Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wahoddiad

wahoddiad

Roedd Cathy yn fyrlymus ei chroeso gan fod ei thad wedi sôn wrthi am yr erthygl ac am ei wahoddiad i Anna ddod i weld y cwch.

Does na ddim un drama tu hwnt i Tony Jones ac i'r un a fentrodd fod yn feirniadol, estynnaf wahoddiad i'r Theatr i gyd-weithio hefo ni a gweld sut mae cyflawni gwyrthiau!

Cefais wahoddiad gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr i fynd i Strasbourg i weld llysoedd a senedd-dai Ewrop.

Estynnodd wahoddiad i Bernez hefyd, wrth gwrs, ac roedd yntau'n falch o gael mynd gan y gwyddai y byddai Madelen yno.

Roedd yna hyd yn oed wahoddiad i newyddiadurwyr gael swper gyda theulu Iddewig.

Cyn Nadolig derbyniais wahoddiad oddi wrth un o'r cwmni%au trin gwallt rhyngwladol i fynd i Dde Affrig drostyn nhw.

(ii) Datgan siom na chafodd yr aelodau perthnasol wahoddiad i'r cyfarfod a gofyn iddynt sicrhau bod cynrychiolaeth o'r Cyngor hwn yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd cyffelyb i'r dyfodol.

Ond prin yr oeddwn wedi cael sicrwydd y medrwn astudio yma ac wedi dechrau hel fy mhethau at ei gilydd pan dderbyniodd y bonwr Schneider wahoddiad i dreulio cyfnod fel awdur gwadd - yn Abertawe.

Cafodd y Gwrthbleidiau wahoddiad i ymuno â hi i drafod pwerau'r Cynulliad ar y mater yma.

Ar ran Pwyllgor Dosbarth Maldwyn o'r Urdd, estynnaf wahoddiad cynnes iawn i bawb sydd a diddordeb mewn trafod a chynorthwyo mewn unrhyw ffordd i fod yn bresennol.

Tra oedden ni yn Havana, fe gawson ni wahoddiad i ffilmio seremoni dadorchuddio cofgolofn i Lenin, y fwya' a'r hardda' o'r cofgolofnau a oedd iddo ledled y byd - ac roedd trideg- chwech o'r rheiny.

* rhowch wahoddiad ffurfiol i rywun o'r sefydliad i ddod i'ch ysgol.

Rhaid i ni anghofio'n gwaseidd-dra boed hynny'n sedd ar Quango Iaith neu'n wahoddiad i'r Frenhines i agor ein Llyfrgell Genedlaethol.

Rhyw fis yn ôl, cefais wahoddiad na allwn ei wrthod.

Ar yr ail ymweliad cefais annerch y Cyngor ar ei wahoddiad.

Wel, dewch i mewn i gyd." Cawsant wahoddiad i aros yn y cartref hwnnw a gofynnwyd i Pamela ofalu ar ôl y ferch, gan nad oedd yn mwynhau'r iechyd gorau.

Ni ddylid di-ystyru pwysigrwydd yr adroddiad a'r cyfle i roi cyhoeddusrwydd pellach, ar wahoddiad y llywodraeth, i egwyddorion Deddf Eiddo a'r chwe pwynt fel ateb i'r sefyllfa dai yng Nghymru gyfan.

Ar ôl y gêm cawsom wahoddiad i fynd i dafarn gyda bechgyn Leeds.