Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wead

wead

Mae'r emynau hynny yn rhan o wead cof ac ymadrodd nifer fawr ohonom, yn arbennig felly y rheini a faged gyda'r Annibynwyr.

Yn ogystal a bod y llyfr wedi'i sgrifennu'n raenus, mae'r cyfanwaith yn wead rhyfeddol o gain.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Mewn gwlad nad oes ganddi ei llywodraeth ei hun ac sydd wedi dod yn rhan o wead gwleidyddol gwlad arall, a honno'n genedl llawer mwy, bydd teyrngarwch pobl yn dechrau simsanu a'u hunaniaeth yn gwanhau.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Mae'n amlwg ein bod ni'n gweld yn hyn ganlyniad dewis a wnaed gan Hiraethog dro ar ôl tro yn ystod ei yrfa fel nofelydd, sef dewis peidio â nesa/ u at wead a sylwedd profiad ei fyd ef ei hun.

Un o dasgau cyntaf Menter Cwm Gwendraeth pan lawnsiwyd hi dros flwyddyn yn ôl fel cynllun peilot i hybu'r laith yn y gymuned oedd meddwl am ffyrdd i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl Cwm Gwendraeth ynglŷn â phwysigrwydd a gwerth parhad y Gymraeg fel elfen annatod o wead a chymeriad yr ardal.