Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wared

wared

Mi ddaw gwlad fach Urmyc yn fwy clir ar y map yn y diwedd - wel, mae hi'n bownd o ddod yndydi, os can nhw wared ar yr holl niwl yna sydd wedi bod yn llesteirio eu datblygiad a'u gwelediad?

Roedd y bwrdd wedi ei osod yn barod ar gyfer brecwast drannoeth, bowliau bara llaeth wyneb i wared mewn rhyw wyth neu naw o lefydd, ar wahân i lle'r oedd Dic yn eistedd, y lamp baraffin ar y wal uwch ei ben wedi ei throi i lawr rhag iddi fygu yn y drafft.) "Roedd hi'n bert iawn, gwraig y ffarmwr yma.

Pan ddaeth tymor y 'Dolig i'w derfyn y llynedd fe gawsant wared ohona' i o'r ysgol a 'dydw i'n ama' dim nad oedd yr ocheneidia' rhyddhad i'w clywed bryd hynny yn atseinio'n uchel hyd goridora' byd addysg.

Croesodd y môr a glaniodd ar draethau gogledd y wlad, a thrwy iddo ladd cynifer o Wyddelod, cafodd rhan helaeth o ogledd-orllewin Cymru wared ar y gelyn.

Oherwydd hynny, byddai pawb yn rhoi cardod go sylweddol iddo er mwyn cael ei wared.

Gair awgrymog yw "lladd amser", fel petai'n rhywbeth i gael ei wared.