Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

waliau

waliau

Roedd cerrig llwyd, anwastad y waliau yn bochio allan, yma a thraw, gan greu corneli a llecynnau tywyll.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

Yn lled dywyllwch y capel y mae Ceri Sherlock a thri arall yn eu cwman dros offer sain a sgrins yn cydgordio'r holl weithgarwch yn fyddar i diwn y criced yn y waliau.

Wrth fynd o'r waliau mawr, awyr-agored i waliau mwy cyfyng, mae'r sloganau'n newid cywair yn ogystal.

Roedd y waliau gwydr a'r to yn drwm gan ager a thasgai diferion mawr o leithder i lawr ar ben y planhigion.

Gafaelodd yn Gary gerfydd ei wddf a'i wthio yn erbyn un o waliau'r toiled.

Darparu coed tân, torri gwair, peintio gatiau, trwsio waliau, gwaith clirio, gwaith cynnal a chadw, plannu coed...

Ac yr oedd yn Blas - gatiau crand a stepiau yn arwain at bileri Rhufeinig, ac oddi mewn i'r neuadd fawreddog paneli o luniau lliwgar ar y waliau.

A dyma rai dienw oddi ar waliau yr un geudy prysur:

Cwn yn cyfarth, asynnod yn nadu a phobol yn rhedeg o dŷ i dŷ â'u hwynebau cyn wynned ^'r gwyngalch ar y waliau oedd yn disgleirio yn llygad yr haul.

Ar y waliau, lluniau mewn fframiau gwneud yn dangos gwrthrychau ei ddiddordeb.

Erbyn hyn mae modd ymweld a'r eglwysi hynafol sy'n llechu oddi mewn i waliau'r Kremlin ei hun, ac yno gwelir lluniau hardd yn addurno'r muriau.

Yr unig sŵn oedd dyrnod pren ar bren a sloshian rhythmig wrth i'r clai gael ei daflu fesul dyrnaid i orchuddio plethwaith y waliau.

Roedd yr aer yn oer a diferai dŵr o'r nenfwd gan lifo i lawr y waliau.

Roedd waliau cerrig hyd yn oed yn dechrau chwalu.

Am gario'r meini, am godi'r waliau a phrynu'r tir; a'r tu allan i'r waliau, y tu allan i'r ffenestri uchel, pedair ar yr aswy a phedair, yr un ffunud ar y dde, canmolwyd gwaith llaw Thomas Jones yr Hendy a Gomer a gwelwyd bod pob dim yn dda.

Graffiti masnachol yw llawer o'r posteri sy'n addurno waliau yr ieuenctid yn bennaf ac mae rhai o bosteri mudiadau gwleidyddol Cymru yn enghreifftiau o graffiti gwleidyddol ar raddfa torfol.

Mewn gwledydd eraill, mae graffiti gwleidyddol ar waliau yn gelfyddyd gywrain iawn.

A cherrig moel ydy waliau'r tū, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tū cyfan.

Deg troedfedd yn unig oedd uchder y waliau, ac felly llifodd llawer i mewn am ddim.

Roedd Thomas a Gomer wedi clymu'r waliau yn ei gilydd yn grefftus ond roedd hyd yn oed eu crefft hwy'n annigonol i rwystro ambell grac rhag amlygu'i hun.

Llanwyd y craciau, ailaddurnwyd y waliau tu fewn, rhwystrwyd y lleithder rhag amharu mwy ar wynder y wal y tu ôl i'r pulpud a gwnaed pob dim yn ddiddos a chlyd er mwyn croesawu'r adfywiad a oedd yn sicr o ddigwydd.

Y mae ambell ddarn o graffiti yn codi dir uchel mewn celfyddyd weledol: Balls to Picasso - Ambell un yn grefyddol ei naws: "Jesus Saves--but Southall is better." Mae amryw byd yn rhywiol wrth gwrs ac mae waliau tū bach yn feysydd ymchwil anhepgorol i'r sawl sydd am lunio Blodeugerdd o Limrigau neu hyd yn oed gasgliad o englynion coch.

Dal i bwyso, gyda 3 mis o weithredu difrifol ddwywaith yr wythnos yn erbyn adeiladau ac eiddo'r cwmnïau teledu a'r Llywodraeth. O fewn 5 mlynedd, gwelodd dros 1,000 o aelodau'r Gymdeithas y tu mewn i waliau carchar oherwydd eu rhan yn yr ymgyrchoedd dros Sianel Gymraeg a Statws Swyddogol i'r Iaith.

O'r nenfwd uwch eu pennau, o'r waliau o'u cwmpas ac o'r llawr oddi tanynt daeth tonnau gwynion o oleuni llachar.

Ar lawr y dyffryn, ar ochr y ffordd, roedd y bwthyn bach rhyfeddaf a welwyd erioed - y waliau wedi'u gwneud o fara brith, y to o fara ceirch, a'r ffenestri o siwgwr candi.

Roedd y dref ei hun yn dawel - dim ond ychydig o drigolion i'w gweld er y codai swn bargeinio brwd o'r farchnad y tu allan i waliau'r castell.

Ac roedd wedi gwneud hynny, gan adael ei ôl, nid yn unig ar y cerrig beddau yn y fynwent a oedd wedi gwyro i'r dde neu i'r aswy wrth i'r tir o danynt symud a setlo, ond hefyd ar waliau cedyrn y capel o briddfeini a ddaeth o dy'r ffan ar ben y gwaith, 'slawer dydd.

Wedi misoedd o weini ar ynnau gwrth-awyrennau, ei waith yn awr oedd peintio darluniau ar waliau cantinau NAAFI Y mae'n debyg fod adran o'r corff hwn wedi mynd i Iwgoslafia'n ddiweddar.

Mae hi'n aelod o dim golygyddol Pobol y Cwm, a bydd hyn yn golygu y bydd cymeriadau fel Cassie, Kath, Stacey, Denzil, Darren, Derek, Hywel a Steffan, i enwi rhai, yn fuan yn ymddangos ar waliau ceginau yn y flwyddyn newydd.

Mi ddown ni â'n hanifeiliaid i mewn y tu ôl i'r waliau a chau'r drysau derw.