penwyn.

Emynau'r credadun cyffredin yw ei emynau ef, nid emynau'r enaid ysig ar wahan.

Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Yn eu ffordd a'u steil eu hunain roedd Rondol a Begw'n gymeriadau digon diddorol, ar wahan eu bod wedi mynd yn orhoff o'r ddiod.

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

Mae'r cwn poeth i gyd hefo chdi ar y llwyfan 'na.' Ar wahan i ryw betha bach fel 'na, roedd o'n hen foi iawn.

Er, ar yr un pryd dydw i ddim yn siwr gyda pha awdurdod y mae on medru dweud yr hyn y maen ei ddweud ar wahan i'r ffaith ei fod o pwy ydi o.

Hynny'n briodol yn ein hoes ddreng Thatcheraidd lle'n dosbarthwyd yn unedau bach preifat hunangynhaliol ar wahan yn hytrach nag y dorf gymdeithasol gydweithredol.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Ychydig iawn ar wahan i ymweliadau a'r theatr broffesiynol ym Manceinion.

Ar wahan i Adrian Dale sgoriodd 37 a Keith Newell sgoriodd 47 heb fod mâs lwyddodd neb i feistroli bowlio'r tîm cartref ar lain araf dros ben.

Dywedir bod gan rai pobl, serch hynny, olwg annibynnol, sef eu bod yn gallu defnyddio'r ddau lugad ar wahan.

Yr hyn a'm trawodd i (ar wahan i ambell i sgonsan!) o edrych ar y lluniau o ferched clodwiw y Dybyliw Ai yn bychanu Blair oedd y prinder wynebau ifanc yn y gynulleidfa.

Roedden nhw'n mwynhau cefn gwlad yn burion, ar wahan i un peth; eu bod nhw'n methu'n deg a chysgu.

Mae'r ddau fersiwn, ar wahan, yn bur gyfarwydd i'r rhan fwyaf ohono.

Maen nhw'n rhan o'r gymdeithas, nid yn rhyw fodau ar wahan sy'n hawlio gofal a maldod parhaus.

Mae pobl wedi tueddu i'w cadw mewn adrannau ar wahan yn eu meddyliau, fel petaent yn son am fydoedd gwahanol.

Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wahân.

Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?

Mae sialens enfawr o'i flaen e oherwydd ar wahan i'r cyfrifoldeb o arwain y tîm bydd James yn agor y batio.

Ar wahan i Close - ar parot syn meddwl ei fod yn gi! - difywyd yw'r actio ar y cyfan gyda Ioan Gruffudd wedi etifeddu rhan syn golygu nad oes cyfle iddo ond mynd drwyr mosiwns.

Ni fyddwch yn datgelu'r fath wybodaeth (ar wahan i pan fo hynny yn rhan o drefn briodol eich dyletswyddau) i unrhyw berson, cwmni, neu gyfundrefn arall.

Fe fu Morgan yn Llanrhaeadr am ddwy flynedd ar bymtheg, y cyfnod hwyaf a dreuliodd mewn unrhyw fan yn ystod ei oes, ar wahan i'w fachgendod yn Arfon.

Fodd bynnag, ar wahan i'r chwarter olaf, mae'r ffilm yn brin o gyffro ac effeithiau gweledol.

Ar wahân i hynny mae Clockwork yn plesio'n arw, ac mae hi'n brawf pellach o'r ffaith fod cerddoriaeth ysgafnach yn gweddu Gwacamoli i'r dim.

Y teimlad oedd bod strwythur presennol senedd y Gymdeithas yn gosod unigolion i weithio ar brosiectau ar wahân - tra bod profiad yn dangos mai trwy weithio fel tîm y mae pobl - a'r Gymdeithas - ar eu gorau.

Cynhyrchwyd y datganiad hwn aac amgaeir ef fel adroddiad ar wahan i'r aelodau ei ystyried.

Di-Gymraeg oedd fy mam ar wahan i ambell air neu ymadrodd.

Wir ichi, fe fydd yn dda 'da fi weld rhyw enaid byw ar wahan i ddafad yn pasio heibio lan y feidir 'ma to!' Mor harti yr hebryngai'i thad y pwrcaswr at y dwrs, ac fel roedd ei mam yn ei ystlysu ac yn ei eilio bob cam i'r rhiniog!

Y broblem fwyaf i'r rhai sy'n sefyll lefel 'O' ac 'A' (ar wahan i gofio'r dyfyniadau) yw'r ymchwil am atebion syml, parhaol i waith Gwenlyn Parry.

Yr unig ffordd y gall cwmnïau fel hyn sicrhau statws i'r Gymraeg yw trwy sefydlu cyfundrefn ddosbarthu nwyddau ar wahân i Gymru.

Mae'r system addysg ar fai i ryw raddau, mae'n siwr, gyda'i disgyblaethau haearnaidd yn cadw'r ddwy iaith ar wahan.

Mae rhai pentrefi hefyd gyda muriau mwd sy'n amgylchu'r holl gymuned, ar wahan, wrth gwrs, i'r gwehilion.

Yn fuan, oherwydd swmp y dystiolaeth, bu'n rhaid sefydlu tribiwnlys ar wahân i archwilio taliadau preifat i wleidyddion.

Gwynedd, wrth gwrs, yw'r corff llywodraethol mwyaf drwy'r wladwriaeth i gyd sy'n gweithredu'n fewnol mewn iaith ar wahân i Saesneg.