Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wareiddiad

wareiddiad

Yr ydym yn meddu ar wareiddiad, ebe George Steiner (a'i drosi'n llythrennol), am ein bod wedi dysgu cyfieithu allan o amser, neu (a dyma'i ystyr) am ein bod wedi dysgu dehongli'r gorœennol a gedwir mewn geiriau.

Yn gyntaf, beth yn union yw'r amodau sy'n angenrheidiol i greu bywyd ac yna gallu ei gynnal hyd at stad o wareiddiad uwchraddol?

Ni fyddai modd disgwyl i genedl felly fod yn fodlon addoli'r Groegiaid paganaidd fel patrwm o wareiddiad a phrydferthwch.

Yr ydym ni sy'n Gymry, yn hawlio ein bod yn gyfrifol am wareiddiad a dulliau bywyd cymdeithasol yn ein rhan ni o Ewrop.

Mae sawl atgof hefyd nad dinas fodern Trydydd Bydaidd ddiurddas yw hi, ond prifddinas hen hen wareiddiad.

Cais syml i benderfynu sylfeini ydoedd, ac ni synnai "A.E" pe byddai "cenhedloedd penllwyd gan ddoethineb wleidyddol" yn dirmygu'r ymgais i "sefydlu meddwl gwleidyddol gan genedl hunan- lywodraethol newydd, neu ddamcaniaethau am wareiddiad yn cael eu trin o gwmpas crud Gwladwriaeth yn ei babandod".

Mae'n rhan o wareiddiad Ewrop'.

Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.

Mae'r llen yn y bryddest yn llen haearn rhwng yr hen wareiddiad Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg.

Byddai bywyd cenhedloedd Ewrop a'r byd hefyd rywfaint yn dlotach, canys y cyfraniadau a ddaeth trwy'r traddodiadau cenedlaethol a gyfansodda wareiddiad Ewrop.

Yr oedd holl wareiddiad a diwylliant Ewrop mewn perygl enbyd, meddai, ac eto prin y mae eco o'r holl broblemau hyn ym marddoniaeth gyfoes Cymru.

Er i grefydd a chrefft yr India ddylanwadu ar wareiddiad Cambodia, mewn amser tyfodd y gwareiddiad hwn i fod yn arbennig o nodweddiadol o'r genedl ei hun yn Angkor.

Yn well am fod arwyddion gwareiddiad, a gwybodaeth am wareiddiad yma.