Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weddill

weddill

Ond bu cofio amdano'n busnesu darllen ei llythyr personol hi yn ddifyrrwch iddi am weddill ei hoes.

Tiger Woods sydd ar y blaen, gyda naw twll yn weddill.

Trwy weddill y ganrif ddilynol aethpwyd ati i gymharu ieithoedd â'i gilydd er mwyn olrhain nodweddion y famiaith wreiddiol a cheisio adlunio'i ffurfiau.

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

Hwyrach mae ein taflu at ein gilydd yn y ffordd fwyaf dinistriol ac annymunol fydd y canlyniad, wrth i ni fod yn esgymun gan weddill y byd, heb neb gan y naill ond y llall i afael ynddo a phwyso arno.

Felly, treuliais weddill y dydd a hanner y nos mewn cell yn nhwlc Aberteifi.

Dadfeilio y mae popeth o wneuthuriad dyn, a thyfiant naturiol yn adfeddiannu hynny sy'n weddill o'i diriogaeth wreiddiol ...

Roedd tair wiced yr un hefyd i Darren Thomas a Dean Cosker a roedd yna 14 o belennaun weddill wrth i Forgannwg ennill o ugain rhediad.

Yr oedd berfa mor wahanol i weddill hil olwynog ei chyfnod am ei bod mor ddibynnol ar ddyn.

Un, dau, tri Greenhill oedd ein tai ni a rhifau saith, wyth a naw yn eu dilyn ymhen ychydig, ond yn y bwlch rhyngddyn nhw roedd tomen fawr o rwbel y cyfan a oedd yn weddill o rifau pedwar, pump a chwech.

Yn achlysurol, bydd wardeiniaid y parciau cenedlaethol yn rhai o wledydd Affrica yn cael eu gorfodi i ladd cannoedd o eliffantod er mwyn rheoli'r twf, a sicrhau bod digon o fwyd i gynnal y rheiny sy'n weddill.

'Roedd hi'n amlwg o'r dechrau fod Stacey yn wahanol iawn i weddill y teulu.

Yna edrychodd ar weddill ei chorff.

Heddiw mewn llawer ardal gwelir adeilad mawr ar agor i gynulliad bychan ar y Sul ac yna ar glo am weddill yr wythnos.

Nodir hyd y cyfnod prawf yn eich llythyr cynnig a phenderfynir yn ystod y cyfnod hwnnw ar eich addasrwydd i'r swydd am weddill hyd y cytundeb hwn.

Bu hyn yn foddion iddo orfod dioddef oddi wrth gryd-y- cymylau weddill ei oes.

Doedd dim son am weddill y dosbarth.

Dymunodd hithau (i) ar i Dduw ddadmer Maelon (ii) gael gwrando ar weddi%au cariadon er mwyn cael dod â chariadon at ei gilydd neu wella'r clwyfau a achosir gan serch diwobrwy (unrequited love) (iii) aros yn ddibriod am weddill ei hoes.

Ond mae llywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Des Shanklin, wedi dweud y bydd Hughes yn aros gyda Chymru am weddill ei gytundeb.

Er mai yn Lambeth yn Llundain y ganed ef, fe'i magwyd ym Mhen-y-groes ac acen hyfryd shir Gâr fu ganddo weddill ei oes.

Yn y fro hon y treuliodd weddill ei ddyddiau.

Cymraeg yn cael lle fel iaith crefydd a Saesneg yn cael monopoli ar weddill bywyd.

Iddyn nhw, ffordd o ddial ar droseddwyr yw eu carcharu a'u cadw dan glo lle na allant amharu ar weddill cymdeithas.

Yn wyth oed cafodd ddamwain a thorri ei glun, ond ni soniodd am y peth ar y pryd a gadawyd ef yn anabl am weddill ei oes.

Gohiriwyd y gêm ar Barc Jenner oherwydd cyflwr y maes gyda chwarter awr o amser ychwanegol yn weddill a TNS ar y blaen 3 - 2.

