Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wastad

wastad

Gorweddai Robat ar wastad ei gefn yn ei wely a'i ddwy law dros ei fol.

mae tori da wastad yn dadlau : yes, but in in real world iddo fe neu iddi hi dim ond un byd real sydd yn bod.

Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.

Roeddwn i wastad yn 'i leicio fo mae o'n gwbod 'i hun.

Byddai 'storiau Wil Fach-wen' ar fynd yn y chwarel yd wastad, a hyd heddiw clywir rhai o'r hen chwarelwyr yn eu hadrodd a'u hailadrodd ar gongl y stryd neu yn eu cartrefi.

Gallwn weld, hyd yn oed mor fuan wedi ei chyfarfod, fod meddwl wastad yn mynd i beri trafferth iddi.

Erbyn hyn cerddai ar ddaear wastad, y bêl yn gwmni iddo o hyd er ei bod wedi codi'n uwch.

Oni wyr archifwyr cenedlaethol Ffrainc y dylsid naill ai gadw rhywbeth fel hyn yn wastad, heb ei blygu o gwbl?

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddþad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tþ Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

O'r awyren gwelwn oddi tanom wlad wastad, isel, yn ymestyn bob ochr i'r afon Mekong, afon sydd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y wlad, afon sydd yn chwyddo i ffurfio llyn Tonle Sap ar ei ffordd i'r môr.

Cyn iddo fynd i Gadair y Cyngor bu am ryw bum mlynedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, yn gofalu am raglen gyhoeddi'r Eisteddfod ac yn gwirio a chadarnhau ei thestunau llên flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amryfal is-bwyllgorau lleol a'r canol.

Yr ymateb swyddogol i'r newidiadau yn Nwyrain Ewrop oedd bod y gomiwnyddiaeth Sofietaidd wastad wedi gwneud camgymeriadau yr oedd y Cubaniaid wedi eu hosgoi.

Mae gwyddonwyr yn wastad yn cadw cofnod o'r cynlluniau ymchwil am y rheswm hwn, felly beth am i chwi wneud yr un peth?

Mae'n gardyn trwchus â choes sy'n plygu'n wastad ar y cefn.

Roedd yn þr clên bonheddig a fyddai wastad yn galw.

Pan ddaeth o yma gynta, roedd o'n wicked iawn, ac Abel mor strict, a mi fyddwn wastad yn cymryd 'i bart o, mae o'n gwbod.

Roedd o yno'n wastad, mor agos fel y gallai gyffwrdd ag ef pe meiddiai.

Roedd hi wastad yn dotio at floda.

Mae Wrecsam wastad yn enwi timau cryf ar gyfer gemau'r Cwpan.

Cusenais Meinir wedi iddi orwedd ar wastad ei chefn yn y gwely, a rhybuddiodd fi unwaith eto.

Wrth wneud gwaith drama ar hysbysebion efo disgyblion ysgol Uwchradd, 'roeddwn wastad yn ymwybodol fod y fformiwlau yr oeddem yn eu trafod yn y dosbarth yn hen ffasiwn ac or-syml.

Mae 'na wastad brysurdeb yma - pawb yn tendio i'w gar, yn ei fwydo, ei fwytho, ei lanhau, ei drwsio.

Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.

Syrthiodd y cawr yn llipa ar wastad ei gefn a'r twrw yn ysgwyd y ddaear gyfan fel daeargryn mawr.

Mae'n wastad yn fy synnu sut mae plant yn hapus i ddarllen yr un hanesion cyfarwydd dro ar ôl tro mewn diwyg a geiriau gwahanol.

Ond os bydda i'n chware fe fydda i'n rhoi cant y cant a rwy'i wastad yn falch o wisgo'r crys coch.

Mae e wastad yn trïo creu yr annisgwyl a mae e wedi gwneud gwaith da gyda chlwb Castell Nedd.

Erbyn wyth o'r gloch, mae Duw a wyr faint o famau a'u plant o dan bump oed yn eistedd mewn Duw a wyr faint o gorlannau, ar ddaear sy'n wastad a melyn.

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

O'dd e wastad yn dweud wrtha i - ‘Mae Stephen Hendry wedi dy gâl di 'to.

Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.

Mae plant wastad yn hoffi cymeriad maen nhw'n eu hadnabod o lyfrau eraill (fel Smot, Tecwyn), ac er bod cefn y llyfr hwn yn awgrymu ei fod yn addas i blant o ddwy i fyny, credaf ei fod yn addas i blant llawer ieuengach na hynny, sydd yn dechrau adnabod anifeiliaid.

