Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wasanaeth

wasanaeth

Bydd y neges yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmniau ffôn symudol.

Yn ychwanegol i waith y fferm, roedd y rhan fwyaf ohonom yn gorfod gwasanaethu yn yr 'Home Guard' neu ryw wasanaeth rhan amser arall.

Roedd hwn yn filfeddyg wrth natur a llawer iawn o alw am ei wasanaeth.

Ni chadwai hyn ni, fodd bynnag, rhag dilyn gofynion gwladwriaethol y cyfnod a hawlid ugain wythnos arall o'r flwyddyn at wasanaeth y wlad.

Byddwn yn falch o helpu gyda'r rhan fwyaf o ymholiadau, ond cofiwch nad oes modd i ni fod yn wasanaeth cyfieithu na'n ganolfan gwybodaeth am yr iaith ar gyfer myfyrwyr yn gwneud ymchwil, oni bai bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar Gymdeithas yr Iaith neu ymgyrchu iaith, wrth gwrs.

`Norman Croucher, i dderbyn medal am roi cymaint o wasanaeth i fynydda!' Ni fedrai'r gynulleidfa yn Neuadd y Dref Kensington gredu'r fath beth.

Doedd yna fawr o alw am ei wasanaeth ac roedd hynny o gyflog a gâi yn fychan iawn.

Rhaid i wasanaeth da, sy'n anelu at yr ansawdd bywyd gorau posibl i'w defnyddwyr, roi pob anogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau yngl^yn a'u bywydau eu hunain.

Rhoddwyd gwasanaeth newyddion BBC Radio Wales ar brawf - a dangoswyd ei fod yn wasanaeth o'r radd flaenaf - pan ddaeth yr arweinwyr cenedlaethol i Gaerdydd yn ystod mis Mehefin ar gyfer Cyngor y Gweinidogion Ewropeaidd.

Tuedd pobl yn awr yw meddwl am wasanaeth crefyddol fel cynulliad preifat i'r sawl sy'n cymryd diddordeb mewn crefydd.

Y dehongliad arall oedd bod Preswylydd y Berth yn fy ngalw i wasanaeth.

Bellach y mae llawer ohonynt wedi eu caethgludo i wasanaeth materoliaeth, ac yn esmwyth yn eu caethglud.

Honnid y câi ein blaenwyr ni eu gwthio oddi ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw, ac i sicrhau na fydde hynny'n digwydd, galwodd Carwyn a Norman ar wasanaeth R.

Fel yr oedd Thomas Jones Llanuwchllyn, a roes wasanaeth mor wiw i lywodraeth leol yng Nghymru ac i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Fe'n cyflwynwn ein hunain o'r newydd i Ti ac i wasanaeth dy Deyrnas.

Y mae Crile yn gofyn a fyddai'r llawfeddyg wedi mynnu gwneud yr operasiwn ei hun petai'n gweithio am gyflog yn hytrach na chael tâl am wasanaeth?

Mae'r busnes wedi ymdrechu'n galed i wella'i wasanaeth i gwsmeriaid a bu'n canolbwyntio ar wella prosesau yn ogystal â'r amgylchedd y mae ein cwsmeriaid yn gweithredu ynddo.

Benthyciodd rygbir undeb nifer o dactegau amddiffynnol oddi wrth rygbi tri ar ddeg a dyna pam mae galw cynyddol am wasanaeth gwyr fel Phil Larder, Ellery Hanley a Clive Griffiths.

mae'r busnes wedi ymdrechun galed i wellai wasanaeth i gwsmeriaid a bun canolbwyntio ar wella prosesau yn ogystal âr amgylchedd y mae ein cwsmeriaid yn gweithredu ynddo.

Pan gynhaliwyd ei wasanaeth sefydlu ym Mwcle, daeth ei dad yno o Flaen-y-coed, ynghyd a thri neu bedwar o ddiaconiaid yr eglwys gartref.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Mae palasau a chaerau, wrth gwrs, a Senedd-dy-aruchel y Raj wedi ei drawsgyfeirio at wasanaeth y wlad newydd.

Gwêl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y cysyniad o ‘;wasanaeth' yn egwyddor sylfaenol ac angenrheidiol i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Geilw'r Pwyllgor am gadw addysg yn wasanaeth barhaus i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy'n atebol i'r gymuned gyfan, sy'n cydnabod ei hanes a'i thraddodiadau ac sy'n fyw i'w dymuniadau a'i hanghenion ar gyfer y dyfodol.

Golygai'r gwaith datrannu hwn ein bod yn digroeni braich yn llythrennol ond fe wneid hynny, wrth gwrs, â'r cyrff a roddasid at wasanaeth meddygon drwy ewyllysiau unigolion.

