Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

warchae

warchae

Mae ein hiaith mewn enbydrwydd, ein tir o dan warchae gan estroniaid, ein diwydiannau'n adfeilion a'n plant ar wasgar ym mhedwar ban y byd.

Ei hiaith a'i threftadaeth Gymraeg oedd ei gobaith a'i gogoniant, ac yr oedd y rheiny dan warchae.

Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.

Ac eto fe fyddwn yn dal i fyw yn union fel petai angau a'i warchae yn ein caethiwo ni.

Pan oedd Samaria dan warchae, a gwersyll y Syriaid tu hwnt i'r gorwel yn rhywle, yn tagu'r ddinas gan newyn, fe ddaeth pedwar gwahanglwyf at y pyrth.

Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.

Yna cymer badell haearn a'i rhoi fel mur o haearn rhyngot ti a'r ddinas, a thro dy wyneb tuag ati; a bydd dan warchae, a thithau'n ymosod arni.

Hyd lannau rhynllyd Afon Daugava, roedd olion hen fawredd a dylanwad diwylliannau eraill ond, ym mlwyddyn gynta' rhyddid, roedd hi'n wlad dan warchae o'r tu mewn.