Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wasgaredig

wasgaredig

Mewn ardal wasgaredig fel hon ym mlaenau'r cymoedd, heb bentrefi yn ganolfannau cymdeithasol, roedd i'r ysgol a'r capel le pwysig.

Yn aml, bardd crwydrol yw ef - fel y bu Waldo am lawer o'i oes (gan ymdebygu ar lawer cyfrif i Ieuan Brydydd Hir), - a'i gyfeillion yn niferus ac yn wasgaredig.

Llithrodd cadno ar hyd y llwybr defaid a groesai Fynydd y Glog gan beri cyffro sydyn yn y ddiadell wasgaredig, ond ni chymerodd ef yr un sylw ohonynt hwy.

Pan oedd Ahab (brenin Israel) a Jehosaphat (brenin Jwda) yn cynllwynio i ymosod ar Ramoth Gilead, dywedodd y proffwyd Micheah wrthynt yn blaen beth fyddai'r canlyniad: 'Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd,fel defaid ni byddai iddynt fugail .