Yn achos Ail Iaith Cynradd yr oedd pob cydlynydd wedi cynnig hyfforddiant i weddill yr adran ar greu unedau dysgu pwrpasol.

Er cymaint fy ngofidiau yn Nhrefeca fe roddwn weddill fy mywyd nawr i ddod nôl.

Daliais fy ngafael yn safle bachwr y tîm cyntaf weddill fy amser yn Lerpwl.

Fe gurodd hi Sara Mountford yn y rownd gynderfynol cyn ennill o ddau dwll ac un yn weddill yn erbyn Sarah Jones o Abertawe yn y rownd derfynol.

Ond gyda hanner munud yn weddill, bu oedi yn amddiffyn Wrecsam a sgoriodd Connor ei ail gôl a Wrecsam yn edifarhau am fethu'r holl gyfleon.

Nid yw gwyddonwyr, gwleidyddwyr, a phobl yn gyffredin ond yn dechrau sylweddoli y pwysigrwydd ynghlwm â deall y prosesau sy'n digwydd yn ein moroedd, a'u heffeithiau ar weddill yr amgylchfyd.

Cythruddodd yr athro beth wrth weled y wen, a'i geryddu mewn modd a barodd i weddill y dosbarth hyd yn oed anesmwytho.

Teitl llawn Stori Sam yw--"Stori Sam am yr hyn nis gwelodd neb erioed ond ef ei hun", a'r disgrifiad cyntaf o Sam a gawn yn y llyfr yw "Yr oedd yn wahanol iddynt oll" (i weddill y teulu) (t.

Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.

Mae e allan am weddill y tymor gydag anaf i'w bigwrn.

Ac yma y bu fyw weddill ei oes hir.

Disgwylir gweld cyfrifon y gronfa yn cael eu cadw ar wahân i weddill y gwariant ar y projectau.

Ffermwr a threthwr fu ef weddill ei oes, a dangosodd nad oedd dyn a'i ben yn llawn o wyddorau y mwyaf cymwys i drin tir.

Mae blwyddyn yn weddill o gytundeb Hollins gydag Abertawe.

Ond roedd y sgôr yn gyfartal gyda dim ond wyth munud yn weddill a bu raid cael dwy gôl gan Paul Scholes i Man U ennill.

Dyna'r drwg.' 'Ydy hyn yn wir ledled y byd?' 'Ychydig iawn a wyddon ni'r werin am weddill y byd.

Os oes rhyw symbyliad arall, bydd eich gwaith yn amddifad o gywirdeb, a bydd yn rhythu arnoch weddill eich oes fel darlun o ddyn a gwên ffals ar ei wyneb.

O flaen torf o dros dair mil, roedd Llanelli'n colli'r gêm o naw pwynt i chwech, a dim ond ychydig funude o'r gêm yn weddill, pan lwyddodd Andy Hill i groesi am gais a droswyd gan Phil Bennett, eiliade yn unig o'r diwedd.

A ffwrdd a ni am westy am weddill y noson.

Cysgodd y peilot yn dawel yno weddill y noson er na thynnodd ei ddillad iddi amdano.

Tu draw iddynt yr oedd coesau hir mewn trowsus du, rhesog, hynod barchus, a thu draw i'r rheini wedyn, mewn hanner cylch o galedwch cadair swyddfa, weddill corff yr anfarwol Ap Menai.

Ond dyma dystiolaeth drawiadol sy'n dangos sut y buwyd ym more oes yn hau hadau'r serch a goleddodd Davies trwy weddill ei fywyd tuag at iaith, llenyddiaeth a chrefydd Cymru.

Yr hyn oedd yn cymhlethu pethe oedd bod y chwaraewyr hynny am i weddill y tim beidio â mynd hefyd fel na fydde neb wedyn yn gwybod pwy oedd wedi dewis peidio mynd.

Bu rhaid i rai ffermwyr brynu porthiant fis ar ol iddynt werthu peth a fyddai fel arfer wedi bod yn weddill.

