Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wastadol

wastadol

Yr oedd wedi gosod y safon iddo ef ei hun mor uchel fel yr oedd ei ddiffygion yn wastadol ger ei fron; ond edrychai ar eraill, nad oeddynt, yn ôl fy meddwl i, yn haeddu eu cymharu ag ef, gydag eiddigedd.

Roedd yna ryw synau rhyfedd o'i gwmpas bob amser; byddai'n anadlu'n hyglyw, ddrafftiog, yn ogystal â chreu sŵn sipian yn ei fochau, fel petai ar ganol cnoi'n wastadol.

Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?

Bu+m lawer yn ei gwmni o dro i dro, a bob amser, o bob peth, byddai gogwydd ei feddwl yn wastadol at ddaioni ac at gydymdeimlad ag uniondeb a phurdeb.