Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wefr

wefr

Teimlaf wefr bob tro y deuaf o hyd i rywogaeth nas gwelais o'r blaen ond rhwng cloriau llyfr.

O'r diwedd, dyma Dewi Emrys yn ennill un o brif lawryfon yr Eisteddfod, ond gyda chasgliad barddonllyd a di-wefr.

Soniodd lawer wrthyf am y wefr a gawsai o forio 'rownd y byd', er iddo fy ngadael mewn peth dryswch pan hysbysodd fi, 'Rydw i wedi bod ar y chwe cyfandir bellach.'

Gyda'r Diwygiad Efengylaidd dychwelodd yr hen wefr.

Yn yr oriel uwchben y grisiau roedd y gerddorfa fach o bum chwaraewr wedi dechrau cyfeilio i'r dawnswyr, a daeth yr hen wefr gyfarwydd dros Meg nes iddi deinlo bod ei thraed eisoes wedi magu adenydd.

Roedd y capel yn rhwydd lawn y noson honno hefyd ond ni chafwyd yr un wefr ac yn hytrach na chael "encore% mynd allan o diwn wnes i.

Gary Teichmann yn ei gêm olaf gafodd y wefr o godi'r tlws.

Daeth Gweneth-Ann Jeffers, o Loegr, a chryn wefr i'r gynulleidfa gyda'i chân gyntaf.

Ond maen amhosib anwybyddu yr hyn a ddywedodd David Dobson yn y Dail Express yn dilyn y digwyddiad a roddodd gymaint o wefr i ohebwyr a gwneuthurwyr brâs.

Yn wir, mae'r ddau yn mynd yn hollol wallgo ac wrth i'r bît fynd yn ei flaen mae yna wefr wrth glywed gweddill aelodau'r grwp yn ymuno.

A son am wefr a gefais pan aethom unwaith am drip rownd Sir Fon.

Mae rhywun yn cymryd yn ganiataol ei bod hi'n rhy ifanc i gofio y wefr gerddorol a sgubodd fyd cerddoriaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Ond 'does yna yr un all roi yr un wefr wrth gofio amdanyn nhw ag a rydd Nedw.

Fe geir yma wefr y caru cyntaf ond gwewyr y dadrithio hefyd.

Da oedd cael rhannu peth o'r wefr a'r llawenydd.

Troi a siglo fel un, yn gytun ac yn wefr i gyd.

Anghofia' i fyth ychwaith y wefr yn un o wersylloedd mwyaf anghysbell y Cwrdiaid o weld milwyr ifainc yn rhoi eu gynnau ar eu cefnau ac yn cario'r hen, y musgrell, y claf, gwragedd beichiog a babanod i hofrenyddion i'w cludo adref.

Awdl draethodol, ddi-wefr ydoedd, llam enfawr yn ôl i ddechrau'r ganrif.

A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Hi oedd enillydd ail noson Canwr y Byd Caerdydd, ac os na chawn ni wefr debyg eto yng nghystadleuaeth eleni fydd neb yn cwyno.

Cefais gryn fraw o gofio'r wefr a'r rhuthr sydyn o adrenalin a brofais wrth brynu chwe phecyn o gardiau 'Dolig ym mis Awst.

Cyfrifoldeb gohebwyr teledu oedd cyfleu peth o'r wefr honno'n ogystal ag amlinellu pwysigrwydd y cytundeb diarfogi a arwyddwyd gan Mr Reagan a Mr Gorbachev yn y Tŷ Gwyn.

Ynghlþn â'm gwaith yn casglu llyfrau nid anghofiaf byth y wefr a deimlais yn llyfrgell Gwilymm Ardudwy wrth ddod o hyd i lyfr llawysgrif William Phylip y bardd Cromwelaidd.