Bydd pedwar cam i'r ymgyrch: (1) caiff pob perchennog o 48 awr hyd at 90 diwrnod i wella'r sefyllfa; (2) dirwyon o hyd at 2.5m peseta; (3) atafaelu eiddo os na wneir sylw o argymhellion yr arolygwyr; (4) estyn y ddeddfwriaeth i weddill y gymuned.

Bydd y gêm yn rownd wyth ola'r Cwpan Pêl-droed Cenedlaethol, rhwng Y Barri a TNS - honno gafodd ei gohirio gyda dim ond chwarter awr o amser ychwanegol yn weddill - yn cael ei hail-chwarae nawr yn Y Barri ddydd Iau.

Yn ddamcaniaethol yr oedd gwahaniaeth pendant rhwng y boblogaeth Seisnig gymharol fechan, a oedd wedi'i sefydlu yn y bwrdeistrefi ac ar y tir gwaelod (yn enwedig yn y Mers), a'r boblogaeth Gymreig, yn wŷr rhyddion ac yn gaethion, a oedd yn trin y tir a oedd yn weddill.

Mi wnes yn saff o 'mhethe am weddill ein harhosiad yn Llunden drwy baratoi rhestr o'r manne i ymweld â nhw.

Trydan i ffwrdd am weddill y noson, sgwrsio hefo Kate yng ngolau cannwyll.

Cydnabuwyd mewn ysbryd hael iddo ymestyn dylanwad Plaid Cymru o ffiniau cyfyng y Gymru Gymraeg i weddill y wlad.

Petai'r polisi yna'n cael ei gweithredu drwy weddill Cymru, yna byddai tua cant o ysgolion yn wynebu bygythiad.

Ar ôl hyn mae un bennod ar ddeg yn weddill, sef traean o'r llyfr a gysegrir yn gyfan gwbl i hanes estynedig y garwriaeth hon.

Ddeudodd Gwyn yr un gair o'i ben ond rhythu'n sorllyd ar weddill llwm y brecwast.

Gobeithio - yng Nghymru - yr ysgogith hynny y pleidiau eraill i dorchi llewys hefyd - ac osgoi'r sefyllfa debygol trwy weddill y Deyrnas Unedig lle fydd etholiad pwysig yn dennu nifer truenus i chwarae rhan ynddo.

Ymlaen ac ymlaen y sisialodd y gwrachod, drwy weddill y rhestr o eiriau yn dechrau â 'B'.

Ym Mallwyd y treuliodd weddill ei oes.

Doedd gen i ddim syniad sut i fynd i lawr weddill y mynydd.

Yn araf cododd ei olygon i chwilio am safle addas i weddill y dodrefn.

Ond ma' rhaid ichi ddod nol nawr am dipyn bach at weddill y wyllys, ac fe ges i'r hanes gan y ficer 'i hunan.

Gydag ugain mund o'r hanner cynta yn weddill daeth Wrecsam yn gyfartal.

Wrth wneud cyllideb am flwyddyn, yn aml fe wneir amcangyfrif manwl am dri mis, dyweder, ac un brasach am weddill y cyfnod.

Y golau oedd y peth cyntaf, a hwnnw yn ddigon i beri i ambell un ryfeddu ato weddill ei ddyddiau.

Ychydig iawn o gyfle oedd yna i fwynhau chwarae ac adloniant weddill y flwyddyn gan bod dathliadau o unrhyw fath yn cael eu cyfyngu i goffa/ u dyddiau gŵyl sant yr eglwys leol a'r Suliau.

'Rhyw bum munud oedd yn weddill cyn diwedd y 90 mund pan gês i gyfle i sgorio.

Ategodd Mair Roberts, y Llywydd Rhanbarth newydd, y diolch i'r swyddogion ac aethpwyd ymlaen at weddill y materion i'w trafod.

Roedd Derby'n ddyledus iawn i'w capten Dominic Cork am sgorio 83 heb fod mâs gan sicrhau buddugoliaeth i'w dîm gyda phedair pelawd yn weddill.