Eglurodd y dieithryn fod y cwmni oedd newydd gyrraedd yn barod i dalu am gyflenwad bychan o ddŵr, ac y talent yn hael am wasanaeth eu gof enwog.

Yn hwyr ar nos Sul, mynychais wasanaeth dwyieithog yn un o eglwysir ddinas.

Sonnir am feddyg a oedd yn gwneud llawer iawn o arian wrth wneud tonsilectomiau di-rif o dan yr amodau 'tâl am wasanaeth' arferol.

Ond llesteirir gwerth y fath welliannau gan y ffaith bod y diffyg cartrefi addas ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â'n llochesau yn faen tramgwydd i'n holl wasanaeth.

Daeth cynulliad teilwng i wasanaeth cyhoeddus ddydd yr angladd i dalu'r gymwynas olaf i un oedd mor annwyl a hoffus yn eu golwg; dan arweiniad y Parch.

Ysgrifennodd lawer o gofion a thraddodiadau y wlad, y rhai fydd ddiddorol ac o wasanaeth mawr i ryw hanesydd.

O'r terfysgwyr i gyd, 'doedd dim amheuaeth mai trigolion Tipperary oedd y ffyrnicaf ac alltudiwyd nifer fawr o Dde Iwerddon i gyfnodau hir o benyd wasanaeth.

Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.

Codi o'r llwch a wnaeth Ieuan Gwynedd, yntau, a hyd yn oed pan oedd yn weinidog yn Nhredegyr dim ond cildwrn pitw a gâi am ei wasanaeth.

Fel y mae'n digwydd, dim ond ychydig yn llai nodedig fu 1998/99: ymweliad Cyngor Gweinidogion Ewrop â Chaerdydd, ymddiswyddiad Ron Davies AS o'r cabinet, y gystadleuaeth am arweinyddiaeth ei blaid, penderfyniad y BBC i wneud buddsoddiad enfawr ym maes newyddion a materion cyfoes yng Nghymru mewn ymateb i'r Cynulliad Cenedlaethol newydd, BBC Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cyntaf - BBC CHOICE Wales - y gwasanaeth cyntaf gan BBC Cymru i fod ar gael drwy'r DG.

Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Un llawfeddyg dewr sy'n beirniadu'r system hwn o 'dâl am wasanaeth' yw George Crile.

Ni fuasai pawb yn cytuno â'm dewis gan fod detholiad dirifedi o blu sewin ar gael, rhai wedi eu dyfeisio at wasanaeth pysgotwyr lleol.

Yn ogystal â bod yn Arweinydd Clwb Bryncir, yr oedd galw am wasanaeth y ddiweddar Miss Elizabeth Lloyd Williams i roi hyfforddiant i aelodau rhai o'r clybiau eraill yn rhinwedd ei swydd gyda'r Weinyddiaeth Amaeth fel Swyddog Cynghori ynglŷn â llefrith.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwþr megis Y Parch.

Tydi sy'n gallu rhoi cyfeiriad i ynni'r ifanc a'i droi'n wasanaeth creadigol.

Ddydd Sul mynychodd wasanaeth i gofio am Ddewi Sant a ddydd Llun cyflwynodd berfformiad o Dylan Thomas yn Under Milk Wood.

Yr oedd y rhai ifanc ar y llaw arall yn cael eu galw i wneud rhyw "wasanaeth cenedlaethol" neu'i gilydd.

Datblygiad mwyaf arwyddocaol y flwyddyn oedd achlysur lansio BBC Cymrur Byd, safle Cymraeg sydd bellach yn golygu bod siaradwyr Cymraeg ledled y byd, am y tro cyntaf, yn cael cyfle i weld papur newydd arlein dyddiol yn Gymraeg, wedii ategu gan wasanaeth chwaraeon, erthyglau, a chysylltiadau â nifer o safleoedd eraill fel Pobol y Cwm a Ffeil, y rhaglen newyddion i blant a wneir gan BBC Cymru ar gyfer S4C. Mae hwn yn un o'r dyfeisiau cyfryngol mwyaf arwyddocaol yn Gymraeg ers agor S4C ar ddechraur 1980au, ac mae eisoes yn denu cannoedd o ymweliadau gan siaradwyr Cymraeg ledled y byd.

Fe ddarganfu ymhen blwyddyn mai mwy buddiol fyddai iddo symud i Goleg arall lle roedd eglwysi Annibynnol i'w cael yn amlach ac y byddai mwy o alw am ei wasanaeth, a dewisodd fynd i Goleg y Brifysgol Abertawe.

Sefydlu trefn rhaglenni boreol newydd ar BBC Radio Cymru, a gynhelir gan wasanaeth newyddion cryf, gwaith cyflwyno a newyddiaduraeth o safon.

Rhoddodd y doc newydd yr holl wasanaeth i'r cynhyrchwyr glo hyd nes i'r llongau fynd yn rhy fawr i ateb maint y doc.