"Mae wastad yn rhyw fath o 'daro bargen' rhwng diogelwch a chyflwyno gwasanaeth.

Roedd o wastad yn pwyso ac yn mesur pob dywediad o eiddo neb.

Heb edrych ar ei wyneb e, fe dynnes fy nghylleth boced allan, roedd wastad awch fel raser ar honno gen i, a chydag un ergyd mi dorres y rhaff.

Bydd gwleidyddiaeth yn rhan o geisio cadw'r ddesgl mor wastad â phosib rhwng y gwledydd.

Y tebyg yw y byddai'r ddau wedi cytuno a Pierre Teilhard de Chardin : "Resonance to the all is the keynote of pure religion and of pure poetry." Yn achos Waldo daw hyn i'r golwg ar wastad ei ymateb i amgylchiadau, e.e.

Maen wastad yn golchi eu dwylo ar ol arbrofi.

Cofiwch eich bod yn wastad yn gofyn caniatad rhywun mewn oed cyn cymryd unrhyw beth o'r gegin.

Os taenwch yr ewyn yn wastad ar eich bys fe welwch greadur bach melynwyrdd yn llechu ynddo, larfa pryfyn eithaf cyffredin, llyfant y gwair.

Mae yn edrych yn gul ar y copa, ond mae yno lecyn hollol wastad ar y pen; yn wir mi allasech wneud cae pêl- droed yno ond ichwi glirio ychydig o gerrig.

"Perffeithrwydd yw nod yr eilradd" "Rhyw y Sais, drais a lladrad." "Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd." "Y lleiafrif sydd wastad yn iawn." "Bydd yn ymarferol - mynna'r amhosibl." ac un arall, sy'n addas iawn siŵr o fod: "Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch."

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Mae'n ddrwg gen i na fedra i gynnig y moethus-rwydd sy'n siwr o fod yn beth hollol naturiol i chi yn eich gwaith bob dydd.' Sgubodd bentwr o bapurau oddi ar gadair anghyfforddus yr olwg, gan ddal ei gwynt rhag iddo ddarganfod nad oedd y coesau'n wastad hyd yn oed wedyn.

Rhaid oedd i'r llwybr hwn fod mor wastad â phosib i helpu'r ceffylau ac felly torwyd i lawr drwy'r graig mewn mannau ac ambell waith i ddyfnder o bymtheg troedfedd a mwy.

Ar wastad arall, ni allai hyn oll beidio a'i amlygu ei hun ym marddoniaeth Waldo : mae ei syniadau wedi eu llwytho a'r amalgam hwn o feddwl a theimlad, ac nid yw'n syn fod ei eiriau wedi eu llwytho yn yr un modd hefyd.

Mae'r holl gystadleuaeth yn sydyn wedi codi i ryw wastad newydd.

Caniateais innau iddynt wneuthur feUy, a gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymerasant y chwart cwrw a chodasant ef i fyny, a thywalltasant cwbl ynghyd â Uawer ychwaneg, i lawr i fy ngwddf, fel i bwU o dwr.

Mae Ef yn fwy na'i roddion, mae Ef yn fwy na'i ras, Yn fwy na'i holl weithredoedd o fewn, ac o tu maes; Pob ffydd, a dawn, a phurdeb, mi lefa' am danynt hwy, Ond arno ei Hun yn wastad edrycha' i'n llawer mwy.

Wedi gwneud y gair cyntaf awn i'r bag eto am fwy o lythrennau i gadw'r nifer yn wastad ar saith.

Anghynnil fyddai talu diolch yn ffurfiol : buasai'n wastad yn ddilochgar - am bob cwys a droesai ac am bob glasiad a yfasai ac am bob merch a wenasai arno.

Cyflwynodd Mabon a Ffederasiwn Glowyr De Cymru dystiolaeth fanwl am weithredoedd bwystfilaidd y polîs, ond yn wastad cawsant ateb pendant a boneddigaidd oddi wrth Churchill: 'Na', nid oedd sail ddigonol i gyfiawnhau cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.

Mae'r galon wastad yn dweud taw Cymru fydd yn ennill ond Awstralia yw'r ffefrynnau am y cwpan a'r tîm cryfa yn y byd.

Ar ambell noson o aeaf normal byddai rhywbeth ganddo ar ol i'w wneud yn wastad, o leiaf am ryw orig.

Ond roedd y pen yn wastad a chwerthinllyd o fychan.

Ar y llaw arall maent yn gorfod bwyta mwy, er mwyn cadw tymhered eu corff yn wastad, a hefyd i gynhyrchu ceratin, sef stwff i gynnal y plu.