Mae'n wyrdd a choediog, a chaiff bwyd a gynhyrchir yn Ansokia ei ddosbarthu i weddill y wlad.

Pan fu farw ei briod, ni bu yn hir cyn symud i Argoed, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau hyd yr ychydig am amser y bu raid iddo ymgartrefu ym Mhlas-y-Llan.

Ond i'w chymdogion arwynebol ac i weddill y pentrefwyr, yno y byddai hi bob amser, ar stôl deirtroed o flaen drws ei bwthyn, yn nyddu, a swp o'r gwlân Cymreig gorau ar y llechen las wrth ei throed.

Cafodd William Huws barch a godai oddi ar ofnadwyaeth weddill y siwrnai.

Unwaith eto byddai merched ifanc iawn yn ymuno â lleiandai ac roedd disgwyl iddynt addo bod yn dlawd, yn bur ac yn ufudd am weddill eu hoes cyn eu bod yn un ar bymtheg oed.

Nododd un y cafwyd cymorth wrth gynnig hyfforddiant i weddill yr adran gan dîm ymgynghorol y sir.

Byddai gan Picsi ei gath for anferth i frolio yn ei chylch am weddill yr haf.

Roedden nhw i gyd mâs am 143 gydag un belawd yn weddill.

Y mae rhai o'r amheuon ynglŷn â gallu'r llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau cyflogaeth lawn yn deillio o'r ddwy dybiaeth sydd yn weddill sef (vi) a (vii).

Berwodd am weddill y wers.

Yr oedd cydlynwyr pump ysgol heb gynnig hyfforddiant i weddill yr adran.

Gwerthir y rhai sy'n weddill yn unig.

Yr oedd y nifer fechan a adawyd yn weddill yn ddigon serch hynny, oherwydd yn fuan iawn ar ôl anterth y clwy yr oedd cwningod ar gynnydd eilwaith.

Ond waeth i ni heb ~ meddwl y gallwn iawn ddchongli'r pregethau hyrmy heddiw, oherwydd nid ydynt ar gad i ni: rywfodd, ys dywed Cynhafal Jones, pan gymerwyd y pregethwyr i ogoniant, fe gollwyd eu pregethau.~ Yr ychydig bregethau y gwelwyd yn dda eu cyhoeddi mewn print sy'n weddill.

Mae'r tân yn cael ergyd drom ar Bethan yr wythnos hon, ac fe fydd yn effeithio arni am weddill ei hoes, ac i Karen mae'r ty a losgwyd yn adlewyrchu y gwacter yn ei bywyd ar hyn o bryd.

Rhaid fod si'r peiriannau wedi ei yrru i gysgu oblegid ni chofiai ddim am weddill y daith, ond cofiodd iddo neidio'n sydyn yn ei sedd wrth glywed llais yn ei ymyl.

Yr oedd hi'n ddiwrnod arbennig o dda i Forgannwg ac am wyth o'r gloch neithiwr doedd ond angen 57 o rediadau arnyn nhw i ennill gyda naw wiced yn weddill.

Wedi'r cyfan, mi ddois i yma i geisio bod yn dipyn bach o Gymro am hynny o oes sy'n weddill imi.

Gwnâi hynny trwy anfon llythyrau am gefnogaeth i'r eglwysi, i'r awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, yng Nghymru a thrwy weddill y Deyrnas Gyfunol.

Meddyliwch am y llogau gewch chi ar ddau gan mil, digon i'ch cadw chi'n ŵr bonheddig weddill eich oes, digon i roi sicrwydd i'ch mam.

Yn yr ymchwil daer am eglurhad a fyddai'n gosod y troseddwyr ar wahân i weddill y boblogaeth, caiff eu hoedran ifanc ei bwysleisio'n aml iawn.

Prin fod yn weddill erbyn hyn ddiwydiant i sylwi arno a'i ddelweddau'n realaidd.

Câi'r gŵr y moch, yr ieir ac un gath o blith yr anifeiliaid, a'r wraig weddill y cathod, y defaid a'r geifr.