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.

wasanaeth gwiw i ardal y Rhos; ein hyder yw y bydd NENE yn y byd newydd - o'i SAFBWYNT ei hun ac yn ei FFORDD ei hun - "llefaru eto% wrth ein pobl a'n plant, canys y mae yr angen a'r cyfle yn gymaint, ie yn FWY heddiw nag erioed.

Yn sgil y system bresennol, mae'r drefn o fonitro cynlluniau iaith yn aneffeithiol ac yn anymarferol i'w chyflawni, a chanlyniad hyn oll yw fod rhaid cwyno yn barhaus neu fodloni ar wasanaeth anghyflawn ac annigonol yn aml.

Datblygiad mwyaf arwyddocaol y flwyddyn oedd achlysur lansio BBC Cymru'r Byd, safle Cymraeg sydd bellach yn golygu bod siaradwyr Cymraeg ledled y byd, am y tro cyntaf, yn cael cyfle i weld ‘papur newydd' arlein dyddiol yn Gymraeg, wedi'i ategu gan wasanaeth chwaraeon, erthyglau, a chysylltiadau â nifer o safleoedd eraill fel Pobol y Cwm a Ffeil, y rhaglen newyddion i blant a wneir gan BBC Cymru ar gyfer S4C.

am ddeuddeng mlynedd ar hugain o wasanaeth i'r mudiad.

Syllai weithiau'n ddifrifddwys rhwng ei ddwylo ar Huw Huws, fel un yn gwrando ar wasanaeth claddu.

meddylier am yr holl dyndra rhwng gwahanol grefyddau yn ystod rhyfel y gwlff, a chofier am thatcher yn mynd i'r eglwys i wasanaeth i ddiolch am y fuddugoliaeth !

Nid peth hawdd oedd egluro gorff mor rhyfedd yw S4C - cyfuniad o wasanaeth cyhoeddus, gwasanaeth masnachol, yn cael arian gan y Llywodraeth a thrwy hysbysebion ac yn derbyn arian drwy nawdd.

Wedi cynnig ei wasanaeth, a thra'n disgwyl am long, prysurodd ymlaen â'r gwaith enfawr o aildrefnu perllannau a gerddi yr hen Blas ac ailhau y lawntiau a'r porfeydd, yn ogystal â phlannu rhai miloedd o goed i gysgodi a harddu'r lle.

am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.

Deddf Iaith a fydd yn cynnwys y sector preifat a gwirfoddol yn ogystal â'r sector cyhoeddus ac yn sefydlu'r egwyddor o'r hawl i wasanaeth Cymraeg waeth pwy yw'r darparwyr. Erbyn hyn mae'r sector cyhoeddus wedi crebachu a darperir mwy a mwy o wasanaethau gan fudiadau gwirfoddol neu gwmnïau masnachol.

Mae gan BBC CHOICE Wales, y gwasanaeth digidol newydd, y potensial i gael ei ddatblygu'n wasanaeth Saesneg llawnach ac arbennig i bobl Cymru.

Carwn gredu hynny, ond rwy'n ei amau, oherwydd gall y nawddogaeth, a'r gwobrwyon lawer sydd at wasanaeth ei Gweinidogion arwain at ddibyniaeth, os nad gwaeth ar ran ein gwŷr a gwragedd cyhoeddus.

Mae rheidrwydd cyfreithiol ar wasanaeth erlyniad y wladwriaeth i atal cyhoeddi'r papur newydd, ond nid yw wedi gwneud hynny.

Cyflwynwyd anrheg a diolchwyd i Mr Jones am ei wasanaeth dros y blynyddoedd gan Lee Evans ar ran yr aelodau.

Yn y Tabernacl, gyda'i briod Pegi, fe fu'n barod ei wasanaeth ac fe ennillodd barch ei gydaelodau.

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

Dyma wasanaeth ar gyfer myfyrwyr TGAU yng Nghymru.

At y gorchwyl hwn roedd yn gorfod cadw tennyn (llinyn mesur) at ei wasanaeth er mwyn gwneud gwaith cymen a chywir.

Wedi gadael y Brifysgol cafodd swydd mil feddyg ym Mryn Adda, Bangor, a bu galw beunyddiol am ei gyngor a'i wasanaeth gan ffermwyr y Gogledd.

Bydd y neges ar y faner yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn symudol, a hefyd yn datgan yr angen am ddeddf iaith newydd.

Cawsant wasanaeth coffa adref.

Mae tua deugain ohonynt wedi eu cyhoeddi bellach, ac ar fy ngwir, ni wn sut y byddai plant Cymru, yn enwedig plant sir Aberteifi, wedi parhau yn eu harchwaeth tuag at ddarllen Cymraeg oni bai am wasanaeth yr un dyn mawr hwn.