Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wastraffu

wastraffu

Arferai gynghori llenorion ifanc i ddefnyddio geiriau byrion, perthnasol, a brawddegau clir synhwyrol, gan fod papur yn rhy ddrud i'w wastraffu ar ddwli, a darllenwyr yn rhy brin a gwerthfawr i'w colli am byth.

Bydd hyn yn cadw'r blodau rhag hadu ac felly wastraffu nerth y bylbiau.

Rhoi i'r rhai sydd ganddyn nhw'n barod fu prif ysgogiad y Toriaid dros y pymtheng mlynedd diwethaf gan wneud y tlawd yn dlotach ond rhoi i gyfran helaeth o'r dosbarth canol hyd yn oed arian i'w wastraffu.

Bagiau tê nid tê rhydd ddefnyddiwn yn ein tū ni, ni chaiff yr un ei wastraffu, tynnaf y bagiau gwydn a gwasgaraf y cynnwys rhwng planhigion grug.

Rŵan, rhag i ni wastraffu dim amser - ydi'r bibell efydd yn barod!" "Ydi, dacw hi." "Reit, rho di dy glust wrth un pen ac fe siarada i y pen arall.

Yr hyn a symbylodd Anweledig i gynhyrchu Gweld y Llun oedd rhywbeth ddywedodd y comedïwr Billy Connoly yn un o'i sioeau yn y Neuadd Albert yn Llundain - roedd o'n dychanu'r llywodraeth am wastraffu arian ar arfau niwclear.

Fe'i rhoir inni nid i'w wastraffu ond i'w ddefnyddio i'r eithaf.