Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wario

wario

Ond cyn i'r ddirprwyaeth adael Aberystwyth 'roedd newyddion drwg wedi ein cyrraedd, sef bod y Weinyddiaeth Addysg wedi gwrthod caniata/ u i'r Awdurdodau Addysg wario arian y trethdalwyr i roi cymhorthdal i awduron na chyhoeddwyr, nac i gyhoeddi ein hunain, am fod y cyfan hyn yn anghyfreithlon!

"Mae'r ffaith bod First Knight yn dod i Feirionnydd yn golygu bod pobol leol yn cael gwaith, ac arian yn cael ei wario yn lleol," meddai Geraint Parry sy'n cynorthwyo Hugh Edwin, Swyddog Datblygu'r Cyfryngau yng Ngwynedd.

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

Mewn cyfarfod arbennig yng Nghaerdydd heddiw, penderfynodd Awdurdod S4C y bydd 99% o'r arian a dderbynnir o'r DCMS (Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon) yn 2000 a 2001 yn cael ei wario ar y gwasanaeth rhaglenni.

Fydd raid i chi wario'r un ddima' ar 'i addysg o." "Yr un ddima%?

Fodd bynnag, bydd arian yn cael ei wario ar amser stiwdio hefyd - fel yn achos Geraint Jarman a Steve Eaves y llynedd.

Dengys profiad y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ei bod yn fwy anodd byth gwtogi ar wario cyfredol y llywodraeth oherwydd y gyfran uchel o gostau llafur yn y gwario hwn.

Y neges felly yw rhestru pob taliad misol, gan gofio'r trydan, y nwy, pob polisi yswiriant, y dreth cyngor a'r bil ffôn, a gweld faint sydd ar ôl i'w wario ac i ad-dalu'r benthyciad.

Ni fydd hyn yn cynnwys yr hawl i wario heb yn gyntaf gyflwyno amcangyfrif neu bleidlais atodol yn y ffordd arferol drwy'r Pwyllgor Ariannol, Eiddo ac Amcanion Cyffredinol i'r Cyngor.

Mae yna wario ffri wedi bod ar Barc Ninian ers i Sam Hammam brynu'r clwb.

Aeth y llythyr ymlaen i nodi bod perffaith hawl gan yr Awdurdod i wario'r swm a fynnent ar brynu llyfrau.

Dengys rhediad o gatalogau sioeau cŵn y cynnydd mewn bridiau ecsotig - arwydd o'r symiau sylweddol o arian y mae pobl yn barod i wario ar eu hobiau yn y dyddiau hyn.

Fydda i'n gwneud hynny'n aml, gwario prês, ac yna ystyried ydi o gennyf i'w wario.

Dechreuais arni'n eiddgar i hel pentyrrau ohonynt ynghyd; yr oeddwn yn barod i wario rhai ugeiniau o bunnau yno.

O wario arian mawr, fe ellir cael llwyfan, set, sustem sain neu sgrin sy'n dangos hynny, ond yr un yw'r patrwm yn y bon.

Y gred gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod hyn yn arbennig o wir am wario cyfalaf.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Aberdaron yn gofyn i'r Cyngor ystyried y posibilrwydd o resymoli y rhwydwaith llwybrau ac o ble y daw'r cyllid i wario cymaint arnynt.

Buasai wedi talu ar ei ganfed i wario arian i'w symud yn y lle cyntaf.

A Begw wrth ei weld yn wag yn dweud, 'Rhaid iti wario llai, Rondol' 'Hmmmm', meddai Rondol, 'tinddu meddai'r fran wrth y wylan'.

Barn Cynog Dafis, yr AC lleol, yw y dylid cyhoeddi'r cyfrifon gan fod arian cyhoeddus eisoes wedi ei wario.

Llwyddwyd i dderbyn addewid o £100,000 o arian Loteri ond er bod cadeirydd Menter Preseli, y Cynghorydd Lynn Davies, wedi cydnabod ar y rhaglen fod £50,000 eisoes wedi ei wario does dim arian Loteri wedi cyrraedd hyd yn hyn.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Elan Closs Stephens: "Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i fod yn agored ac o fewn cyrraedd y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, i roi cyfrif llawn am arian cyhoeddus rydym yn ei wario ar eu rhan ac i raglenni o'r safon uchaf posibl.

Parhânt hyd heddiw i gefnogi'r polisi o wario miloedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ar arfau rhyfel i gynnal bri Prydain tra'n mynnu na ellir fforddio'r ganfed ran i amddiffyn iaith a diwylliant Cymru.

Os yw dyn yn dewis byw ar wahân, mae'n byw ar gefn cymdeithas, os yw'n cael dôl, mae'n ei wario i gyd ar gwrw.

Gyda pawb, fwy neu lai, ym Mhantycelyn yn prynu copi, heb sôn am fyfyrwyr eraill, buan iawn y cawsant yr arian yr oeddent wedi'i wario yn ôl.

Cofiwn am droeon y bu acw dafodi pur hallt cyn hyn am imi wario'n ormodol ar lyfrau.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges frys at Rosemary Butler AC (Ysgrifennydd Addysg y Cynulliad) yn gofyn iddi wario'r arian ychwanegol ar gyfer addysg mewn modd gwahanol yng Nghymru i'r hyn a fwriedir ar gyfer Loegr.