Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wallgof

wallgof

Y plant yn rhoi croeso mawr, y seciwriti yn mynd yn wallgof, a'r Prifathro yn diflannu i mewn i'r ysgol am ei fod yn perthyn i'r Blaid Fach medda nhw!

Aeth pethau'n wyllt wallgof ar ôl hynny.

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Yr oedd y cyhoeddi difwlch hwn yn ddigon a gyrru dyn yn wallgof.

Daliai i droi'n wallgof wrth i'r bachyn fynd i mewn i'w gnawd wedyn.

Yn 'Penyd' cawn fynd i mewn i ymennydd gwraig wallgof, a dilyn ei meddyliau yn yr ysbyty meddwl am un diwrnod cyfan o'i bywyd.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

Ond, fel y sylwais neithiwr, nid yw trafnidiaeth India mor gwbl wallgof a thrafnidiaeth Jamaica, nac mor oeraidd-drahaus a thraffig Ewrop.

`Rydych chi'n wallgof,' meddai'r meddyg.